Sioe Deithiol Mathemateg Uwchradd – Abertawe
Rydym yn falch o wahodd athrawon mathemateg ysgolion uwchradd a phenaethiaid adrannau mathemateg i ymuno â ni ar gyfer y Sioe Deithiol Mathemateg Dysgu, mewn partneriaeth ag Estyn — sef cyfle i archwilio strategaethau wedi’u seilio ar dystiolaeth sy’n cryfhau addysgu mathemateg, arweinyddiaeth a deilliannau dysgwyr.
Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys:
- Datgloi gwelliant o ran addysgu ac arweinyddiaeth mathemateg
- Beth sy’n gweithio mewn addysg fathemateg: tystiolaeth ac effaith
- Strategaethau a dulliau effeithiol ar gyfer addysgu mathemateg
- Uchafu’r defnydd o adnoddau gwella
- Hunanwerthuso ac arfer fyfyriol
- Casglu a defnyddio tystiolaeth uniongyrchol ac effeithiol
- Datblygu cynlluniau gwella sy’n benodol i fathemateg
Dyddiadau a Lleoliadau’r Digwyddiad
Dewiswch o sesiwn fore neu brynhawn:
- Dydd Mawrth 24 Chwefror – Gwesty’r Village, Abertawe (bydd sesiwn Saesneg yn unig yn y bore a bydd sesiwn y prynhawn yn cael ei chyflwyno’n ddwyieithog)
Bydd pob sesiwn ddwyieithog yn cynnwys cymorth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Seasneg.
Amserlen y bore:
09:00 – 09:30 Cofrestru
09:30 – 12:15 Hyfforddiant
Amserlen y prynhawn:
13:30 – 14:00 Cofrestru
14:00 – 16:45 Hyfforddiant
Sut i Gofrestru
- Gall pob ysgol archebu hyd at ddau le.
- Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig (40 ym mhob sesiwn) ac yn cael eu dyrannu ar sail cyntaf i’r felin.
- Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw canol dydd dydd Llun, 16 Chwefror. Rydym yn cynghori cofrestru’n gynnar i osgoi siom.