Beth yw ein hadnoddau gwella?
About our improvement resources
Here you’ll find resources to support those working in education and training in raising standards for learners.
Our resources consist of thematic reports, effective practice, additional resources, as well as our annual reports.
Arfer Effeithiol
Pan welwn arfer ddiddorol ac arloesol yn ystod arolygiad, rydym bob amser yn awyddus i’w rhannu. Rydym yn gwahodd ysgolion a darparwyr eraill i ysgrifennu astudiaethau achos pan fyddwn yn meddwl bod ganddynt rywbeth pwysig i'w rannu.
Creu amgylchedd dysgu cyfoethog ac ysgogol sy’n deillio o arsylwadau a diddordebau’r plant.
Gwybodaeth am y lleoliad Mae’r lleoliad yn lleoliad blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg sydd wedi’i leoli o fewn Ysgol Bro Alun yng Ngwersyllt, Wrecsam. Mae wedi’i gofrestru i ofalu am hyd at 57 o blant rhwng dwy a phedair oed, ac yn darparu amgylchedd cynnes ac anogol lle caiff plant eu cynorthwyo i ddatblygu trwy chwarae … Continued
Trefniadau cefnogol ar gyfer trosglwyddo i’r ysgol i blant a’u teuluoedd.
Gwybodaeth am y lleoliad Mae lleoliad cyn-ysgol Trefaldwyn yn lleoliad cyfrwng Saesneg sy’n darparu addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant ar gyfer plant tair a phedair oed. Mae wedi’i leoli ym mhentref Trefaldwyn. Mae’r lleoliad yn rhentu’r Ganolfan Weithgareddau sydd drws nesaf i’r ysgol gynradd leol, ac yn cael ei reoli gan bennaeth yr ysgol … Continued
Cefnogi plant gydag anghenion dysgu ychwanegol.
Gwybodaeth am y lleoliad Mae Standing to Grow yn lleoliad gofal dydd sesiynol sydd wedi cofrestru i ddarparu gofal plant ac addysg i 32 o blant yn ddyddiol. Mae’r lleoliad wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ac Estyn. Ar hyn o bryd, mae gan y lleoliad 53 o blant. Mae 17 o’r rhain yn cael cyllid addysg, gan gynnwys pump o blant sy’n cael y … Continued
Darpariaeth sy’n ysbrydoli chwilfrydedd a medrau plant trwy brofiadau dysgu yn yr ardal goedwig.
Gwybodaeth am y lleoliad Mae Meithrinfa Plas Gogerddan wedi’i lleoli mewn man gwledig prydferth ar gyrion Aberystwyth. Caiff y feithrinfa ei hamgylchynu gan fywyd cefn gwlad gydag ardaloedd awyr agored penigamp i’w harchwilio, gan gynnwys gofod coetir datblygedig lle mae’r ymagwedd at ddysgu awyr agored yn meithrin chwilfrydedd a datblygiad medrau plant mewn amgylchedd naturiol. Mae ei hathroniaeth yn pwysleisio pwysigrwydd natur mewn datblygiad plant, gan … Continued
Cymorth ar gyfer llwybrau a gyrfaoedd disgyblion yn y dyfodol
Gwybodaeth am yr ysgol / y darparwr: Mae Ysgol Gyfun Y Pant yn Rhondda Cynon Taf yn ysgol cyfrwng Saesneg sydd â 1,444 o ddisgyblion, y mae 1,178 ohonynt o oedran ysgol statudol. Mae 1.1% o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Mae tua 9.6% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am … Continued
Arweinyddiaeth Gydweithredol
Gwybodaeth am yr ysgol / y darparwr: Mae Ysgol Gyfun Y Pant yn Rhondda Cynon Taf yn ysgol cyfrwng Saesneg sydd â 1,444 o ddisgyblion, y mae 1,178 ohonynt o oedran ysgol statudol. Mae 1.1% o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Mae tua 9.6% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am … Continued
Cydlynu’r ddarpariaeth ar gyfer datblygu medrau disgyblion yn raddol
Gwybodaeth am yr ysgol / y darparwr Mae Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt yn ysgol gyfun gymysg cyfrwng Saesneg 11 i 16 sydd wedi’i lleoli ym Mro Gŵyr ger Abertawe. Mae 1128 o ddisgyblion ar y gofrestr, ac mae 6.12% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yr ysgol yn siarad Saesneg fel eu hiaith gyntaf, a daw’r … Continued
Ymagwedd ysgol gyfan at ddatblygu creadigrwydd
Gwybodaeth am yr ysgol / y darparwr Mae Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt yn ysgol gyfun gymysg cyfrwng Saesneg 11 i 16 sydd wedi’i lleoli ym Mro Gŵyr ger Abertawe. Mae 1128 o ddisgyblion ar y gofrestr, ac mae 6.12% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yr ysgol yn … Continued
Darpariaeth ar gyfer datblygu medrau darllen a llafar disgyblion
Gwybodaeth am yr ysgol Agorwyd Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun ym mis Medi 1995. Mae’n gwasanaethu plant a phobl ifanc Cwm Cynon a Merthyr Tudful. Mae 1026 o ddisgyblion yn yr ysgol, ynghyd â 118 yn y Chweched Dosbarth. Mae 12.1% o’r disgyblion yn gymwys i brydau ysgol am ddim. Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol … Continued
Dull ysgol gyfan i gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
Gwybodaeth am yr ysgol Agorwyd Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun ym mis Medi 1995. Mae’n gwasanaethu plant a phobl ifanc Cwm Cynon a Merthyr Tudful. Mae 1026 o ddisgyblion yn yr ysgol, ynghyd â 118 yn y Chweched Dosbarth. Mae 12.1% o’r disgyblion yn gymwys i brydau ysgol am ddim. Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol … Continued
Adroddiadau thematig
Bob blwyddyn, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn gofyn i’n Prif Arolygydd am gyngor ar ystod o themâu mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant. Mae ein hadroddiadau thematig yn helpu i lywio datblygiad polisi ac i fonitro cynnydd.
Addysgu Cwricwlwm i Gymru
Crynodeb gweithredol Mae’r adroddiad thematig hwn yn canolbwyntio ar ba mor effeithiol y mae ysgolion yn datblygu ac yn ymwreiddio dulliau addysgu yng Nghwricwlwm i Gymru. Gan fanteisio ar dystiolaeth arolygu, ymweliadau â lleoliadau ysgol (14 o ysgolion cynradd, 10 o ysgolion uwchradd ac un ysgol pob oed) ac adborth gan randdeiliaid, mae’n nodi nodweddion … Continued
Ieithoedd Rhyngwladol mewn Ysgolion yng Nghymru
Crynodeb gweithredol Mae’r adroddiad thematig hwn yn archwilio addysgu a dysgu ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion cynradd, uwchradd ac ysgolion pob oed yng Nghymru. Mae’n gwerthuso’r cynnydd a wnaed o ran gweithredu ieithoedd rhyngwladol o fewn Cwricwlwm i Gymru. Mae’n ystyried ansawdd yr addysgu a’i effaith ar ddysgu, a sut mae arweinwyr yn dylanwadu ar ddarpariaeth … Continued
Ymddygiad Dysgwyr mewn Colegau Addysg Bellach
Crynodeb gweithredol Mae’r adroddiad hwn yn archwilio ymddygiad dysgwyr mewn colegau addysg bellach ledled Cymru. Mae’n canolbwyntio ar y ffactorau sy’n dylanwadu ar ymddygiadau cadarnhaol a negyddol, yn ogystal â’r amrywiadau mewn ymddygiad ar draws gwahanol grwpiau dysgwyr a rhaglenni dysgu. Mae’r adroddiad yn ystyried sut mae colegau’n hyrwyddo ymddygiadau cadarnhaol ac yn rheoli ymddygiadau … Continued
Adroddiad thematig: Y system anghenion dysgu ychwanegol
I droi is-deitlau Cymraeg ymlaen, cliciwch y botwm CC Crynodeb gweithredol Mae’r adroddiad hwn yn ystyried pa mor dda y mae’r lleoliadau nas cynhelir a ariennir, ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac ysgolion pob oed a gynhelir a gymerodd ran yn yr adolygiad yn gweithredu ac yn ymgorffori agweddau ar Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys … Continued
Adroddiad Thematig: Effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol, cymorth, darpariaeth a phontio ar gyfer addysg gynnar
Crynodeb gweithredol Mae’r adroddiad hwn yn ystyried pa mor effeithiol yw’r cymorth a’r ddarpariaeth a gynigir gan ddarparwyr addysg y blynyddoedd cynnar o ran mynd i’r afael ag effeithiau andwyol tlodi ac anfantais ar blant yn y blynyddoedd cynnar. Mae’n canolbwyntio ar ba mor dda y mae awdurdodau lleol a gwasanaethau gwella ysgolion yn cefnogi’r … Continued
Adroddiad Thematig: Pontio a chynnydd disgyblion
I droi is-deitlau Cymraeg ymlaen, cliciwch y botwm CC Crynodeb gweithredol Mae’r adroddiad hwn yn ystyried pa mor dda y mae ysgolion yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi cyfnod pontio disgyblion o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Mae’n canolbwyntio ar ba mor dda y mae ysgolion yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod eu cwricwla … Continued
Adroddiad Thematig: Datblygu medrau darllen Cymraeg disgyblion 10-14 oed
I droi is-deitlau Cymraeg ymlaen, cliciwch y botwm CC Crynodeb gweithredol Yn dilyn cyhoeddi adroddiad ar fedrau darllen Saesneg disgyblion 10-14 oed gan Estyn yn Mai 2023, fe aethom ati i lunio adroddiad ar sut mae ysgolion Cymraeg a dwyieithog yn datblygu medrau darllen Cymraeg disgyblion ar draws y cwricwlwm. Yn Hydref 2023, fe wnaethom … Continued
Gwella presenoldeb mewn ysgolion uwchradd – deunydd hyfforddiant
Mae'r cyflwyniad PowerPoint hwn yn ffordd i ddarparwyr rhannu brif ganfyddiadau'r adroddiad a adolygu eu perfformiad eu hunain mewn maes thematig penodol. Mae'r cyflwyniadau yn crynhoi'r adroddiad ac yn cynnwys cyfres o gwestiynnau gall darparwyr ystyried wrth edrych i wella.
Gwella presenoldeb mewn ysgolion uwchradd
Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y strategaethau a’r camau gweithredu yr oedd ysgolion uwchradd yn eu defnyddio er mwyn gwella presenoldeb disgyblion. Mae hefyd yn ystyried y cymorth a ddarperir gan awdurdodau lleol. Mae’r adroddiad yn nodi cryfderau a meysydd i’w gwella yn ymarferol a’r rhwystrau a nododd arweinwyr ysgolion i ddisgyblion yn mynychu’r ysgol, ac felly’n gwella presenoldeb. Mae hefyd yn cynnwys cameos ac astudiaethau achos arfer effeithiol.
Y system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd – deunydd hyfforddiant
Mae'r cyflwyniad PowerPoint hwn yn ffordd i ddarparwyr rhannu brif ganfyddiadau'r adroddiad a adolygu eu perfformiad eu hunain mewn maes thematig penodol. Mae'r cyflwyniadau yn crynhoi'r adroddiad ac yn cynnwys cyfres o gwestiynnau gall darparwyr ystyried wrth edrych i wella.