Arolygydd Anghenion Dysgu Ychwanegol - Estyn

Arolygydd Anghenion Dysgu Ychwanegol


Beth yw Arolygydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)?

Ymarferwyr sydd â chymwysterau a phrofiad addas o awdurdodau lleol, ysgolion prif ffrwd sydd â dosbarthiadau arbenigol awdurdod lleol (LASC) neu o ysgolion arbennig, yw arolygwyr ADY ychwanegol, sy’n cael eu defnyddio i arolygu dosbarthiadau arbenigol awdurdodau lleol mewn ysgolion cynradd, uwchradd a phob oed.

Pa brofiad sydd ei angen i fod yn Arolygydd ADY?

Dylai Arolygydd ADY ychwanegol:

  • Fod â Statws Athro Cymwysedig.
  • Feddu ar isafswm o bum mlynedd o brofiad mewn rôl ymgynghorol (e.e., athro arbenigol, seicolegydd addysg).
  • Feddu ar o leiaf bum mlynedd o brofiad o arwain dosbarth arbenigol awdurdod lleol a/neu addysgu disgyblion ag ADY mewn lleoliadau arbenigol, gan gynnwys ysgolion arbennig a gynhelir.
  • Gael cefnogaeth y cyfarwyddwr addysg, cadeirydd y corff llywodraethu neu’r pennaeth.

Gall Arolygydd Cymheiriaid (AC) fod yn Arolygydd Ychwanegol ADY os oes ganddynt brofiad ADY (ysgol arbennig a gynhelir neu UCD) ond ni all Arolygydd Ychwanegol ADY fod yn AC oni bai eu bod wedi dilyn y cwrs i fod yn AC.

Sut mae gwneud cais i ddod yn Arolygydd Cymheiriaid?

Mae ein holl rolau yn cael eu hysbysebu ar ein gwefan. Cymerwch olwg ar ein swyddi gwag presennol a chofrestrwch ar gyfer hysbysiadau yn y dyfodol.

Diddordeb mewn bod yn arolygydd?

Cofrestrwch i gael gwybod pryd fydd y rownd recriwtio nesaf sy’n berthnasol i’ch profiad chi ar agor.

Cofrestru am ddiweddariadau recriwtio arolygwyr
none