Cynllun Blynyddol Estyn 2025-2026 - Estyn

Cynllun Blynyddol Estyn 2025-2026


Estyn yw Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Mae arolygu’n chwarae rôl ganolog mewn gwella ansawdd addysg a hyfforddiant i’n plant, pobl ifanc a dysgwyr gydol oes.

Mae dysgwyr wrth wraidd ein gwaith. Caiff ein gweledigaeth a’n cenhadaeth eu llunio gan yr ymrwymiad hwn. Rydyn ni yma dros ddysgwyr, dros Gymru.


Mae ein hamcanion strategol yn amlinellu’n glir ein cyfraniad unigryw i helpu hybu rhagoriaeth yn y system ac mae ein gwerthoedd yn adlewyrchu’r diwylliant sy’n ysgogi ein
gwaith. Mae adran ddiweddarach yn y cynllun hwn yn esbonio ein hamcanion strategol a sut rydym yn eu rhoi ar waith.