Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Crynodeb Gweithredol
Mae’r adroddiad hwn yn archwilio ymagweddau at hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru. Mae’n amlygu’r heriau sy’n wynebu ysgolion uwchradd ac yn cynnwys cipluniau arfer effeithiol. Mae’r adroddiad yn defnyddio gwybodaeth o ymweliadau â 24 o ysgolion uwchradd ac ysgolion pob oed, trafodaethau â swyddogion o 10 awdurdod lleol a chanfyddiadau arolygon cenedlaethol ar gyfer penaethiaid, staff a disgyblion.
Mae ymddygiad cadarnhaol yn sail i addysgu a dysgu effeithiol ac yn cefnogi cynnydd academaidd. Fodd bynnag, yn ystod arolygu, mae arweinwyr a staff ysgolion wedi dweud y bu dirywiad yn ymddygiad ychydig o’u disgyblion ers cyfnod y pandemig. Yn ychwanegol, bu cynnydd cenedlaethol mewn gwaharddiadau cyfnod penodol a pharhaol. Fodd bynnag, gan nad oes system genedlaethol i gasglu data ar achosion o ymddygiad gwael mewn ysgolion ar hyn o bryd, mae deall graddau llawn y broblem yn parhau’n anodd.
Mae’r dystiolaeth a gasglom ar gyfer yr adolygiad thematig hwn yn awgrymu bod llawer o resymau pam y gallai disgyblion fod yn dangos ymddygiad heriol. Mae’r rhain yn cynnwys ansefydlogrwydd teuluol, pwysau economaidd-gymdeithasol, problemau iechyd meddwl ac anghenion dysgu ychwanegol. Mae problemau ymddygiad cyffredin a nodwyd gan ysgolion yn cynnwys tarfu parhaus ar lefel isel, gweithredoedd o herio, ac i raddau llai, gwrthdaro corfforol. Mae ffactorau allanol fel dylanwad y cyfryngau cymdeithasol a materion yn gysylltiedig â chymunedau, fel ymddygiad gwrthgymdeithasol, wedi arwain at weld mwy o ymddygiadau cymhleth mewn ysgolion. Datgelodd ymatebion i’n harolygon cenedlaethol ymhlith staff a disgyblion [tudalennau 34 i 58] bryderon am darfu ar lefel isel mewn gwersi, ymddygiad gwael mewn coridorau, camddefnyddio ffonau symudol, a gorbryder cynyddol ymhlith disgyblion. Amlygodd arweinwyr hefyd fod anawsterau wrth sicrhau cymorth arbenigol amserol.
Yn gyffredinol, mae dulliau ysgolion sy’n cael anhawster yn rheoli ymddygiad disgyblion yn anghyson neu nid oes ganddynt bolisïau a phrosesau clir. Gallai cyfyngiadau o ran cyllideb a chefnogaeth allanol annigonol fod yn ffactorau allweddol, hefyd. Mae gan yr ysgolion mwyaf llwyddiannus ddisgwyliadau uchel o’u disgyblion a’u staff. Yn yr ysgolion hyn, mae’r arweinyddiaeth lles yn gryf ac yn cael ei chefnogi gan bolisïau ymddygiad effeithiol.
Fel arfer, ceir cysondeb mewn arferion rheoli ymddygiad a dysgu proffesiynol rheolaidd ar gyfer athrawon. Gallai ysgolion effeithiol roi dulliau sy’n ystyriol o drawma ar waith hefyd i gefnogi anghenion emosiynol disgyblion, a chynnal arferion adferol rheolaidd. Mae ymgysylltu â rhieni a phartneriaethau cymunedol cryf hefyd yn allweddol i gynnal diwylliant o ymddygiad cadarnhaol. Mae’r rhain yn helpu meithrin ymdeimlad o berthyn ar gyfer disgyblion.
Cynhaliom arolygon o ddisgyblion, staff, a phenaethiaid. Mae canfyddiadau’r arolygon hyn yn dangos gwahanol amgyffrediadau o beth yw ymddygiad gwael a pha gymorth sydd ei angen. Er bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn disgrifio ymddygiad mewn modd cadarnhaol, mae staff a phenaethiaid yn mynegi pryderon am darfu cynyddol a’r cymorth cyfyngedig sydd ar gael. Mae disgyblion yn pwysleisio’r angen am barch ar y ddwy ochr, gan alw am driniaeth deg ac ymagweddau cyson at ddisgyblaeth. Mae athrawon yn amlygu materion cyffredin fel herio, cam-drin geiriol, a chamymddwyn ar goridorau. Mae penaethiaid yn pwysleisio’r angen am bolisïau cenedlaethol cliriach, cyllid cynyddol, a mwy o ddarpariaethau arbenigol. Yn eu cyfanrwydd, mae ymatebion i’r arolygon yn amlygu pwysigrwydd gorfodi polisi cyson, perthnasoedd cefnogol, a chefnogaeth allanol effeithiol.
Mae’r adroddiad yn argymell y dylai ysgolion gryfhau eu systemau rheoli ymddygiad trwy gynnwys yr holl randdeiliaid, gan gynnwys ysgolion bwydo, rhieni a gofalwyr, llywodraethwyr ac awdurdodau lleol, i ddatblygu polisi a phrosesau clir a chyson. Yn ychwanegol, dylai staff gael hyfforddiant penodol ar reoli ymddygiad aflonyddgar, yn enwedig gan ddysgwyr bregus. Dylai gwasanaethau awdurdodau lleol ddarparu cefnogaeth amserol, rhannu gwybodaeth berthnasol am anghenion a phrofiadau disgyblion yn effeithlon os yw disgyblion yn symud o fewn yr awdurdod lleol, neu’r tu hwnt iddo, a mabwysiadu ymagwedd gyson at ymgysylltu â theuluoedd. Anogir Llywodraeth Cymru i ddiweddaru canllawiau cenedlaethol ar reoli ymddygiad a lansio ymgyrch genedlaethol ar ymddygiad cadarnhaol. Dylai rhaglenni addysg gychwynnol athrawon ac ymsefydlu hefyd gynnwys rhaglenni cynhwysfawr ar reoli ymddygiad.