Fy mhrofiad o fod yn Arolygydd Cymheiriaid ar gyfer arolygiad Estyn yn y sector gwaith ieuenctid – Nick Hudd

Ar ôl cwblhau fy arolygiad Estyn cyntaf o wasanaethau ieuenctid awdurdod lleol yn ddiweddar fel Arolygydd Cymheiriaid, rwyf wedi treulio amser yn myfyrio ar yr hyn a oedd yn brofiad heriol, ysbrydoledig a chyfoethog yn broffesiynol.
Ar ôl yr hyfforddiant cychwynnol i arolygwyr cymheiriaid, roeddwn yn teimlo’n hyderus yn fy nealltwriaeth o’r broses, yn enwedig o ran sut i adolygu tystiolaeth yn yr Ystafell Arolygu Rithwir cyn yr ymweliad. Roedd y cipolwg cynnar hwn yn amhrisiadwy wrth i mi symud i’r cyfnod ar y safle, lle daeth cyfarfodydd, trafodaethau ac ymweliadau arsylwi â’r data’n fyw a’n galluogi i roi cyd-destun i’r ddarpariaeth yn ymarferol.
A minnau’n ymarferydd gwaith ieuenctid â thros 20 mlynedd o brofiad, roeddwn yn falch o ganfod bod fy nghyd-arolygwyr yn cydnabod gwerth fy ngwybodaeth am y sector a’m mewnwelediad o’r rheng flaen. Gweithiodd y tîm arolygu ar y cyd ac roeddwn wir yn teimlo fy mod yn cael fy mharchu fel cymar a bod fy nghyfraniad yn cryfhau’r broses arolygu gyffredinol.
Roedd yr arolygiad ei hun yn drylwyr, yn dryloyw ac wedi’i strwythuro’n dda. Rhaid cyfaddef, roeddwn i’n nerfus i ddechrau ynglŷn â llywio’r agweddau gweinyddol yn gywir, ond roedd y gefnogaeth a’r arweiniad gan dîm cyfan Estyn yn glir ac yn anogol. Cefais fy sicrhau’n gyson nad fy rôl i oedd dod yn AEF, ond yn hytrach i ddod â’m safbwynt fel ymarferydd i’r gwaith. Roedd hyn yn rhywbeth a wnaeth y profiad yn hylaw ac yn ystyrlon.
Credaf fod rôl Estyn mewn arolygu darpariaeth gwaith ieuenctid nid yn unig yn fuddiol ond yn hanfodol. Mae’n cefnogi gwelliant parhaus gwasanaethau, yn gwella ansawdd darpariaeth i bobl ifanc ac yn cynnig cyfleoedd dysgu gwerthfawr i ymarferwyr.
Yn bersonol, fe wnaeth y profiad ddyfnhau fy nealltwriaeth fy hun o waith ieuenctid mewn cyd-destunau gwahanol, ehangu fy safbwynt proffesiynol ac atgyfnerthu grym cydweithio ac arfer fyfyriol o ran sbarduno newid cadarnhaol. Byddwn yn argymell yn frwd i unrhyw ymarferydd profiadol sy’n ceisio gwneud cyfraniad ehangach i’n maes ddod yn arolygydd cymheiriaid.
Oeddech chi’n gwybod y gallwch ymweld â’n gwefan i gofrestru eich diddordeb mewn rowndiau recriwtio yn y dyfodol sy’n berthnasol i’ch profiad?
Dysgwch fwy yma.
Gallwch ddysgu mwy am ein gwaith yn y sector gwaith ieuenctid yma.