Hanfodion Estyn: Pecyn cymorth i athrawon ar gyfer ysgolion ac UCDau
Croeso i Hanfodion Estyn – eich cyswllt uniongyrchol â’r mewnwelediadau, arweiniad a’r adnoddau ymarferol diweddaraf gan arolygiaeth addysg Cymru. Rydym yn gwybod bod arweinwyr canol, athrawon, darlithwyr a staff cymorth yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio profiadau dysgu plant a phobl ifanc bob dydd. Dyna pam rydym yn dod â gwybodaeth atoch yn uniongyrchol.
Rydym am godi ymwybyddiaeth am y broses arolygu, egluro sut olwg sydd ar arolygu yn ymarferol, mewn gwirionedd, ac amlygu sut gall canfyddiadau ac adnoddau Estyn gryfhau addysgu a dulliau pwnc-benodol ar draws pob cyfnod. Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi yn eich gwaith trwy rannu diweddariadau ac offerynnau clir a hygyrch, ynghyd â myfyrdodau gonest gan ddarparwyr – gan sicrhau bod ein hymdrechion cyfunol yn parhau i ysgogi gwelliant ystyrlon i ddysgwyr ledled Cymru.








