STESSIE: Symbylu Cynhwysiant – Offeryn hunanwerthuso cynhwysol ar gyfer ysolion. - Estyn

STESSIE: Symbylu Cynhwysiant – Offeryn hunanwerthuso cynhwysol ar gyfer ysolion.


Mae grŵp o fyfyrwyr mewn ystafell ddosbarth yn gweithio'n ddwys ar gyfrifiaduron bwrdd gwaith. Maent yn gwisgo gwisgoedd ysgol, sy'n cynnwys crysau gwyn a thei streipiog melyn. Mae'r ystafell wedi'i goleuo'n dda gyda ffenestri mawr yn y cefndir.

Blog gan Mamta Arnott, AEF

Mae offeryn hunanwerthuso ar-lein newydd bellach ar gael i ysgolion ledled Ewrop yn rhad ac am ddim i gefnogi arfer gynhwysol. Enw’r offeryn yw STESSIE, ac mae’n helpu ysgolion i werthuso, cryfhau a myfyrio ar ba mor werthusol ydynt. Mae’r offeryn, a ddatblygwyd trwy ddwy raglen Erasmus+, yn ddarn arwyddocaol o gydweithio Ewropeaidd – a chafodd Estyn rôl bwysig yn ffurfio’i sylfeini.

Beth yw STESSIE?

Mae STESSIE yn offeryn hunanwerthuso ar-lein, sydd hefyd ar gael fel ap, sydd wedi’i gynllunio i helpu ysgolion i adolygu a gwella’u harweinyddiaeth, eu diwylliant ysgol a’u hinsawdd ystafell ddosbarth gynhwysol. Fe’i datblygwyd trwy ddau brosiect olynol Erasmus+, sef: BIBESOIN (2018–2021) a STESSIE (2022–2025).

Yn ystod BIBESOIN, bu Estyn yn gweithio’n agos gyda phartneriaid rhyngwladol i gynllunio’r fframwaith sy’n sail i’r offeryn. Adeiladodd y rhaglen STESSIE ddiweddarach ar y sylfaen hon, gan arwain at ddatblygu a lansio’r platfform digidol llawn. Yn bwysig, mae’r offeryn ar gael yn rhad ac am ddim i ysgolion ledled Ewrop.

Cynhwysiant fel cyfrifoldeb ysgol gyfan

Mae egwyddor glir wrth wraidd STESSIE: mae cynhwysiant yn ddull ysgol gyfan. Nid cyfrifoldeb un tîm neu arbenigwr mohono, ond ymrwymiad ar y cyd yn cynnwys arweinwyr, athrawon, staff cymorth, teuluoedd a dysgwyr.

Yn hytrach na chanolbwyntio ar fentrau ynysig, mae’r offeryn yn annog ysgolion i fyfyrio ar sut mae gwerthoedd cynhwysol yn ffurfio penderfyniadau, perthnasoedd a phrofiadau ystafell ddosbarth bob dydd. Mae’n ystyried sut mae arweinyddiaeth yn gosod cyfeiriad, sut mae diwylliant ysgol yn hyrwyddo perthyn, a sut mae arfer ystafell ddosbarth yn ymateb i anghenion amrywiol. Mae’r dull cyfannol hwn yn cefnogi gwelliant cynaledig, cydlynus yn hytrach nag atebion tymor byr.

Gwrando ar gymuned yr ysgol gyfan

Un o gryfderau allweddol STESSIE yw ei allu i ddwyn ynghyd safbwyntiau staff, rhieni a myfyrwyr o fewn yr un ysgol. Trwy archwilio’r safbwyntiau hyn ochr yn ochr, mae ysgolion yn ennill dealltwriaeth gyfoethocach o sut caiff cynhwysiant ei brofi ar draws eu cymuned.

Gallai amgyffredion alinio â’i gilydd – neu gallent fod yn wahanol. Mae’r naill fewnwelediad a’r llall yn werthfawr. Mae’r myfyrio hwn ar y cyd yn helpu symbylu deialog broffesiynol, yn cryfhau perchnogaeth ar y cyd ac yn nodi camau nesaf ystyrlon.

Partneriaeth Ewropeaidd gref

Daeth y prosiect ag arolygiaethau, gweinyddiaethau, prifysgolion ac ysgolion ynghyd o bob cwr o Ewrop, o dan arweiniad y Gynhadledd Ryngwladol Sefydlog Arolygiaethau (SICI). Sicrhaodd y bartneriaeth eang hon fod yr offeryn yn adlewyrchu systemau a phrofiadau addysg amrywiol.

Rhestrir partneriaid y prosiect isod:

  • SICI – Y Gynhadledd Ryngwladol Sefydlog Arolygiaethau (sefydliad arweiniol)
  • Onderwijsinspectie – Arolygiaeth Addysg, Yr Iseldiroedd
  • IH2EF – Sefydliad Astudiaethau Uwch mewn Addysg a Hyfforddiant, Ffrainc
  • Gweriniaeth Estonia – Y Weinyddiaeth Addysg ac Ymchwil
  • Estyn – Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru
  • Llywodraeth Malta – Y Weinyddiaeth Addysg, Chwaraeon, Ieuenctid, Ymchwil ac Arloesi
  • IES Monastil (IESM) – Sefydliad Addysg Uwchradd, Elda, Sbaen
  • Yr Arolygiaeth Addysg Genedlaethol, Bwlgaria
  • Yr Arolygiaeth Canolfannau Addysg, Hyfforddiant Athrawon a Chymorth a Llywodraeth Y Basg – Adran Addysg (Sbaen)
  • OEDE – Sefydliad Arolygwyr Addysg Gynradd, Groeg
  • Yr Adran Addysg, Gwyddoniaeth a Phrifysgolion – Cymuned Madrid, Sbaen
  • Y Sefydliad Ansawdd a Gwerthuso Addysg, Serbia
  • Prifysgol Ghent, Gwlad Belg

Cefnogi gwelliant tymor hir

Mae STESSIE wedi’i gynllunio ar gyfer defnydd parhaus. Gall ysgolion fynd yn ôl at yr offeryn dros gyfnod i olrhain newidiadau o ran amgyffredion, gwerthuso effaith y camau a gymerwyd a mireinio’u blaenoriaethau. Mae’n darparu fframwaith ymarferol ar gyfer datblygiad strategol cynaledig.

Trwy annog myfyrio a rennir a chyfrifoldeb ar y cyd, mae STESSIE yn cynnig cyfle gwerthfawr i ysgolion gryfhau cynhwysiant – gan gefnogi perthyn, tegwch a llwyddiant ar gyfer pob dysgwr.