Estyn yn Fyw: Hyrwyddo ymddygiadau cadarnhaol mewn ysgolion uwchradd - Estyn

Estyn yn Fyw: Hyrwyddo ymddygiadau cadarnhaol mewn ysgolion uwchradd


Amser a dyddiad: 16:00, 23 Mehefin 2025

Ymunwch â ni yn fyw arlein am drafodaeth ynglŷn ag arfer effeithiol a chanfyddiadau allweddol o’n hadroddiad thematig diweddar:

Meithrin parch ar y ddwy ochr – hyrwyddo ymddygiadau cadarnhaol mewn ysgolion uwchradd – Estyn

Bydd awdur yr adroddiad, Aranwen Morgans-Thomas AEF yn cael cwmni cynrychiolwyr o Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe ac Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd i rannu eu profiadau.

Bydd hefyd cyfle i ofyn cwestiynau ynglŷn â’r adroddiad, neu’r pwnc yn ehangach.

Cofrestrwch i ymuno: Estyn yn fyw | Estyn Live