
Mae’r llawlyfr hwn ar gyfer enwebeion. Bydd yr enwebai yn gynrychiolydd y coleg ac yn aelod o’r tîm arolygu yn ystod yr arolygiad. Datblygwyd y llawlyfr yn bennaf gydag anghenion uwch reolwyr mewn cof ac mae pwyslais cryf ar ddefnydd ymarferol. Mae’n ymateb i’r cwestiwn cyffredin – Beth mae’n rhaid i mi ei wybod i fod yn enwebai effeithiol? Bydd cymryd amser i ddarllen trwy’r llawlyfr yn rhoi i chi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i baratoi ar gyfer eich arolygiad, a deall pwysigrwydd y rôl fel enwebai’r coleg.