Adeiladu ar gryfderau a dileu rhwystrau – paratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru
Ymdrin â’r Cwricwlwm i Gymru
Ers cyhoeddi’r Cwricwlwm i Gymru 2022, mae’r proffesiwn addysgu ledled Cymru wedi cael cyfle i fyfyrio ar ei arfer bresennol ac ystyried sut gallai newid wrth gyflwyno cwricwlwm wedi’i arwain gan ddibenion. Darparwyd rhagor o arweiniad i gefnogi ysgolion yn nogfen Llywodraeth Cymru, Y Daith i 2022.
Er bod ysgolion wedi wynebu amser heriol yn ystod pandemig COVID-19, yn gynyddol, mae ysgolion rydym ni’n siarad â nhw yn dechrau ailystyried eu cynllunio ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru. Mae hyn hefyd wedi cynnwys ystyried beth maen nhw wedi’i ddysgu o’r cyfnod hwn y byddant efallai am ei ddatblygu ymhellach, er enghraifft defnyddio platfformau digidol.
Nid ydym yn eiriol ymagwedd benodol at gynllunio neu gyflwyno’r cwricwlwm. Fodd bynnag, trwy arolygu a gwaith thematig, rydym yn gallu casglu a dwyn ynghyd amrywiaeth o ymagweddau sy’n dod i’r amlwg a welwn ledled Cymru.
Ym Mai 2018, cyhoeddom adroddiad thematig yn edrych ar Arloesi’r cwricwlwm mewn ysgolion cynradd.
Mae’r adroddiad hwn yn darparu man cychwyn defnyddiol. Gallech ddefnyddio’r pecyn cymorth hwn i weld ble mae eich ysgol ar daith y cwricwlwm neu archwilio’r dolenni i astudiaethau achos penodol.
Lluniom adroddiad tebyg ar gyfer ysgolion uwchradd, pob oed ac arbennig ym mis Tachwedd 2020, Paratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru.
Cynhaliwyd ein holl ymweliadau ar gyfer yr adroddiad hwn cyn y pandemig. Roedd yn dda gweld pa mor gadarnhaol roedd staff am y cyfleoedd mae’r Cwricwlwm i Gymru’n eu darparu. Croesawodd staff y rhyddid i ddatblygu a chyflwyno cwricwlwm wedi’i bersonoli ar gyfer eu dysgwyr a chawsant eu hysbrydoli gan y dull hwn.
Beth sy’n gweithio’n dda?
Yn ddiweddar, cynhaliom y cyntaf mewn cyfres o weminarau sy’n edrych ar yr adroddiad hwn yn fanwl. Ar y cyfan, mae ein hymgysylltiad ag ysgolion yn dangos bod arweinwyr a’u staff yn parhau’n frwdfrydig am y cyfleoedd mae’r Cwricwlwm i Gymru’n eu cyflwyno.
Lle y mae cynlluniau sy’n dod i’r amlwg yn gweithio’n dda:
- mae arweinwyr yn dangos ymrwymiad clir i’r Cwricwlwm i Gymru a dealltwriaeth glir ohono
- mae ysgolion yn datblygu gweledigaeth gadarn, uchelgeisiol ar gyfer eu cwricwlwm, dysgu ac addysgu, a deilliannau i ddisgyblion
- mae ysgolion yn canolbwyntio ar wella dysgu ac addysgu, gan ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o’r agwedd ‘sut’ ar addysgu
- mae uwch arweinwyr yn annog staff i gymryd risgiau ystyriol i wella dylunio a chynllunio’r cwricwlwm; pan fydd hyn yn gweithio’n arbennig o dda, mae’r dull yn hyblyg ar draws disgyblaethau neu feysydd dysgu a phrofiad
- caiff cydweithredu rhwng ysgolion, er enghraifft rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd, ei ddefnyddio’n effeithiol i ddeall sut olwg sydd ar ddilyniant disgyblion o 3 i 16 oed
Sicrhau llwyddiant
Ond beth yw rhai o’r rhwystrau y mae angen eu goresgyn i sicrhau bod y Cwricwlwm i Gymru’n cael ei weithredu’n llwyddiannus?
- Dod o hyd i amser i feddwl yn strategol
- Darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol i sicrhau bod yr holl staff yn deall proses ddylunio’r cwricwlwm
- Datblygu dealltwriaeth o’r cysylltiad rhwng y cwriwlwm ac addysgeg
- Datblygu gweithio cryfach mewn partneriaeth rhwng ysgolion
Y camau nesaf – Gwyliwch ein gweminar gyntaf a chofrestrwch ar gyfer ein gweminarau yn y dyfodol
Nod rhannu’r cryfderau hyn yw eich annog i fanteisio ar y cyfle hwn i fyfyrio ar eich arfer bresennol ac ystyried ‘sut gallwn i wneud pethau’n wahanol’.
Os gwnaethoch chi fethu’r weminar gyntaf, gallwch weld y recordiad ohoni yma.
Bydd y ddwy weminar nesaf yn edrych yn fanylach ar y themâu yn yr adroddiad hwn, a bydd ysgolion yn rhannu sut maent wedi mynd i’r afael â’u datblygiadau ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru.
Bydd manylion pellach am y rhain yn cael eu trafod yn ein cyfres o weminarau ar y Cwricwlwm i Gymru, felly cadwch eich lle nawr!
- 7 Medi: Datblygu gweledigaeth ar gyfer addysgu
- 15 Rhagfyr: Treialu a gwerthuso profiadau dysgu dilys