Cynhaliodd uwch arweinwyr ac arweinwyr canol nifer o drafodaethau myfyriol lle buont yn archwilio eu dealltwriaeth o’r hyn y mae arweinyddiaeth disgyblion yn ei olygu iddyn nhw, pam mae’n bwysig a sut mae’n cysylltu â dysgu, ymgysylltu, gwella’r ysgol a chyflawni diwygio cenedlaethol. Gwerthuson nhw’r ddarpariaeth bresennol, ac o ganlyniad, creon nhw nifer o systemau newydd i gryfhau cyfleoedd i ddatblygu arweinyddiaeth disgyblion ymhellach yn yr ysgol.
Mae cyflwyno Grŵp Ymgynghori ar y Cwricwlwm wedi bod yn hanfodol wrth sicrhau bod arweinyddiaeth disgyblion yn cael ei datblygu gyda ffocws penodol ar ddylunio’r cwricwlwm. Mae’r ysgol wedi penodi 47 o ddisgyblion i weithredu fel Ymgynghorwyr y Cwricwlwm ar draws pob grŵp blwyddyn. Maent wedi gweithio gyda staff addysgu, uwch arweinwyr, cyd-ddisgyblion a rhanddeiliaid, gan ffurfio a dylunio ymateb yr ysgol i’r Cwricwlwm i Gymru a holl elfennau Cenhadaeth ein Cenedl. Ffurfiwyd tîm o Ymgynghorwyr y Cwricwlwm i sicrhau ei fod yn cynrychioli cymuned yr ysgol, ac yn ddiweddar, mae wedi bod yn canolbwyntio ar ddatblygu ymateb yr ysgol i themâu trawsbynciol trwy sicrhau bod cynlluniau dysgu yn dathlu amrywiaeth a hyrwyddo cydraddoldeb. Mae Ymgynghorwyr y Cwricwlwm yn cyfarfod bob hanner tymor ac wedi ennill gwybodaeth ymarferol fanwl am broses dylunio’r cwricwlwm. Maent wedi mynychu diwrnodau cynllunio rheolaidd ar gyfer meysydd dysgu a phrofiad gydag arweinwyr canol, ac fe gânt eu cynnwys yn rheolaidd mewn prosiectau cynllunio ac ymholi cydweithredol. Mae ymgynghorwyr y cwricwlwm yn sicrhau bod gan ddisgyblion rôl ddilys mewn dylunio’r cwricwlwm, ac wedi bod yn allweddol mewn creu gweledigaeth yr ysgol ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru.
Er mwyn datblygu ei hymagwedd ysgol gyfan at amrywiaeth ymhellach, mae’r ysgol wedi creu grŵp PRIDE a grŵp Niwroamrywiaeth hefyd. Mae’r grwpiau hyn yn creu cyfleoedd i ddatblygu arweinyddiaeth disgyblion gyda ffocws penodol ar gynrychiolaeth, cynhwysiant ac amrywiaeth. Mae dysgwyr yn cyfarfod yn rheolaidd ac wedi ymgymryd â rôl arweiniol mewn gwerthuso’r ymateb cychwynnol i ddylunio’r cwricwlwm, ac wedyn yn cydweithio â staff i drafod cyfleoedd ar gyfer datblygu amrywiaeth o fewn dylunio’r cwricwlwm ac ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol.
Mae grwpiau Ymgynghorwyr y Cwricwlwm, Pride a Niwroamrywiaeth yn ychwanegu at y cyngor ysgol sydd eisoes wedi’i sefydlu’n gadarn, grwpiau llais y dysgwr sy’n benodol i bwnc a’r rhaglen mentora cymheiriaid i gymheiriaid. Gwnaed gwaith i sefydlu rolau clir ar gyfer pob llwybr arweinyddiaeth disgyblion. Ailedrychwyd ar ddatganiad cenhadaeth y cyngor ysgol i adlewyrchu’r ffyrdd y byddai’r gwahanol gyfleoedd arwain i ddisgyblion yn triongli ac yn cydweithio. Mae’r cyngor ysgol wedi canolbwyntio ar werthuso a chyfrannu at ddylunio’r cwricwlwm gyda ffocws ar ddatblygu CCUHP, ac yn fwyaf diweddar, gellir ei gydnabod am ei rôl yn ennill gwobr am waith yr ysgol ar barchu hawliau plant a phobl ifanc. Mae is-grwpiau o’r cyngor ysgol yn cymryd rôl arwain weithredol mewn datblygu dysgu ac addysgu gan fod pob adran wedi penodi swyddogion sy’n benodol i bwnc sy’n ymgynghori’n rheolaidd â dysgwyr a staff addysgu i sicrhau bod safbwyntiau’n cael eu cynrychioli’n briodol. Mae hyn yn bwydo i gylch monitro a gwerthuso’r ysgol gyfan. Datblygwyd arweinyddiaeth myfyrwyr ymhellach trwy greu Is-Grwpiau Amgylchedd, Cymuned, Elusen a Lles.