Arfer Effeithiol |

Ymgorffori gwaith ieuenctid targedig mewn ysgolion

Share this page

Nifer y disgyblion
372
Ystod oedran
11-16
Dyddiad arolygiad

Gwybodaeth am yr awdurdod lleol

Cyfanswm poblogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yw tua 60,000. Mae’r awdurdod lleol yn cynnal 28 o ysgolion, sy’n cynnwys 22 ysgol gynradd, pedair ysgol uwchradd, un ysgol arbennig ac un uned cyfeirio disgyblion.  
Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yn cynnwys darpariaeth mynediad agored wedi ei lleoli mewn dwy ganolfan a reolir gan yr awdurdod lleol, ac un tîm o weithwyr ieuenctid stryd. Trwy drefniadau comisiynu, mae’r awdurdod lleol hefyd yn cefnogi chwe darpariaeth ieuenctid leol yn y gymuned y trydydd sector, gan gynnwys darpariaeth ieuenctid Gymraeg a ariennir ar y cyd ag Urdd Gobaith Cymru.


Mae pedwar tîm ieuenctid targedig a reolir gan yr awdurdod lleol sy’n cael eu hariannu trwy grantiau, ac maent yn cynnig cymorth i bobl ifanc oresgyn amrywiaeth o rwystrau, gan gynnwys atal achosion o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NACH), iechyd meddwl a lles a digartrefedd ymhlith pobl ifanc.

Mae’r awdurdod lleol yn rhoi cyfle i bobl ifanc gael eu llais wedi’i glywed trwy Fforwm Ieuenctid Ledled Bwrdeistref Merthyr Tudful. 
 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r awdurdod lleol yn defnyddio cyllid craidd a chyllid grant i gynnal cydbwysedd rhwng mynediad agored, darpariaeth gyffredinol a rhaglenni targedig sy’n mynd i’r afael ag anghenion penodol. Defnyddir gwaith ieuenctid i gefnogi agenda’r Adran Addysg trwy’r Strategaeth Codi Dyheadau Codi Safonau (RARS), gydag agweddau eraill ar y gwaith targedig hefyd yn cefnogi’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid cenedlaethol.

Mae’r awdurdod wedi bod yn llwyddiannus o ran ymgorffori gwaith ieuenctid targedig o fewn ysgolion sy’n darparu cymorth addysgol a bugeiliol effeithiol i bobl ifanc. 

Mae ysgolion yn gwerthfawrogi’r cyfraniad cadarnhaol a wna gwaith ieuenctid at addysg a lles disgyblion, ac yn ystyried ei bod yn agwedd annatod ar eu darpariaeth ar gyfer dysgu a chymorth bugeiliol.
 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae’r dull targedig o ran gwaith ieuenctid mewn ysgolion uwchradd lleol a’r UCD wedi’i ddylunio i gefnogi anghenion lles emosiynol pobl ifanc, gan ddefnyddio ystod o weithgareddau grŵp teilwredig, heb eu hachredu, ac ymyriadau un i un. Yn ychwanegol, mae ffocws clir ar gyflwyno datblygiad personol a chymdeithasol BTEC ac Agored Cymru a cymwysterau addysg yn gysylltiedig â gwaith a Strategaeth RARS. 

Mae’r ddarpariaeth yn ategu darpariaeth y cwricwlwm ysgolion a gweithredu Fframwaith Llywodraeth Cymru ar ymgorffori ymagwedd ysgol gyfan at les emosiynol a meddyliol. Mae’r cymwysterau’n cefnogi pobl ifanc i symud ymlaen i gyrchfan ôl-16, a chymerir camau yn gynnar yn y broses gynllunio i sicrhau bod rhaglenni achrededig yn ategu proffil cymwysterau person ifanc er mwyn osgoi dyblygu.

Mynegodd pobl ifanc eu hawydd i gael cyfle gwell i droi at weithwyr ieuenctid yn yr ysgol i gefnogi eu lles a’u datblygiad personol, ynghyd â’r cyfle i gymryd rhan mewn rhaglenni achredu a gynigir gan y gwasanaeth ieuenctid. Mae’r gwasanaeth ieuenctid wedi ymateb trwy addasu eu dulliau a’u hadolygu’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion pobl ifanc. Mae enghreifftiau’n cynnwys cyflwyno’r BTEC i grwpiau blwyddyn gyfan mewn un ysgol, a’r fformat cyflwyno presennol ar draws nifer o ysgolion ac UCDau i bobl ifanc mewn grwpiau llai math anogaeth.

Yr hyn sy’n allweddol i ymgorffori gwaith ieuenctid yn ysgolion Merthyr Tudful fu cyfathrebu da, a darpariaeth o ansawdd da, gan gynnwys cynnig cymwysterau sy’n cael eu gwerthfawrogi gan yr ysgolion a’r bobl ifanc. Mae hyn wedi sicrhau bod ymyriadau’n cael eu targedu’n briodol a’u defnyddio’n effeithiol er budd dysgwyr. Mae ysgolion yn cydnabod proffesiynoldeb gweithwyr ieuenctid y mae eu medrau wedi cael eu gwella i sicrhau bod negeseuon cyson yn cael eu cyflwyno, er enghraifft trwy hyfforddiant TAR, hyfforddiant Cynorthwyydd Cymorth Llythrennedd Emosiynol (ELSA) ac arferion sy’n ystyriol o drawma. 

Mae cynllunio’n dechrau ar ddiwedd tymor yr haf a dechrau tymor yr hydref pan fydd arweinwyr tîm yn gweithio gyda staff bugeiliol ysgolion i nodi pobl ifanc a fyddai’n elwa ar gymorth ychwanegol, a thrafod eu hanghenion unigol. Defnyddir hyn, ynghyd â ffurflen atgyfeirio, i deilwra’r ymyriadau, a chaiff cynllun gweithredu ei lunio ar y cyd â phobl ifanc. Defnyddir proffilio bregusrwydd ac ymgysylltu yn y cyfarfodydd panel NACH misol mewn ysgolion yn effeithiol ar gyfer atgyfeiriadau i brosiect Ysbrydoli i Gyflawni (Inspire 2 Achieve). Caiff cyfarfodydd panel eu hwyluso gan gydlynydd NACH y gwasanaeth ieuenctid, ac mae cynrychiolwyr ysgol a sefydliadau partner perthnasol yn eu mynychu.

Caiff gweithwyr arweiniol o brosiect Ysbrydoli i Gyflawni eu dyrannu i bob ysgol uwchradd a’r UCD, ac maent yn gweithio yn y lleoliad hwnnw yn unig, gan alluogi i berthnasoedd gyda phobl ifanc ffynnu. Mae timau targedig eraill yn gweithio ar draws ysgolion a’r UCD, a rhoddir slotiau amser rheolaidd iddynt ar gyfer cyflwyno eu darpariaeth, boed hynny’n gymwysterau, yn waith grŵp neu’n gymorth un i un. Mae cael presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol yn sicrhau bod staff a phobl ifanc yn gwybod pryd a ble mae gweithwyr ieuenctid ar gael.

Rhoddir y wybodaeth ddiweddaraf i ysgolion am gynnydd eu pobl ifanc ac unrhyw broblemau a allai godi, fyddai’n mynnu cymorth ychwanegol. Wrth i’r flwyddyn academaidd fynd rhagddi, mae timau’n mabwysiadu dull hyblyg ac yn mynd i’r afael ag anghenion wrth iddynt godi trwy waith grŵp teilwredig. Er enghraifft, yn 2019-2020, ac wrth ymateb i gynnydd yn nifer y bobl ifanc sy’n dilyn rhaglenni addysg heblaw yn yr ysgol sy’n dod yn bobl ifanc NACH, ail-luniwyd prosiect Ysbrydoli i Gyflawni i gynnwys testunau fel gosod nodau, gwneud penderfyniadau, medrau cyfathrebu a gwella hunan-barch. Llwyddodd pob un o’r bobl ifanc a gymerodd ran i gyflawni naill ai Agored Cymru Lefel 1 mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol neu Addysg yn Gysylltiedig â Gwaith.
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae deilliannau achredu ar gyfer dysgwyr sy’n dilyn cymwysterau a gyflwynir gan dîm cymorth i ysgolion y gwasanaeth ieuenctid a phrosiect Ysbrydoli i Gyflawni yn dda, gyda bron pob un o’r bobl ifanc (tua 97%) yn cael deilliant achrededig yn 2019-2020 a 2020-2021. Mae cyfraddau cadw yn rhagorol, gyda 97% o ddechreuwyr yn cwblhau eu cwrs bob blwyddyn.

Mae nifer dda o ddysgwyr yn manteisio ar y cymorth. Er enghraifft, o 533 o atgyfeiriadau i brosiect Ysbrydoli i Gyflawni ers iddo ddechrau ym mis Ebrill 2016, ymgysylltodd 513 o bobl ifanc yn llwyddiannus. Mae deilliannau’n dda, a phob blwyddyn, mae tua 90% o bobl ifanc Blwyddyn 11 sy’n cael cymorth yn trosglwyddo’n llwyddiannus i gyfle ôl-16. Cofnodir lles cyfranogwyr gan ddefnyddio ‘Asesiad Seren’, gydag 86% o gyfranogwyr yn myfyrio ar eu cynnydd personol, ac yn adrodd ar welliant mewn un neu fwy o’r meysydd lles o fewn yr asesiad wrth iddynt adael. 

Wrth iddynt adael, dywed y rhan fwyaf o bobl ifanc sy’n cael cymorth un i un gan y Timau Cymorth Ieuenctid ac Iechyd Meddwl a Digartrefedd Ymhlith Pobl Ifanc fod eu hanghenion wedi cael eu diwallu a bod ychydig iawn yn unig o ailatgyfeiriadau am gymorth.
 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae gwaith y gwasanaeth ieuenctid wedi cael ei rannu’n fewnol ar ddiwrnodau dysgu i ffwrdd yr adran addysg, a thrwy astudiaethau achos sy’n cefnogi adrodd ar gyfer cyllid grant a’r Marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid. Hefyd, rhennir arfer dda gydag ysgolion er mwyn gwella’r ddarpariaeth er budd dysgwyr.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn