Darllen: Dros ddysgwyr, dros Gymru.
O fis Medi 2026, bydd gennym ffocws estynedig tair blynedd ar ddarllen.
Rydym yn gwybod bod gormod o ddysgwyr nad ydynt yn ddarllenwyr rhugl, datblygedig erbyn iddynt adael yr ysgol neu fynd i addysg bellach ac rydym eisiau bod yn rhan o’r ateb sy’n torri’r cylch hwn ac yn cydnabod yr angen, trwy ein gwaith gyda phob darparwr addysg, i flaenoriaethu gwella medrau darllen pob dysgwr yng Nghymru.
Byddwn yn gwerthuso beth sy’n gweithio’n dda trwy ein gwaith arolygu ac yn rhannu ein deunyddiau i gefnogi darparwyr i wella.
Trwy ganolbwyntio ar y maes blaenoriaeth hwn ar y cyd, gallwn helpu torri’r cylch rhwng lefelau llythrennedd isel a thlodi.
Cwestiynau Cyffredin
Mae tystiolaeth ymchwil yn dangos bod diffyg medrau darllen yn gallu bod yn brif gyfrannwr at fywyd o galedi, ac at gylch tlodi rhwng cenedlaethau. Rydym yn gwybod bod arfer ragorol mewn addysgu darllen ar draws pob sector, ond nid yw pob darparwr addysg yn canolbwyntio ar wella darllen dysgwyr yn ddigon da.
Rydym yn gwybod bod gormod o ddysgwyr nad ydynt yn ddarllenwyr rhugl, datblygedig erbyn iddynt adael yr ysgol neu fynd i addysg bellach ac rydym eisiau bod yn rhan o’r ateb sy’n torri’r cylch hwn ac yn cydnabod yr angen, trwy ein gwaith gyda phob darparwr addysg, i flaenoriaethu gwella medrau darllen pob dysgwr yng Nghymru.
Mae Estyn yn cydnabod bod yr addysgu a’r dysgu gorau mewn darllen yn gallu cynnwys ystod o fethodolegau ac arferion, a bod ffoneg yn floc adeiladu allweddol. Er y byddem yn disgwyl gweld arfer yn seiliedig ar ffoneg mewn ysgolion, nid yw Estyn yn cymeradwyo unrhyw ddull penodol ar gyfer addysgu darllen ond mae’n defnyddio ystod o dystiolaeth i werthuso pob dull gyda ffocws ar ei effaith ar gyfer cynnydd dysgwyr.
(Mae ffoneg yn floc adeiladu allweddol, ond nid yw Estyn yn cymeradwyo un dull penodol. Estyn)
Yn ein profiad ni, mae’r ysgolion mwyaf effeithiol yng Nghymru yn defnyddio dull cytbwys ar gyfer addysgu darllen. Mae’r ysgolion hyn yn defnyddio ystod o strategaethau fel bod pob dysgwr yn darllen â rhuglder a dealltwriaeth. Mae gan yr ysgolion hyn ddull ysgol gyfan ar gyfer datblygu medrau darllen dysgwyr ac mae ganddynt ddiwylliant darllen sefydledig. Pan fydd plant yn dechrau’r ysgol, mae’r athrawon gorau’n rhoi pwyslais ar ddatblygu medrau cyn darllen ac wedyn yn adeiladu ar hyn trwy addysgu ffoneg yn eglur ac yn raddol, gan sicrhau hefyd fod disgyblion yn cael cyfle i fanteisio ar amrywiaeth eang o lyfrau i’w mwynhau a datblygu eu dealltwriaeth o storïau a thestunau eraill. Mae athrawon yn annog dysgwyr i ddefnyddio ystod o strategaethau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u medrau darllen yn rhan o’r dull cytbwys hwn. Wrth i ddysgwyr symud trwy’r ysgol, mae athrawon yn eu cynorthwyo i gaffael medrau darllen datblygedig a datblygu eu gwybodaeth am eirfa.





