Rydym yn cymryd y materion hyn o ddifrif, a daw hyn i’r amlwg ym mhob agwedd ar ein gwaith. Wrth arolygu ysgolion, byddwn yn edrych yn ofalus ac yn sensitif ar gydraddoldeb ac amrywiaeth, fel yr amlinellir yn ein dogfen arweiniad ‘Beth rydym yn ei arolygu’.
Rydym yn arolygu pa mor dda y mae gwahanol grwpiau o ddisgyblion yn gwneud cynnydd ar draws yr ysgol trwy ddarganfod a yw disgyblion yn teimlo’n ddiogel ac yn saff, ac yn rhydd rhag cam-drin corfforol a geiriol. Rhaid i ddisgyblion deimlo eu bod yn cael eu parchu a’u trin yn deg, mae ein harolygwyr yn edrych ar ba mor dda y mae disgyblion yn datblygu i fod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus. Rydym yn ystyried sut mae’r ysgol yn datblygu ei chwricwlwm i adlewyrchu natur ddiwylliannol, ieithyddol ac amrywiol Cymru a’r byd ehangach. Wedyn, mae ein harolygwyr yn gwerthuso pa mor dda y mae ysgolion yn cynllunio ar gyfer addysgu disgyblion am hanes a phrofiadau cymunedau pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl LHDTC+ ac ar gyfer disgyblion â nodweddion gwarchodedig eraill.
Yn ystod ein harolygiadau, rydym yn adolygu pa mor dda y mae’r ysgol yn mynd i’r afael â bwlio, yn cynnwys digwyddiadau yn ymwneud â nodweddion gwarchodedig, bwlio yn gysylltiedig â rhagfarn, aflonyddu a gwahaniaethu. Hefyd, rydym yn edrych ar drefniadau’r ysgol i hyrwyddo a chefnogi diwylliant gwrthfwlio. Rydym yn ystyried barn disgyblion trwy holiadur cyn-arolygiad a thrwy siarad â nhw yn ystod wythnos yr arolygiad, gofyn cwestiynau penodol ynghylch teimlo’n ddiogel ac achosion o fwlio. Hefyd, rydym wedi creu arweiniad defnyddiol ar arolygu cydraddoldeb, hawliau dynol a Saesneg fel iaith ychwanegol. Mae hyn yn darparu mwy o gwestiynau ar gyfer arolygwyr, y gall arweinwyr eu defnyddio hefyd i werthuso a gwella cydraddoldeb ac amrywiaeth yn eu hysgolion.
Ychwanegu sylw newydd