Treialu a gwerthuso profiadau dysgu dilys - paratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru - Estyn

Treialu a gwerthuso profiadau dysgu dilys – paratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru


Yn yr olaf yn ein cyfres o weminarau’n edrych ar y canfyddiadau o’r adroddiad thematig a oedd yn canolbwyntio ar sut mae ysgolion pob oed, ysgolion uwchradd ac ysgolion arbennig yn paratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, edrychodd awduron ein hadroddiad ar sut mae ysgolion yn treialu ac yn gwerthuso gweithgareddau a phrofiadau dysgu newydd. Rhannwyd rai canfyddiadau o’n hymweliadau ymgysylltu diweddar ag ysgolion hefyd.