
Mae’r ddogfen hon yn cynnig arweiniad i leoliadau ar ffocws penodol y gwiriad cywirdeb ffeithiol. Hefyd, mae’n egluro sut bydd Estyn ac AGC yn ymateb i unrhyw faterion mae’r lleoliad yn eu codi drwy’r broses arolygu ar y cyd.
Mae Estyn ac AGC yn disgwyl i bob adroddiad arolygu fod yn ffeithiol gywir ac amlinellu canfyddiadau’r arolygiad a’r naratif, gan esbonio barnau’n glir ac yn ddiamwys.
Fel arfer, mae adroddiadau Estyn ac AGC yn cyflwyno’u canfyddiadau yn gywir. Fodd bynnag, o bryd i’w gilydd, gall gwall ffeithiol godi mewn adroddiad drafft neu gall y lleoliad amgyffred nad yw’r adroddiad yn cyfleu’r canfyddiadau’n glir. Rydym yn cydweithio â lleoliadau trwy gydol y broses o wirio cywirdeb ffeithiol i fynd i’r afael â’r materion hyn.