Cwestiynau Cyffredin – Estyn a Deallusrwydd Artiffisial
Yn Estyn, rydym yn dechrau defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) yn ofalus ac yn gyfrifol i gefnogi agweddau ar ein gwaith. Mae AI yn offeryn i helpu arolygwyr, nid eu disodli. Mae pob barn arolygu yn cael ei lunio gan arolygwyr, yn seiliedig ar dystiolaeth ac arbenigedd proffesiynol. Mae AI yn ein helpu gyda thasgau fel dadansoddi gwybodaeth, cynhyrchu fersiynau o adroddiadau sy’n addas i ddysgwyr, arbed amser a gwneud canfyddiadau arolygu’n fwy hygyrch. Mae arolygwyr yn adolygu’r holl allbwn a gynhyrchir gan AI i sicrhau cywirdeb, tegwch ac eglurder. Rydym wedi amlinellu’r egwyddorion sy’n sail i’n dull o ddefnyddio AI yn ein datganiad Uchelgeisiau ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial.
Rydym yn defnyddio AI mewn ffyrdd penodol, ymarferol ar hyn o bryd i gefnogi a gwella ein gwaith, gan gadw barn broffesiynol arolygwyr wrth wraidd popeth a wnawn. Er enghraifft, rydym wedi bod yn treialu fersiynau o adroddiadau arolygu sy’n addas i ddysgwyr yn y sector cynradd. Mae’r rhain yn defnyddio AI i gynhyrchu crynodebau clir, priodol i oedran fel bod disgyblion yn gallu deall cryfderau eu hysgol a’u hardaloedd yn well.
Ar yr un pryd, rydym yn archwilio potensial AI ar draws meysydd eraill o’n gwaith. Mae hyn yn cynnwys edrych ar sut gallai ein helpu i ddadansoddi symiau mawr o wybodaeth yn fwy effeithlon neu gyflwyno canfyddiadau mewn fformatau mwy hygyrch i ddysgwyr a darparwyr.
Yn bwysig, rydym ond yn defnyddio AI pan fydd yn ychwanegu gwerth go iawn at ein gwaith a phan fydd o fudd i ddysgwyr, staff, a darparwyr addysg a hyfforddiant ledled Cymru. Mae pob allbwn AI yn cael ei adolygu a’i gymeradwyo gan arolygwyr, sy’n sicrhau bod ansawdd, cywirdeb, a dilysrwydd ein harolygiadau a’n gwerthusiadau yn aros mor uchel ag erioed.
Na fydd. Bydd AI byth yn disodli barn broffesiynol ac arbenigedd arolygwyr. Caiff ei ddefnyddio fel offeryn cynorthwyol yn unig, er enghraifft i grynhoi gwybodaeth neu gyflwyno canfyddiadau mewn ffyrdd mwy hygyrch. Mae canlyniad pob arolygiad wedi’i seilio ar arbenigedd a gwerthusiad proffesiynol ein harolygwyr.
Mae arolygwyr bob amser yn adolygu a mireinio allbynnau AI. Rydym yn ymwybodol iawn bod AI yn gallu cynhyrchu anghywirdebau weithiau neu adlewyrchu rhagfarnau yn y data y cafodd ei hyfforddi arno. Dyna pam rydym yn defnyddio AI i gynorthwyo â thasgau, nid i wneud penderfyniadau arolygu. Rydym yn sicrhau bod goruchwyliaeth ddynol yn ganolog i’n defnydd o AI. Mae arolygwyr bob amser yn gwirio allbynnau AI yn ofalus. Os bydd AI yn cynhyrchu rhywbeth anghywir neu gamarweiniol, caiff ei gywiro cyn ei ddefnyddio. Yr arolygydd sy’n gyfrifol am gywirdeb ac eglurder, nid yr AI.
Nac ydynt. Yr arolygwyr yn unig sy’n gyfrifol am lunio barnau. Ni ddefnyddir AI o gwbl wrth benderfynu ar farnau neu werthusiadau; gallai arolygwyr ei ddefnyddio i gefnogi’r broses, er enghraifft drwy ddwyn themâu ynghyd o dystiolaeth a gasglwyd trwy weithgarwch arolygu ymarferol.
Rydym yn defnyddio AI i’n galluogi i gyfleu ein canfyddiadau’n ehangach. Er enghraifft, byddai cynhyrchu fersiynau wedi’u symleiddio o adroddiadau arolygu ar gyfer dysgwyr yn anodd iawn ei wneud â llaw ar raddfa fawr. Rydym hefyd yn defnyddio AI i wella effeithlonrwydd ein gwaith. Er enghraifft, mae defnyddio AI i ddwyn ynghyd themâu cychwynnol o dystiolaeth arolygu yn rhoi mwy o amser i arolygwyr ymwneud ag agweddau pwysicaf y broses arolygu, fel siarad â dysgwyr, staff ac arweinwyr.
Rydym yn ystyried diogelu data a chyfrinachedd o ddifrif. Caiff AI ei ddefnyddio gyda gwybodaeth y gallwn ei phrosesu’n ddiogel yn unig. Nid ydym byth yn defnyddio offer AI mewn ffordd a fyddai’n rhoi data ysgol cyfrinachol mewn perygl. Mae rhagor o wybodaeth am y ffordd rydym yn trin data personol ar gael yn ein hysbysiad preifatrwydd.
Mae arolygwyr bob amser yn adolygu a golygu allbynnau AI cyn eu rhannu. Er enghraifft, mae arolygwyr cofnodol yn golygu adroddiadau sy’n addas i ddysgwyr a gynhyrchwyd gan AI i sicrhau cywirdeb, tôn, ac addasrwydd. Mae AI yn darparu drafft, ond mae arolygwyr yn sicrhau bod y fersiwn derfynol yn glir, yn gywir, ac yn briodol. Mae ein holl adroddiadau’n destun prosesau sicrhau ansawdd trwyadl: Trefniadau Estyn ar gyfer sicrhau ansawdd arolygiadau – Estyn
Na allai. Mae dilysrwydd adroddiadau arolygu yn dod o’r dystiolaeth a gasglwyd a barn broffesiynol ac arbenigedd arolygwyr. Offeryn sy’n gallu ein helpu i gyfleu canfyddiadau’n fwy effeithiol yw AI, nid rhywbeth i ddisodli ein dulliau arolygu.
Mae ein defnydd o AI yn arwain at nifer o fuddion i ddarparwyr a dysgwyr. Er enghraifft, mae AI yn ein helpu i greu adroddiadau sy’n fwy hygyrch i ddysgwyr, gan wneud canfyddiadau arolygu’n fwy ystyrlon iddynt. Mae hyn yn helpu dysgwyr i ymgysylltu â’r hyn sy’n mynd yn dda yn eu lleoliad a sut gallant gyfrannu at wella. Yn ogystal, mae defnyddio AI i gefnogi eu gwaith yn galluogi arolygwyr i dreulio mwy o amser yn casglu safbwyntiau dysgwyr, staff ac arweinwyr, sy’n arwain at broses arolygu fwy cefnogol ac adroddiadau cywir.
Rydym yn archwilio sut gellid defnyddio AI yn gyfrifol mewn rhannau eraill o’n gwaith, ond bob amser yn ofalus, yn dryloyw a chyda goruchwyliaeth ddynol. Bydd unrhyw gynnydd mewn defnydd yn raddol ac wedi’i seilio ar dystiolaeth o beth sy’n gweithio, beth sy’n ddiogel, a beth sy’n cynorthwyo ysgolion a dysgwyr orau.
Nid ydym yn arolygu defnyddio AI fel agwedd ar wahân. Yn lle hynny, pan fydd darparwyr yn defnyddio AI, rydym yn ystyried pa mor dda mae’n cefnogi addysgu a dysgu effeithiol. Rydym yn canolbwyntio bob amser ar ansawdd addysg a’r effaith ar ddysgwyr.
Wrth i’r defnydd o AI gynyddu yn y gymdeithas ehangach, byddwn yn edrych fwyfwy ar sut mae darparwyr yn helpu dysgwyr i ddeall ei gyfleoedd, ei risgiau, a’i heriau. Mae hyn yn cynnwys pa mor dda y mae dysgwyr yn cael eu paratoi i ddefnyddio AI mewn ffordd foesegol, gyfrifol, a diogel.