Beth gall ysgolion ac UCDau ei wneud i gryfhau gwydnwch disgyblion?

Anaml iawn mae arweinwyr ysgolion yn sôn am adeiladu gwydnwch disgyblion fel prif nod neu amcan. Yn aml, mae gwydnwch yn cael ei gryfhau o ganlyniad i waith arall sy’n cael ei wneud i gefnogi disgyblion. Mae ysgolion yn dod yn fwyfwy ymwybodol o faterion sy’n effeithio ar eu disgyblion, ac maent yn dod yn well am adnabod y rhai y mae angen cymorth arnynt â’u lles a’u hiechyd meddwl.
Mae nifer o achosion o arfer dda yn y maes hwn yn cael eu hamlygu mewn rhai o’n hadroddiadau thematig diweddar, fel Adnabod eich plant – cefnogi disgyblion sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, Iach a Hapus, a Cymorth effeithiol yn yr ysgol ar gyfer disgyblion sydd dan anfantais a disgyblion sy’n agored i niwed.
Yng Ngorffennaf gyhoeddwyd “Gwydnwch dysgwyr – meithrin gwydnwch mewn ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac unedau cyfeirio disgyblion”..
Yn gyffredinol, mae’r ffactorau sy’n cefnogi gwydnwch yn ymwneud â:
- hunan-barch a hunanhyder
- credu yn ein gallu ein hunain i ymdopi
- ystod o ddulliau i’n helpu i ymdopi
- perthynas dda â phobl eraill y gallwn ddibynnu arnynt i helpu
Lles emosiynol a iechyd meddwl
Mae’r ysgolion hyn yn deall bod yr holl staff yn gyfrifol am les emosiynol disgyblion, a bod pob rhyngweithiad ac ymgysylltiad â disgyblion yn effeithio ar eu hymdeimlad o werth. Yn yr ysgolion hyn, mae staff yn gwybod bod eu holl eiriau, gweithredoedd ac agweddau yn dylanwadu ar hunan-barch a hunanhyder disgyblion ac, yn y pendraw, eu lles.
Mae’n bwysig bod disgyblion yn cael cyfleoedd rheolaidd i fynegi eu hemosiynau a rhannu eu teimladau yn yr ysgol. Mae gan ysgolion llwyddiannus ddulliau clir ar gyfer gwrando ar bryderon disgyblion a mynd i’r afael â nhw’n gyflym. Maent yn effro i sut mae disgyblion yn teimlo yn ystod y dydd, ac yn cydweithio â disgyblion i nodi aelodau staff penodol y gallant droi atynt, yn ôl yr angen.
Gall dulliau anogol fod yn llwyddiannus iawn o ran helpu i adeiladu gwydnwch disgyblion sy’n cael trafferth ymdopi â’u hamgylchiadau cyfredol. Gall staff hyfforddedig helpu disgyblion i ddatblygu eu medrau personol a chymdeithasol, a gosod sylfeini i adeiladu perthynas gadarnhaol ag oedolion a’u cyfoedion. Maent yn arfogi disgyblion â’r offer i’w helpu i ddod yn fwy gwydn wrth wynebu heriau gwahanol.
Yr ysgolion sy’n dda am adeiladu gwydnwch eu disgyblion yw’r rhai sydd â gweledigaeth gref yn ymwneud â hybu lles emosiynol ac iechyd meddwl pob un o’u disgyblion. Yn ogystal â bod ag ymagwedd ysgol-gyfan tuag at les, mae’r ysgolion hyn yn cynnig ymyriadau penodol i ddisgyblion y mae angen cymorth penodol arnynt. Mae’r ysgolion hyn yn rhoi pwyslais cryf ar les eu staff hefyd.
Presenoldeb
Hefyd, maent yn dueddol o fod ag ychydig iawn o waharddiadau am gyfnod penodedig, os o gwbl, dros gyfnod maith. Maent yn ymdrechu i ddeall a mynd i wraidd yr hyn sy’n achosi heriau penodol y mae disgyblion yn eu hwynebu, ac yn fodlon rhoi cynnig ar ddulliau gwahanol i fynd i’r afael â’r problemau.
Disgyblion sy’n agored i niwed
Gall disgyblion sy’n agored i niwed wynebu heriau sy’n effeithio’n benodol ar eu gallu i fod yn wydn. Mae ysgolion effeithiol yn cydweithio’n agos â’r cartref drwy gynnig gweithgareddau cyfoethogi a gwybodaeth ychwanegol a all atgyfnerthu eu gwaith o ran helpu i adeiladu gwydnwch disgyblion sy’n agored i niwed. Yn aml, mae’r ysgolion hyn yn cydweithio’n agos i gefnogi teuluoedd disgyblion sy’n agored i niwed.
Defnyddio arbenigedd allanol
Mae ysgolion llwyddiannus yn defnyddio arbenigedd asiantaethau allanol perthnasol i ategu eu gwaith. Gall yr asiantaethau hyn ddod â medrau a gwybodaeth arbenigol nad ydynt ar gael bob amser mewn ysgolion a, phan fydd y berthynas rhwng pawb dan sylw yn gryf, maent yn cydweithio â’i gilydd er lles pennaf disgyblion, yn cryfhau eu gwydnwch ac yn gwella eu bywydau.
Pontio
Mae cyfnodau pontio, fel symud ysgol, yn gyfnodau pan gall plant ddioddef trallod emosiynol neu ddirywiad yn eu cynnydd a’u hymrwymiad i ddysgu, y gall pob un ohonynt danseilio gwydnwch. Nod pob ysgol yw hwyluso’r broses bontio i ddisgyblion, yn enwedig ar adegau pontio allweddol. Mae gan ysgolion sy’n canolbwyntio’n glir ar wydnwch disgyblion strategaethau gwerthfawr i gefnogi disgyblion sy’n symud yng nghanol y tymor, yn enwedig wrth groesawu disgyblion a allai fod wedi cael trafferth yn eu lleoliadau blaenorol. Maent yn dod i adnabod eu disgyblion newydd yn gyflym ac yn sicrhau bod cymorth ar gael o’r cychwyn cyntaf.
Mae’n amlwg nad oes ffordd hawdd i adeiladu gwydnwch ymhlith disgyblion. Mae ysgolion llwyddiannus yn deall ei bod yn broses barhaus sy’n mynnu buddsoddiad sylweddol o ran amser, egni ac adnoddau.
Proses barhaus
Mae’n amlwg nad oes ffordd hawdd i adeiladu gwydnwch ymhlith disgyblion. Mae ysgolion llwyddiannus yn deall ei bod yn broses barhaus sy’n mynnu buddsoddiad sylweddol o ran amser, egni ac adnoddau.
Mae’r pandemig diweddar wedi herio disgyblion fel erioed o’r blaen. Bu raid i ddisgyblion ymdopi ac addasu i ffyrdd newydd sbon o fyw a dysgu. Bydd rhai ohonynt wedi ymdopi’n well â’r sefyllfa ddiweddar nag eraill. Bydd rhai ohonynt wedi ffynnu a dod o hyd i ddiddordebau newydd a ffyrdd newydd o weithio, tra bydd eraill wedi cael trafferth y tu hwnt i’r hyn sy’n gyfforddus iddynt.
Bydd ysgolion da yn parhau i gynnig cefnogaeth i bob un o’u disgyblion, a bydd angen i bob ysgol nodi’r rhai sy’n cael trafferth ymdopi’n academaidd a’r rhai sy’n ymdrin â thrallod personol. Bydd angen iddynt gynnig y gefnogaeth sydd ei hangen ar y disgyblion hynny i fynd i’r afael â’u hamgylchiadau unigol.
Mae’n bosibl y bydd yr adroddiad ar Wydnwch Dysgwyr yn amlygu syniadau i ysgolion i’w helpu i gefnogi eu disgyblion.