Digwyddiadau Estyn yn Fyw ar gyfer 2025/26

Trwy gydol blwyddyn academaidd 2025/26, byddwn yn cynnal digwyddiadau Estyn yn Fyw misol – gan rannu gwybodaeth am ystod o bynciau allweddol a gwahodd rhanddeiliaid i ymuno â’n trafodaeth â darparwyr wrth iddynt ganolbwyntio ar lwyddiannau a heriau.
Cofrestrwch os hoffech gael gwybod pan fydd cofrestru’n agor: Cofrestrwch i gael diweddariadau – Estyn
- Arolygu ar gyfer ysgolion ac UCDau – popeth y mae angen i chi ei wybod! – Medi (Dydd Mercher 24)
- Ffocws thematig: Addysgu Cwricwlwm i Gymru – Hydref (Dydd Iau 23)
- Ffocws thematig: Ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion yng Nghymru – Tachwedd (Dydd Iau 27)
- Ffocws thematig: Mewnwelediadau i wella addysgu ac arweinyddiaeth mewn addysg fathemateg – Rhagfyr (Dydd Iau 11)
- Ffocws ar Ddarllen – Ionawr (Dydd Iau 29)
- Adroddiad blynyddol PAEF: negeseuon allweddol – Chwefror (Dydd Iau 12)
- Y tu mewn i Ymweliad Interim – Mawrth (Dydd Iau 26)
- Arolygu yn y sector ôl-16 – popeth y mae angen i chi ei wybod! – Ebrill (Dydd Iau 30)
- Mynd i’r afael â phresenoldeb mewn ysgolion – Mai (Dydd Iau 21)
- Prentisiaethau: Adolygiad o’r cylch – Mehefin (Dydd Iau 25)
- Arolygu yn y sector gwaith ieuenctid – popeth y mae angen i chi ei wybod! – Gorffennaf (Dydd Iau 16)