Deallusrwydd Artiffisial – Cadw Dysgwyr yn Ddiogel
Mae diogelwch digidol a thechnolegol yn ymestyn y tu hwnt i ddefnyddio AI. Mae dysgwyr yn rhyngweithio ag ystod eang o blatfformau, dyfeisiau ac offerynnau ar-lein, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, amgylcheddau chwarae gemau, systemau dysgu cwmwl, technolegau biometrig a dyfeisiau personol. Felly, dylai risgiau sy’n gysylltiedig ag AI gael eu deall fel rhan o’r dirwedd ehangach hon. Dylai darparwyr sicrhau bod yr holl dechnoleg sy’n cael ei defnyddio mewn amgylcheddau dysgu yn cael ei hasesu am oblygiadau diogelu posibl, gan gynnwys preifatrwydd, defnyddio data, cymedroli cynnwys a dod i gysylltiad â rhyngweithiadau niweidiol.
Dylai darparwyr sicrhau bod y systemau a’r offer y maent yn eu defnyddio yn cefnogi amgylchedd dysgu diogel. Mae hyn yn cynnwys bod â pholisïau clir ar ddiogelu data, ymddygiad ar-lein a defnyddio technolegau sy’n dod i’r amlwg, fel bod dysgwyr yn gwybod sut i ddefnyddio adnoddau digidol yn hyderus ac yn gyfrifol. Dylai offerynnau AI fod yn rhan o fframweithiau diogelu presennol, yn hytrach na’u bod ar wahân iddynt, a dylid ond eu defnyddio lle maent yn dryloyw, yn addas i oedran ac yn cyd-fynd â hawliau dysgwyr.
Mae llawer o’r risgiau sy’n gysylltiedig ag AI yr un mor berthnasol i dechnolegau eraill ac yn cynnwys:
- camwybodaeth
- cynnwys amhriodol
- camddefnyddio data
- meithrin perthynas amhriodol ar-lein
- lles digidol a rhyngweithiadau niweidiol â chyfoedion
Dylai darparwyr ddefnyddio dull cyfannol sy’n ystyried sut gallai offerynnau a phlatfformau gwahanol gyfuno neu orgyffwrdd wrth lunio profiadau dysgwyr ar-lein.
Mae dysgwyr yn elwa fwyaf pan fyddant wedi’u paratoi i lywio’r byd digidol mewn modd meddylgar a diogel. Mae darpariaeth cymhwysedd digidol gref i bob dysgwr yn eu helpu i werthuso gwybodaeth, nodi risgiau a deall sut gall y dechnoleg y maent yn ei defnyddio lywio eu profiadau. Mae’r dull ehangach hwn yn cefnogi eu lles ac yn datblygu’r medrau beirniadol sydd eu hangen i gadw’n ddiogel ar-lein.
Mae datblygu dinasyddiaeth ddigidol ehangach dysgwyr yn eu helpu i lywio technolegau sy’n dod i’r amlwg a thechnolegau sy’n bodoli eisoes yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys deall sut mae algorithmau ar gyfryngau cymdeithasol yn llywio cynnwys, sut mae data’n cael ei gasglu ar draws apiau a dyfeisiau, sut i adnabod ffugio a sut i reoli amser a lles ar-lein. Mae ymwreiddio’r medrau hyn yn sicrhau nad yw diogelwch wedi’i gyfyngu i unrhyw dechnoleg unigol, ond ei fod yn paratoi dysgwyr ar gyfer byd digidol sy’n esblygu’n gyflym.
Mae ymarferwyr, hefyd, yn chwarae rôl hanfodol. Mae angen iddynt allu manteisio ar arweiniad a dysgu proffesiynol cyfredol fel y gallant nodi pryderon diogelu sy’n gysylltiedig â gweithgarwch digidol ac ymateb yn briodol. Mae cydweithio’n agos â rhieni, gofalwyr ac asiantaethau perthnasol yn cryfhau’r cyfrifoldeb hwn ar y cyd ac yn sicrhau yr eir i’r afael ag unrhyw bryderon yn gyflym ac yn effeithiol. Mae bywydau digidol dysgwyr yn ymestyn ymhell y tu hwnt i leoliadau addysgol ac, o ganlyniad, mae partneriaethau cryf rhwng darparwyr, rhieni, gofalwyr ac asiantaethau allanol yn hanfodol. Mae’r perthnasoedd hyn yn cefnogi negeseuon cyson am ddefnyddio pob technoleg mewn modd diogel a chyfrifol, yn hytrach na’r rhai sy’n seiliedig ar AI yn unig, ac yn helpu i sicrhau bod pryderon yn cael eu nodi a’u datrys yn gyflym, ni waeth pa blatfform neu ddyfais sydd dan sylw.
Wrth i dechnolegau digidol barhau i esblygu, dylai darparwyr fabwysiadu dull blaengar. Mae asesiadau risg rheolaidd, cyfathrebu clir â rhieni a gofalwyr, a dysgu proffesiynol parhaus yn helpu i sicrhau bod diogelu yn parhau i fod yn gadarn wrth i dechnolegau newydd ddod i’r amlwg.
Dylai darparwyr hefyd werthuso effeithiolrwydd eu trefniadau i gadw dysgwyr yn ddiogel yn rheolaidd wrth iddynt ddatblygu ystod eang o fedrau digidol. Mae hyn yn cynnwys arolygu pa mor ddau y caiff polisïau diogelu eu rhoi ar waith mewn arfer o ddydd i ddydd, monitro profiadau dysgwyr ar draws platfformau digidol gwahanol a sicrhau yr ymatebir i unrhyw risgiau sy’n cael eu nodi trwy weithgarwch digidol yn brydlon.
Bydd Estyn yn parhau i werthuso’r cynnydd mae disgyblion yn ei wneud yn eu medrau digidol a hefyd sut maent yn datblygu eu gwybodaeth a dealltwriaeth o gadw’n ddiogel ar-lein. Byddwn hefyd yn parhau i ystyried sut mae darparwyr yn sicrhau diogelwch dysgwyr yn rhan o’u strategaethau digidol ehangach.
Trwy ein gwaith, rydym yn ymrwymo i gefnogi arweinwyr ac ymarferwyr i greu amgylcheddau dysgu diogel, parchus a chynhwysol lle gall pob dysgwr ffynnu.