Gweithgarwch dilynol - Estyn

Gweithgarwch dilynol


Teacher and pupil in cooking class

Yn ystod arolygiadau craidd, bydd y tîm arolygu’n ystyried a oes angen unrhyw weithgarwch dilynol ar yr ysgol neu’r UCD. Mae dau fath o weithgarwch dilynol statudol, sef:

  1. Mesurau arbennig
  2. Gwelliant sylweddol

Mae mesurau arbennig a gwelliant sylweddol yn mynnu gweithgarwch monitro gan arolygwyr Estyn, a fydd yn ymweld â’r ysgol neu’r UCD i werthuso’r cynnydd. Ar hyn o bryd, nid ydym yn cyhoeddi manylion am weithgareddau monitro interim yn ystod gweithgarwch dilynol. Mae hyn oherwydd bod yr ymweliadau hyn yn ddatblygiadol eu natur. Byddwn yn cyhoeddi adroddiad pan fydd ysgol a gynhelir neu UCD wedi’i thynnu o’r categori gweithgarwch dilynol neu os byddant yn symud o un categori gweithgarwch dilynol i’r llall. 

Mae gan sectorau heblaw ysgolion a gynhelir ac UCDau drefniadau gweithgarwch dilynol gwahanol. Gallai’r rhain gynnwys monitro dilynol statudol ac anstatudol.