Article details

By
Postiadau blog |

Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd – dull newydd

Share this page

Defnyddiwyd ymagwedd newydd at Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd eleni, ac rydym yn siarad am yr hyn a arweiniodd at y penderfyniad hwnnw, a sut mae hynny’n effeithio ar ein hadroddiadau wrth symud ymlaen.

Yn ein rôl fel arolygwyr, rydym yn cael y fraint o ymweld â darparwyr addysg ar draws y wlad, ac ymgysylltu â nhw. Mae hyn yn caniatáu i ni ddatblygu persbectif cenedlaethol ar yr hyn sy’n digwydd mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru a phob blwyddyn rydym yn cyfleu ein canfyddiadau yn Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd.  

Rydym yn gwybod, yn sgil ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid ac o ganfyddiadau ‘Arolygiaeth Dysgu’, bod rhanddeiliaid yn gwerthfawrogi’r Adroddiad Blynyddol fel ffynhonnell dystiolaeth gredadwy am y cryfderau a’r meysydd i’w gwella mewn addysg a hyfforddiant. Rydym hefyd yn ymwybodol y gallem wneud y canfyddiadau hyn yn fwy hygyrch a defnyddiol i randdeiliaid.  

Isod, ystyriwn rai o’r ffyrdd y byddwn yn gwella’n dull o rannu’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn ein hadroddiad blynyddol. Rydym am gyfleu negeseuon amserol a pherthnasol sy’n cynnig gwerth i’r sector addysg ac sy’n gallu llywio gwelliannau.

Amserol a pherthnasol

Er mwyn sicrhau bod ein negeseuon mor gyfredol â phosibl, bydd dau gam eleni i’r broses o gyhoeddi canfyddiadau ein Hadroddiad Blynyddol.

Fel cam cyntaf, byddwn yn rhannu ein canfyddiadau interim yn gynnar yn nhymor yr hydref. Bydd hyn ar ffurf crynodebau byr o’r negeseuon allweddol o’n gweithgarwch ymgysylltu ac arolygu. Byddant yn darparu darlun clir ac amserol i randdeiliaid o’r hyn sy’n gweithio’n dda a’r hyn y mae angen ei wella ar draws pob sector ac ar draws y dirwedd addysg ehangach yng Nghymru.  

Ym mis Ionawr, fel ail gam, byddwn yn cyhoeddi’r Adroddiad Blynyddol llawn. Bydd hyn yn adeiladu ar y canfyddiadau interim a bydd ar ffurf adroddiad manylach sy’n disgrifio’r ‘sefyllfa sydd ohoni’ mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru ac yn cynnig ffyrdd ymlaen.

Cynyddu ymgysylltiad

Plant Ysgol yn Rhedeg

Rydym yn gwybod bod gweithwyr addysg proffesiynol yn gwerthfawrogi’r Adroddiad Blynyddol a’i negeseuon. Rydym hefyd yn cydnabod y pwysau mae pobl sy’n gweithio ym myd addysg yn eu hwynebu a bod y rhain yn gallu ei gwneud yn anodd ymafael yn llawn â dogfen swmpus. Rydym am sicrhau bod yr Adroddiad Blynyddol yn hygyrch ac yn ddefnyddiol i’r bobl sydd wrth galon y gwaith o lywio gwelliannau ym myd addysg: arweinwyr, ymarferwyr a dysgwyr. I helpu yn hyn o beth, eleni, byddwn yn: 

  • Sicrhau bod yr Adroddiad Blynyddol yn cynnwys mwy o ddefnydd o ffeithluniau a chrynodebau. Byddwn yn darparu crynodeb ‘ar y dudalen’ ar gyfer pob sector ac ar gyfer themâu allweddol, fel y Cwricwlwm i Gymru a diwygio anghenion dysgu ychwanegol. 
  • Treialu’r defnydd o adnoddau dysgu proffesiynol i annog trafodaeth am rai o’n canfyddiadau allweddol. Pan fyddwn ni’n adnabod meysydd darpariaeth penodol y mae angen eu gwella, byddwn yn datblygu deunyddiau i staff eu defnyddio yn eu lleoliadau i gynorthwyo trafod a myfyrio. Bydd y rhain yn darparu sbardunau i staff i helpu llywio hunanwerthusiad y darparwr a nodi meysydd o arfer effeithiol sydd wedi’u hadnabod yn ein gwaith arolygu ac ymgysylltu. 
  • Datblygu ffyrdd o ennyn diddordeb dysgwyr. Rydym yn gwybod o’n gwaith gyda darparwyr bod mewnbwn ystyrlon gan ddysgwyr mewn hunanwerthuso’n declyn pwerus i gynorthwyo’r gwaith o gynllunio gwelliant. Gan adeiladu ar y defnydd o adnoddau dysgwyr yn ein hadroddiad thematig Aflonyddu Rhywiol rhwng Cyfoedion, byddwn yn treialu darparu adnoddau er mwyn i leoliadau ennyn diddordeb dysgwyr mewn hunanwerthuso yn gysylltiedig ag agweddau ar ganfyddiadau allweddol yr Adroddiad Blynyddol.

Rhannu ein negeseuon

Athro a Phlant Ysgol

Rydym eisoes yn defnyddio amrywiol ddulliau i rannu negeseuon o’r Adroddiad Blynyddol, gan gynnwys diweddariadau ar Twitter, Facebook, a LinkedIn yn ogystal â thrwy flogiau, ein gwefan a thrwy e-bost. Rydym yn ystyried datblygu ffyrdd pellach o gynyddu ymgysylltiad dros y blynyddoedd nesaf, megis:

  • Cynnal digwyddiad lansio wyneb yn wyneb. Gallai hyn gynnwys ‘trafodaeth bwrdd crwn’ â’r Prif Arolygydd ac arolygwyr eraill yn ogystal â chynrychiolwyr o’r sector addysg ehangach. 
  • Trefnu digwyddiad ‘Facebook Live’ i alluogi rhanddeiliaid i gyfathrebu’n uniongyrchol â’r Prif Arolygydd ac arolygwyr eraill am yr adroddiad blynyddol, ei negeseuon a’i oblygiadau. 
  • Cynhyrchu podlediadau sy’n canolbwyntio ar ganfyddiadau allweddol yn yr adroddiad. Byddai arolygwyr a gweithwyr addysg proffesiynol eraill yn gysylltiedig â’r rhain a byddent yn cynnwys trafodaethau sy’n archwilio ffyrdd o fynd i’r afael â’r heriau a amlygwyd yn yr adroddiad.

Dweud eich dweud

Rydym yn awyddus i glywed eich barn am y datblygiadau hyn a chlywed eich syniadau am ffyrdd eraill y gallwn wneud yr wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn ein hadroddiad blynyddol yn fwy perthnasol a defnyddiol i chi. Isod, mae dolen i Arolwg ‘Smart Survey’ lle gallwch gofnodi eich barn. Mae’r arolwg ar agor tan 8 Gorffennaf 2022. 

https://www.smartsurvey.co.uk/s/AdroddiadBlynyddolAnnualReport/

Ychwanegu sylw newydd

Testun plaen

  • No HTML tags allowed.
  • Llinellau a pharagraffau yn torri'n awtomatig.
  • Web page addresses and email addresses turn into links automatically.