Arweiniad ar gefnogi ysgolion ac UCDau a gynhelir sy'n mynd i gategori statudol - Estyn

Arweiniad ar gefnogi ysgolion ac UCDau a gynhelir sy’n mynd i gategori statudol



Mae’r arweiniad hwn wedi’i gynllunio i gefnogi ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) sydd wedi cael eu gosod mewn categori statudol. Mae’n darparu arweiniad ar beth sy’n digwydd pan fydd ysgol neu UCD yn mynd i gategori statudol, beth mae’n rhaid i’r ysgol neu’r UCD a’r awdurdod lleol ei wneud ar ôl yr arolygiad, beth gallent ei wneud a beth i’w ddisgwyl gan Estyn. Gellir defnyddio’r arweiniad hwn ar y cyd â’r ddogfen ‘Sut rydym yn arolygu’ sydd i’w ganfod ar ein gwefan. Mae’r arweiniad hwn wedi’i fwriadu ar gyfer ysgolion ac UCDau a gynhelir ac nid yw’n berthnasol i ysgolion annibynnol.


Gall cael ei gosod mewn categori statudol ar ôl arolygiad craidd fod yn brofiad heriol iawn i’r ysgol neu’r UCD. Mae’n heriol i gymuned gyfan yr ysgol neu’r UCD, ond gall fod yn heriol i unigolion hefyd, yn enwedig arweinwyr, ar lefel bersonol.


Mae’r arweiniad hwn yn darparu ystod o ystyriaethau a syniadau ar sut gellir cefnogi ysgolion / UCDau trwy’r broses hon. Fodd bynnag, mae cyd-destun pob darparwr yn wahanol ac ni fydd pob un o’r syniadau neu’r ystyriaethau yn y ddogfen hon yn briodol dan yr holl amgylchiadau.


Gallai hefyd fod yn fuddiol edrych ar ddogfen ddiweddaraf Llywodraeth Cymru ar Ysgolion sy’n achosi pryder.