Article details

Jon Wright
By Jon Wright, AEF
Postiadau blog |

Ymgorffori’r Pedwar Diben: beth sy’n gweithio’n dda mewn ysgolion cynradd?

Share this page

Yng nghanfyddiadau cryno ein Hadroddiad Blynyddol, rydym yn amlygu’r pwyslais y mae ysgolion cynradd wedi’i roi ar roi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith ac yn myfyrio ar sut mae llawer o ysgolion wedi dechrau ystyried sut i ymgorffori’r Pedwar Diben.

Canfyddiadau cryno Adroddiad Blynyddol 2021-22

Eleni, am y tro cyntaf, rydym wedi cyhoeddi ein canfyddiadau cryno yn gynnar yn nhymor yr hydref ar beth rydym wedi’i ddysgu o’n gwaith arolygu ac ymgysylltu ag ysgolion yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol. I gynorthwyo ysgolion, rydym wedi cyhoeddi set o awgrymiadau hunanfyfyrio i staff ysgolion cynradd yn ddiweddar. Mae’r rhain yn cynnig offeryn defnyddiol i gefnogi trafodaethau staff ynghylch effeithiolrwydd ymagwedd eu hysgol at ymgorffori’r Pedwar Diben. I gefnogi hyn ymhellach, hoffwn fyfyrio ar rai o nodweddion yr arfer fwyaf effeithiol mae arolygwyr wedi’i gweld yn ystod eu gweithgarwch ymgysylltu ac arolygu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. 

Beth sy’n gweithio’n dda?

Mae’r ysgolion mwyaf effeithiol yn sicrhau bod eu cwricwlwm wedi’i sbarduno gan ddiben clir a dealltwriaeth gadarn o’r medrau, y priodoleddau a’r nodweddion yr hoffent i’w disgyblion eu hennill erbyn iddynt adael yr ysgol. I gyflawni hyn, maent yn deall bod sut maent yn addysgu, a pham maent yn addysgu beth maent yn ei addysgu, yr un mor bwysig â chynnwys y cwricwlwm. 


Er bod yr iaith yn gymharol newydd, rydym yn gwybod erbyn hyn y bu datblygu’r nodweddion sydd wedi’u diffinio yn y Pedwar Diben yn flaenoriaeth ar gyfer ysgolion effeithiol am flynyddoedd lawer, ac mae arolygwyr wedi adlewyrchu hyn yn eu hadroddiadau dros amser. Mae ein fframwaith arolygu diweddaraf, fel sy’n cael ei amlinellu yn ‘Beth rydym yn ei arolygu’, yn cyfeirio’n benodol at y Pedwar Diben ac yn defnyddio llawer o’r un iaith. Fodd bynnag, mae fframweithiau blaenorol hefyd wedi cydnabod pwysigrwydd agweddau cadarnhaol at ddysgu, datblygu disgyblion yn ddinasyddion gweithredol ac ystyrlon, a datblygu priodoleddau fel hyder, gwydnwch ac empathi. 


Mae’r ysgolion mwyaf effeithiol yn cydnabod yr angen i adeiladu ar eu cryfderau presennol a sicrhau y caiff eu hymagwedd ei symbylu gan ddealltwriaeth drylwyr o anghenion eu disgyblion a’u cyd-destun. Nid yw un dull yn addas i bawb ac, yn yr un modd â llawer o agweddau ar wella ysgolion, efallai na fydd yr hyn sy’n gweithio’n dda i un ysgol yn briodol i un arall. Fodd bynnag, mae ein hymgysylltiad manwl ag ysgolion ledled Cymru yn ein galluogi i ddod i rai casgliadau cyffredinol am beth sy’n gweithio orau wrth weithio i ymgorffori’r Pedwar Diben yn eich ysgol chi.
 

Mae arweinwyr

  • Yn trefnu cyfleoedd pwrpasol i’r holl staff gydweithio â’i gilydd i ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o beth mae’r Pedwar Diben yn ei olygu yn eu hysgol a sut maent yn bwriadu adlewyrchu hyn mewn addysgu a dysgu
  • Yn cynnwys ystyriaeth bwrpasol o’r Pedwar Diben a chyd-ddealltwriaeth yr ysgol o sut olwg sydd ar y rhain yn ei chyd-destun yn eu prosesau hunanwerthuso ac yn defnyddio hyn i ategu cynllunio gwelliant
  • Yn blaenoriaethu agweddau ar y Pedwar Diben sy’n fwyaf perthnasol i’w hysgol, ei disgyblion a’u cyd-destun
  • Yn sylweddoli y bu datblygu disgyblion fel dinasyddion uchelgeisiol, creadigol, moesegol ac iach yn nodwedd o ysgolion effeithiol erioed, a bod hyn yn golygu eu bod yn cydweithio â staff i adeiladu ar gryfderau presennol
  • Yn cydnabod pwysigrwydd technegau asesu ar gyfer dysgu effeithiol o ran ymgorffori llawer o’r priodoleddau sydd wedi’u cynnwys yn y Pedwar Diben, yn sicrhau bod gan staff ddealltwriaeth gadarn o sut a pham y mae asesu ar gyfer dysgu yn effeithiol ac yn defnyddio’r strategaethau hyn i gynorthwyo disgyblion i ddatblygu fel dysgwyr hunanymwybodol
  • Yn sicrhau bod dysgu proffesiynol yn cynorthwyo staff i ddeall yn llawn egwyddorion metawybyddiaeth sy’n tanategu dysgu effeithiol a llawer o agweddau ar y Pedwar Diben
  • Yn cydweithio’n effeithiol ag ysgolion uwchradd sy’n derbyn i sicrhau cyd-ddealltwriaeth o nodau tymor hwy ac i gefnogi pontio
  • Yn ymgysylltu’n effeithiol â rhieni i sicrhau eu bod yn deall manteision datblygu’r Pedwar Diben â disgyblion, ymagwedd yr ysgol a sut y gallant gynorthwyo eu plant orau
  • Yn canolbwyntio’n glir bob amser ar sut mae mentrau newydd yn effeithio ar ddisgyblion.

Mae athrawon

  • Yn cydweithredu i gynllunio i dyfu’r priodoleddau hyn ymhlith disgyblion mewn ffyrdd sy’n briodol yn ddatblygiadol wrth iddynt symud drwy’r ysgol
  • Yn glir ynghylch diben eu haddysgu mewn gwersi a thros amser ac yn deall sut mae hyn yn cyd fynd â’r nod tymor hwy o ddatblygu dysgwyr sy’n ymgorffori’r pedwar diben
  • Yn datblygu iaith ddysgu ddealladwy a pherthnasol nad yw wedi’i chyfyngu i derminoleg y pedwar diben, ond sy’n cael ei mynegi mewn ffordd sy’n briodol i’w disgyblion yn ddatblygiadol (iaith sy’n addas i blant)
  • Yn ystyried yn ofalus y gweithgareddau gorau i ddatblygu’r pedwar diben yn y tymor byr a’r tymor hir ac yn gweithio’n bwrpasol â disgyblion i integreiddio eu syniadau, lle bo hynny’n briodol
  • Yn myfyrio ar ba mor dda mae disgyblion yn datblygu’r priodoleddau hyn ac yn defnyddio eu canfyddiadau i lywio addysgu a dysgu yn y dyfodol.
     

Mae’r holl staff

  • Yn cydnabod pan fydd disgyblion yn dangos y priodoleddau hyn ac yn rhoi canmoliaeth ac anogaeth i gynorthwyo disgyblion i’w hadnabod ynddyn nhw’u hunain a phobl eraill
  • Yn cydnabod bod ymgorffori’r priodoleddau hyn yn daith hir a chynyddol ac mae ganddynt gyd ddealltwriaeth o’r nodweddion, y priodoleddau dysgu a’r ymddygiadau y bydd disgyblion yn eu dangos erbyn diwedd eu cyfnod yn yr ysgol.
     

Beth nad yw’n gweithio cystal?

Yn ogystal â’r agweddau cadarnhaol sydd wedi’u hamlinellu uchod, mae arolygwyr wedi nodi arfer sy’n llai effeithiol hefyd. Mae llawer o hyn yn cynnwys defnyddio strategaethau arwynebol nad ydynt yn cael llawer o effaith ar ddeilliannau i ddisgyblion, a lle nad oes gan staff ddealltwriaeth glir o’r hyn maent yn ceisio ei gyflawni. Yn aml, mae hefyd yn cynnwys ysgolion yn neidio dros y camau cychwynnol pwysig o ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o sut olwg sydd ar y Pedwar Diben ar gyfer eu disgyblion nhw yn eu cyd-destun nhw. Mae hefyd yn cynnwys canolbwyntio gormod ar ddibenion unigol mewn gwersi untro, datblygu systemau olrhain biwrocrataidd a rhoi gormod o ganmoliaeth i ddisgyblion am gynnydd cyfyngedig yn erbyn y dibenion mewn gwersi unigol, er enghraifft canolbwyntio ar ‘fod yn uchelgeisiol’ mewn un wers neu ‘bod yn greadigol’ mewn un arall, yn hytrach na datblygu ethos o ddysgu lle mae disgyblion yn datblygu ac yn cymhwyso ystod o briodoleddau a medrau mewn gwersi a thros amser, lle bo hynny’n briodol.

Ychwanegu sylw newydd

Testun plaen

  • No HTML tags allowed.
  • Llinellau a pharagraffau yn torri'n awtomatig.
  • Web page addresses and email addresses turn into links automatically.