Bwlio, gordewdra, trais domestig, tlodi, cyfryngau cymdeithasol, canser, rhyw, anabledd... mae rhestr y materion a all effeithio ar iechyd a lles plant a phobl ifanc yn faith. Sut mae ysgolion da yn cefnogi iechyd a lles eu disgyblion?
Iach a hapus
Ym Mehefin 2019, archwiliodd ein hadroddiad ‘Iach a hapus’ yr effaith mae ysgolion yng Nghymru yn ei chael ar iechyd a lles disgyblion. Canfuom fod ddwywaith yn fwy o ysgolion cynradd nag ysgolion uwchradd yn cefnogi disgyblion yn dda iawn.
Mae’r adroddiad yn edrych ar lawer o’r materion a grybwyllwyd ar ddechrau’r blog hwn sy’n effeithio ar iechyd a lles. Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn cynnwys neges bwysig iawn na ddylai gael ei cholli ymysg trafodaethau am faterion unigol – mae angen i ysgolion fod â dull ‘ysgol gyfan’ i gefnogi iechyd a lles disgyblion.
Dull ysgol gyfan
Beth mae hyn yn ei olygu? Mae’n golygu bod angen i ysgolion wneud yn siŵr fod popeth yn ymwneud â’r ysgol yn rhoi negeseuon cadarnhaol i ddisgyblion yn gyson.
Gadewch i ni feddwl am yr hyn sy’n digwydd pan nad oes dull ysgol gyfan. Dyma rai enghreifftiau:
- mae gwersi am fwlio yn colli eu gwerth os nad yw disgyblion yn fodlon â’r ffordd mae’r ysgol yn ymdrin â honiadau o fwlio
- nid yw gweithgareddau dysgu am fwyta’n iach yn cael llawer o effaith os nad yw’r bwyd sy’n cael ei weini i ddisgyblion, a’r profiad bwyta, yn hyrwyddo bwyta’n iach
- ni fydd posteri yn hyrwyddo ymarfer corff yn gwneud llawer o wahaniaeth os nad yw’r ysgol yn caniatáu digon o amser i ddisgyblion gadw’n heini.
Yn gryno, profiadau disgyblion yn yr ysgol o ddydd i ddydd sy’n cael yr effaith fwyaf – p’un a yw hynny’n gadarnhaol neu’n negyddol – ar eu hiechyd a lles.
Beth ellir ei wneud?
Mae’r ysgolion gorau yn dda iawn am gynorthwyo disgyblion i fod yn hapus, yn iach ac yn ddiogel. Mae ganddynt ddull ysgol gyfan ar gyfer iechyd a lles sy’n cynnwys y nodweddion canlynol:
- polisïau ac arferion sy’n sicrhau bod disgyblion yn gwneud cynnydd da yn eu dysgu
- arweinwyr sy’n ‘gwneud y dweud’ o ran cefnogi iechyd a lles disgyblion
- diwylliant anogol, lle mae perthnasoedd cadarnhaol yn galluogi disgyblion i ffynnu
- cymuned ac ethos cynhwysol
- gwybodaeth fanwl am iechyd a llesiant disgyblion sy’n dylanwadu ar bolisïau a chamau gweithredu
- amgylchedd a chyfleusterau sy’n hybu iechyd a lles da, fell le i chwarae, cymdeithasu ac ymlacio amser egwyl
- cwricwlwm eang a chytbwys, sy’n cynnwys profiadau dysgu unigol, seiliedig ar dystiolaeth, sy’n hybu iechyd a lles
- gofal bugeiliol cefnogol ac ymyriadau targedig i ddisgyblion sydd angen cymorth ychwanegol
- cysylltiadau effeithiol ag asiantaethau allanol
- partneriaethau agos â rhieni a gofalwyr
- dysgu proffesiynol parhaus i’r holl staff, sy’n eu galluogi i gefnogi iechyd a lles disgyblion.
Er bod ein hadroddiad ‘Iach a hapus’ yn ymwneud ag iechyd a lles disgyblion, mae’n werth nodi pa mor bwysig ydyw bod ysgolion yn gofalu am iechyd a lles eu staff hefyd. Gwyddwn fod staff hapus yn fwy cynhyrchiol a bod disgyblion yn fwy tebygol o fod yn hapus os yw’r staff yn hapus.
Mae ein hadroddiad yn cynnwys llawer o astudiaethau achos cryno o waith da mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru. Mae hefyd yn edrych ar beth gall ysgolion ei ddysgu o ymchwil ac yn gwerthuso llawer o waith penodol ar iechyd a lles yn ein hysgolion. Dylai’r argymhellion yn yr adroddiad ddylanwadu ar sut mae ysgolion yn datblygu eu harfer.
Ychwanegu sylw newydd