Article details

Steve Pringle, AEM
By Steve Pringle, AEM
Postiadau blog |

Cael llais, cael dewis: cyfranogiad effeithiol gan ddisgyblion

Share this page

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i bob ysgol yng Nghymru fod â chyngor ysgol, ond beth sy’n gwneud cyfranogiad disgyblion yn rhan gwirioneddol effeithiol o waith ysgol?

Daeth cynghorau ysgol yn ofynion cyfreithiol yn 2005, o ganlyniad i benderfyniad gan Lywodraeth Cymru i ymgorffori egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC).

Mae gan bob plentyn yr hawl i fynegi ei farn, ei deimladau a’i ddymuniadau ym mhob mater sy’n effeithio arno, ac i rywun wrando ar ei farn a chymryd y farn o ddifrif.” (Erthygl 12)

Cyfranogiad disgyblion

Wrth gwrs, mae mwy i gyfranogiad effeithiol gan ddisgyblion na chael cyngor ysgol.  Mewn llawer o ysgolion, mae disgyblion yn fentoriaid neu’n ‘bydis’ i’w cymheiriaid.  Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu Safonau Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc i nodi’r pethau allweddol y dylai pob gweithiwr wybod amdanynt wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru.

  • Gwybodaeth – sy’n hawdd i blant a phobl ifanc ei deall
  • Chi biau’r dewis – digon o wybodaeth ac amser i wneud dewisiadau da
  • Dim gwahaniaethu – mae gan bob plentyn a pherson ifanc yr un cyfle i gymryd rhan
  • Parch – bydd eich barn yn cael ei chymryd o ddifrif
  • Bod ar eich ennill – byddwch yn mwynhau’r profiad
  • Adborth – cewch wybod pa wahaniaeth mae eich barn wedi’i wneud
  • Gwella sut rydym ni’n gweithio – bydd oedolion yn gofyn i chi sut y gallant wella’r ffordd maen nhw’n gweithio at y dyfodol

Beth yw’r heriau?

Nid yw bodolaeth cyngor ysgol yn arwain trwy ryw ryfedd wyrth at lefelau effeithiol o gyfranogiad gan ddisgyblion.  Darganfu adroddiad yn 2002 gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg mai dim ond dau o bob pump o blant oedd o’r farn bod cynghorau ysgol yn ffordd effeithiol o wrando ar eu syniadau.

Mae erthyglau ac adroddiadau niferus, er enghraifft Having a Say at School, sef adroddiad a gynhyrchwyd yn 2010 gan Brifysgol Caeredin, wedi nodi’r diffygion mwyaf cyffredin a all rwystro cyfranogiad effeithiol gan ddisgyblion.  Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • oedolion yn rheoli’r cyngor: athrawon yn gosod yr agenda ac yn rheoli’r drafodaeth
  • mae’r drafodaeth yn canolbwyntio ar agweddau fel y ffreutur a’r toiledau yn unig, fel yr awgryma’r erthygl hon
  • nid oes gan y cyngor gyllideb na hawl i ddweud ei ddweud am wariant
  • dim ond nifer bach iawn o ddysgwyr sy’n cymryd rhan
  • nid yw’r cyngor yn gallu cyfathrebu’n effeithiol â gweddill y corff myfyrwyr
  • ychydig neu ddim hyfforddiant y mae’r disgyblion a’r staff cysylltiedig yn ei gael i ymgymryd â’u rôl.

Sut i wneud i hyn weithio

Yn gynt eleni, cyhoeddodd School Councils UK grynodeb o waith ymchwil a gynhaliwyd ar ran Comisiynydd Plant Lloegr mewn ysgolion ag arferion rhagorol o ran llais y myfyriwr.  Hefyd, cyhoeddom ein hadroddiad ein hunain yn 2016: Cyfranogiad disgyblion: canllaw arfer orau.

Mae’r ffactorau allweddol a all annog cyfranogiad effeithiol gan ddisgyblion yn cynnwys:

  • Gweledigaeth ac ethos: ei wneud yn rhan ganolog o weledigaeth yr ysgol a chael strategaeth glir ar gyfer hyrwyddo cyfranogiad a meithrin perthnasoedd da.
  • Cynhwysiant: datgan yn glir y dylai pawb gymryd rhan.
  • Ehangder: sicrhau bod amrywiaeth ddigon eang o gyfleoedd i ddisgyblion gyfranogi, nid dim ond y rhai sy’n aelodau o’r cyngor ysgol.
  • Bod yn onest: helpu disgyblion i ddysgu nad ydynt bob amser yn cael eu ffordd eu hunain, ond sicrhau eu bod yn teimlo bod eu llais yn cael ei glywed mewn penderfyniadau go iawn sy’n effeithio ar eu bywyd.
  • Ffocws ar ddysgu: peidiwch fyth ag anghofio bod toiledau a ffreuturau yn gallu cael effaith arwyddocaol ar les disgyblion, ond dylent hefyd gael dweud eu dweud am beth maent yn ei ddysgu, a sut.
  • Adnoddau: sicrhau bod gan staff a disgyblion yr amser, yr adnoddau a’r hyfforddiant i’w galluogi i ddatblygu’r medrau a’r wybodaeth angenrheidiol.
  • Cyfathrebu: gwneud yn siwr bod pawb yng nghymuned yr ysgol yn gwybod beth sy’n digwydd.

Cyfranogiad effeithiol gan ddisgyblion, ar waith

Mae cael yr agwedd hon ar waith eich ysgol yn gywir yn her, ond mae’n fwy fyth o her po fwyaf yw eich ysgol.

Mae enghraifft dda i’w gweld yn y ffederasiwn rhwng dwy ysgol yn Sir Gâr, Ysgol Bryngwyn ac Ysgol Glan-y-Môr.  Mae chwe milltir rhwng y ddwy ysgol a, rhyngddynt, mae tua 1,500 o ddisgyblion ar y gofrestr.  Yn arolygiad yr ysgolion yn 2017, nodom fod ‘disgyblion yn gwneud cyfraniad eithriadol o gryf at ddylanwadu ar agweddau ar fywyd yr ysgol’.

Ynghyd â’r cyngor ysgol, datblygodd yr ysgol amrywiaeth o gyfleoedd eraill i ddisgyblion gymryd rhan ym mywyd yr ysgol, fel fforwm dysgu ac addysgu a arweinir gan y disgyblion, Cyngor Bugeiliol, Cyngor Cymuned, Cynghorau’r Cwricwlwm ar gyfer pob Maes Dysgu a Phrofiad a system dai gadarn.  Yma, maent yn disgrifio pam mae’r gwaith hwn yn bwysig:

Fel ysgol, rydyn ni bob amser yn ymdrechu i gynnwys disgyblion/dysgwyr bob cyfle posibl. Mae ein hethos a’n diwylliant wedi’u seilio ar yr athroniaeth hon o ymglymiad. Dyma sy’n allweddol i sicrhau ein bod yn rhoi’r gorau i wneud pethau yn yr ysgol nad ydynt yn cael effaith gadarnhaol ar ein dysgwyr, ac yn parhau i wneud pethau sydd wir yn cael eu gwerthfawrogi gan ein disgyblion.

Paul Jones, Pennaeth Gweithredol
 

Mae cyfranogiad y disgyblion yn bwysig iawn ac, o ganlyniad, mae’n gwneud hon yn ysgol hapus i fod ynddi. Pan fydd yr holl ddisgyblion yn cyfranogi yn eu haddysg, mae ganddynt agweddau mwy cadarnhaol at eu dysgu ac maent yn fwy brwdfrydig am fywyd yr ysgol. Yn ddiweddar, rhan o’n gwaith fu datblygu cyfranogiad gwell fyth gan ddisgyblion trwy Gynnwys, Ymglymiad ac Ysbrydoli.  

Y Cyngor Ysgol
 

Mae ein fforymau disgyblion yn cynnig llwyfannau ar gyfer sawl maes, lle y gall disgyblion fynegi’u barn, sy’n cael ei chlywed gan bob aelod o’r ysgol. Mae’r aelodau hyn yn cynnwys y llywodraethwyr a’r athrawon, yr holl ffordd i staff y ffreutur. Mae’n creu amgylchedd cadarnhaol, iach, i bawb o gwmpas yr ysgol. Gallwn wneud ein bywyd ysgol yn well.

Ychwanegu sylw newydd

Testun plaen

  • No HTML tags allowed.
  • Llinellau a pharagraffau yn torri'n awtomatig.
  • Web page addresses and email addresses turn into links automatically.