Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol Estyn 2025-2026 - Estyn

Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol Estyn 2025-2026


Mae’r ddogfen hon yn esbonio cyfrifoldebau allweddol Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (PAEF), y Bwrdd Strategaeth, y Grŵp Rheoli Strategol, y Grŵp Arweinyddiaeth Arolygu a’r Grŵp Gweithredol. Mae atodiad i’r ddogfen hon yn amlinellu cyfrifoldebau’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a’r Pwyllgor Tâl. Mae hefyd yn amlinellu pwerau dirprwyo PAEF a’r Bwrdd Strategaeth; yr ymddygiad a ddisgwylir gan y Bwrdd Strategaeth; a gweithrediadau’r Bwrdd Strategaeth.

Cafodd y fersiwn hon o’n Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol ei chymeradwyo’n ffurfiol gan y Bwrdd Strategaeth ar 12 Rhagfyr 2022. Mae’n adlewyrchu’r egwyddorion a nodir yn ‘Llywodraethu Corfforaethol mewn Adrannau’r Llywodraeth Ganolog – cod arfer dda’ (fersiwn 2017). Fe’i cyhoeddir ar ein gwefan fel rhan o’n hymrwymiad i fod yn agored ac yn atebol i’r cyhoedd.