Arfer Effeithiol |

Ymagwedd Ysgol Greenhill at sicrhau tegwch

Share this page

Nifer y disgyblion
66
Ystod oedran
11-19
Dyddiad arolygiad

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Greenhill yn ysgol arbennig, a gynhelir gan Gyngor Dinas Caerdydd, sy’n cynnig addysg ddydd i 66 o ddisgyblion rhwng 11 a 18 oed. Mae gan bob un o’r disgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig mewn perthynas â’u hanawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. Mae gan lawer o ddisgyblion anawsterau dysgu penodol a all gynnwys dyslecsia, dyspracsia neu anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd. Mae gan ychydig o ddisgyblion anghenion meddygol penodol hefyd. 

Mae bron pob un o’r disgyblion yn byw yng Nghaerdydd a daw ychydig iawn ohonynt o awdurdodau cyfagos. Ar hyn o bryd, mae pob un o’r disgyblion ar y gofrestr yn fechgyn. Daw tuag un o bob pump o’r disgyblion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig. Mae ychydig iawn o’r disgyblion dan ofal eu hawdurdod lleol. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ddisgybl yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Nid oes unrhyw un o’r disgyblion yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd fel eu hiaith gyntaf. Mae tuag 80% o’r disgyblion yn cael prydau ysgol am ddim. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Gweledigaeth a gwerthoedd yr ysgol yw’r grym y tu ôl i’r holl ryngweithiadau, mentrau a datblygiadau yn yr ysgol. Y weledigaeth yw creu amgylchedd ysgol lle mae disgyblion:

  • yn hapus, yn ddiogel, yn sicr ac yn cael cyfle i ddatblygu eu talentau
  • yn ffynnu mewn cymuned ofalgar a chefnogol
  • wedi’u harfogi â’r medrau i’w helpu i fod y gorau y gallant fod er mwyn cyfrannu’n gadarnhaol i gymdeithas

Mae’r nodau hyn yn ffurfio sail i werthoedd yr ysgol, sef perthnasoedd, parch a chyfrifoldeb ac yn lliwio pob sgwrs rhwng oedolion a disgyblion yn yr ysgol.


Mae anfantais economaidd-gymdeithasol yn effeithio ar y rhan fwyaf o’r disgyblion. O ganlyniad, mae darparu offer sylfaenol a gwisg ysgol yn rhoi pwysau economaidd ychwanegol ar gyllid teuluoedd y disgyblion. Mae’r staff a’r llywodraethwyr wedi penderfynu darparu ystod eang o brofiadau i ddisgyblion lle nad oes unrhyw rwystrau ariannol rhag cymryd rhan. Ym mis Ionawr 2020, penderfynodd y corff llywodraethol ddarparu prydau ysgol am ddim i’r holl ddisgyblion. 
 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae ystod eang o strategaethau i sicrhau bod yr ysgol yn cynnig y gallu i ddisgyblion fanteisio’n llawn ar bob profiad addysgol. Mae’r uwch dîm arweinyddiaeth wedi chwarae rôl weithredol iawn mewn sicrhau cyllid grant a rhoddion i elusen yr ysgol. Mae arweinwyr a staff yn credu’n gryf fod gweithgareddau addysg awyr agored ac ymweliadau i leoedd o ddiddordeb diwylliannol yn rhan hanfodol o gyflawni gweledigaeth yr ysgol. I’r perwyl hwnnw, mae’r pennaeth, wedi’i gefnogi gan bwyllgor cyllid y corff llywodraethol, yn sicrhau bod rhan sylweddol o’r gyllideb yn cael ei neilltuo i hwyluso hyn ac i dalu i brynu a chynnal a chadw fflyd yr ysgol o bum cerbyd. Mae’r ysgol hefyd wedi datblygu partneriaeth â Chanolfan Addysg Awyr Agored Storey Arms, gan gyflogi dau o’i staff am dridiau’r wythnos i gynorthwyo ag ymagwedd yr ysgol tuag at y Cwricwlwm i Gymru.

Mae’r holl fwyd yn yr ysgol yn cael ei ddarparu’n rhad ac am ddim ac yn cynnwys brecwast, byrbrydau iach a phrydau amser cinio. Mae’r ysgol yn cyflogi cogydd sy’n darparu bwydlen ddyddiol o fwyd iachus sy’n bodloni gofynion dietegol unigol pob disgybl.


Mae’r wisg ysgol yn ddewisol. Fodd bynnag, mae’n rhad ac am ddim i’r disgyblion sydd eisiau ei gwisgo. Mae hyn hefyd yn ymestyn i’r cit chwaraeon, cit arbenigol ar gyfer gweithgareddau awyr agored a dillad gwaith penodol ar gyfer profiad gwaith. Pan fydd angen dillad newydd ar ddisgybl, cânt eu darparu’n gyfrinachgar a chaiff anghenion unigol eu bodloni. Caiff y disgyblion eu hannog i ymfalchïo yn y ffordd maent yn edrych ac mae barbwr yr ysgol yn torri eu gwallt yn rhad ac am ddim.

Mae cysylltiadau rhwng y cartref a’r ysgol yn gryf ac yn gefnogol dros ben. Mae’r ysgol yn cynnal boreau coffi rheolaidd â rhieni i helpu i feithrin perthynas waith gadarnhaol. Mae’r cyfleoedd hyn yn datblygu dealltwriaeth rhieni a chefnogaeth ar gyfer anghenion cymdeithasol ac emosiynol plant yn fuddiol. Pan fydd rhiant yn ei chael hi’n anodd trefnu trafnidiaeth, mae’r ysgol yn ei darparu ar ei gyfer. Yn ystod y pandemig, defnyddiwyd arian a godwyd a rhoddion bwyd a ddarparwyd gan siopau lleol i ddarparu parseli bwyd i deuluoedd mewn angen yng nghymuned yr ysgol. Mae’r arfer lwyddiannus hon yn parhau ar gyfer y teuluoedd hynny sydd mewn angen. Mae’r awdurdod lleol hefyd wedi darparu gliniadur i bob disgybl i gefnogi dysgu.
 

Ymweliadau a phrofiadau addysgol

Mae ‘ymweliadau lles’ bob wythnos i leoedd amrywiol o harddwch naturiol neu ddiddordeb diwylliannol. Ffocws yr ymweliadau hyn yw datblygu perthnasoedd cadarnhaol a medrau cyfathrebu cymdeithasol priodol. Er enghraifft, aethpwyd â disgyblion nad oeddent erioed wedi teithio ar awyren nac wedi aros mewn gwesty i Gaeredin am ymweliad deuddydd fel gweithgaredd pontio o gyfnod allweddol 4 i gyfnod allweddol 5. Ariannwyd hyn yn llawn gan yr ysgol. 

Mae addysg awyr agored yn rhan hanfodol o waith yr ysgol. Mae’r cwricwlwm yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion ddysgu a mwynhau amgylchedd naturiol Cymru trwy raglen COED (Datblygiad Addysg Awyr Agored Creadigol neu Creative Outdoor Education Development) yr ysgol. Mae pob plentyn yn cael profiad o’r cwricwlwm llawn trwy ymweliadau, gweithgareddau a phrofiadau ledled Cymru. Mae ymweliadau preswyl yn cynnwys alldeithiau i Barc Cenedlaethol Eryri, Bannau Brycheiniog, canŵio ar afon Gwy, datblygu medrau gwersylla yn Henffordd, pysgota yn Ninbych-y-pysgod, gweithgareddau yn Storey Arms fel ogofa, padlfyrddio, cyfeiriannu, rafftio dŵr gwyn a syrffio. Mae pob un o’r disgyblion yn cael cyfle i fynychu un o’r ymweliadau preswyl sy’n cael eu hariannu’n llawn gan yr ysgol. Mae’r ysgol hefyd yn cynnig cyfle i ddisgyblion astudiaeth cerddoriaeth, coginio prydau bwyd i’r teuluoedd ac astudio cyrsiau galwedigaethol heb unrhyw gost i’r disgyblion.

Adeg y Nadolig, gall pob disgybl ddewis anrheg i fynd adref iddyn nhw’u hunain ac mae’r ysgol yn trefnu raffl lle mae’r holl ddisgyblion yn dewis rhoddion ar gyfer brodyr a chwiorydd neu aelodau eraill o’r teulu. Mae’r ysgol hefyd yn trefnu helfa wyau Pasg adeg y Pasg.


Mae datblygu medrau cymdeithasol yn rhan bwysig o’r gwaith yn Greenhill ac eir â disgyblion i fwytai fel rhan o’r gwaith hwn. Un o nodau eraill yr ysgol yw i bob disgybl gael profiad o’r celfyddydau a theatr – er enghraifft, mae disgyblion wedi mynychu perfformiadau o Matilda a Bugsy Malone yng Nghanolfan y Mileniwm. Caiff yr holl weithgareddau hyn eu hariannu gan yr ysgol.

Cymwysterau a medrau bywyd

Mae’r ysgol yn sicrhau bod pob un o’r disgyblion yn cael ystod o brofiadau cadarnhaol i helpu i ddatblygu hunanhyder, sy’n eu paratoi’n dda ar gyfer y camau nesaf yn eu bywydau. Caiff disgyblion eu haddysgu i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, gyda staff yn mynd gyda disgyblion ar deithiau y bydd yn ofynnol iddynt eu gwneud fel rhan o fywyd bob dydd. Caiff cost y drafnidiaeth hon i staff a disgyblion ei hariannu gan yr ysgol. Mae disgyblion hŷn yn gwneud cais am drwyddedau gyrru dros dro, yn cael eu hyfforddi ar gyfer profion theori gyrru ac yn cael profiadau gyrru heb unrhyw gost i’r teuluoedd.

Mae disgyblion yn ennill cymwysterau mewn dringo a gyrru beiciau modur, yn ogystal â chymwysterau mwy traddodiadol fel medrau coginio’r cartref, medrau sy’n canolbwyntio ar waith fel tystysgrif mewn hyfforddiant Barista, medrau adeiladu a phrofiad gwaith ag Is-adran Parciau’r Awdurdod Lleol mewn cynllunio gerddi. Mae disgyblion hefyd yn cael cyfle i ennill gwobr efydd ac arian Dug Caeredin. Caiff disgyblion eu hannog yn weithredol i ddod o hyd i leoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth ar ôl cyfnod allweddol 5 a chânt gymorth ychwanegol â’u dewisiadau gyrfa neu addysg uwch. Caiff disgyblion sy’n dewis peidio ag aros yn narpariaeth cyfnod allweddol 5 yr ysgol eu hebrwng i amrywiaeth o leoedd hyfforddiant neu gyflogaeth nes byddant yn teimlo’n hyderus am eu penderfyniad.
 

 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Bu effaith yr ymagwedd hon tuag at ariannu yn sylweddol. Caiff lles yn yr ysgol ei fonitro’n ofalus ac mae data’n dangos bod rhwystrau bron pob un o’r disgyblion rhag dysgu wedi lleihau a bod eu medrau rhag gymdeithasol wedi cynyddu. Bu lleihad yn nifer y digwyddiadau negyddol ar draws yr ysgol dros y tair blynedd diwethaf ac mae gwaharddiadau wedi lleihau’n sylweddol.

Oherwydd y perthnasoedd gwell a’r ymddiriedaeth a ddatblygwyd trwy’r profiadau niferus a ddarperir gan yr ysgol, mae bron pob un o’r disgyblion yn dangos mwy o ffocws ar eu dysgu yn y dosbarth ac mae eu sgorau darllen a rhifedd wedi cynyddu. Maent hefyd yn dangos agweddau gwell at ddysgu. Mae disgyblion hefyd yn dangos gallu cynyddol i reoli eu hemosiynau o ganlyniad i’r ffaith yr ymddiriedir ynddynt wrth gymryd rhan mewn campau eithafol a gweithgareddau. Mae disgyblion hŷn yn cynnig cymorth ac yn eistedd â disgyblion iau sydd wedi methu rheoli eu hemosiynau ac yn rhannu strategaethau maent yn eu defnyddio i’w rheoli.

Mae amgylchedd digynnwrf yn yr ysgol ac mae ymddygiad yn ystod amseroedd egwyl a chinio wedi gwella’n sylweddol. Mae perthnasoedd cadarnhaol rhwng staff a disgyblion a pharodrwydd i rannu teimladau. Mae hyfforddiant staff mewn arfer sy’n ystyriol o drawma wedi cefnogi newid diwylliant cadarnhaol ac ethos gwell yn yr ysgol. Mae trin cadarnhaol wedi lleihau dros y tair blynedd diwethaf.
 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae gan yr ysgol ‘Statws Blaenllaw’ ar gyfer y Marc Ansawdd Cynhwysiant ac mae wedi rhannu ei harfer trwy gyfarfodydd Teams rheolaidd â llawer o ysgolion sy’n perthyn i’r rhwydwaith cenedlaethol hwn. Mae gan yr ysgol bolisi drws agored ac mae’n croesawu ymweliadau gan sefydliadau addysgol eraill ac mae ysgolion arbennig ac UCDau eraill yng Nghaerdydd a’r Fro wedi ymweld â hi. Gwahoddwyd yr ysgol i gynhadledd genedlaethol TIS Wales hefyd i rannu ei harfer â chynulleidfa eang ac fe’i cynhwyswyd fel astudiaeth achos ar gyfer arfer sy’n ystyriol o drawma â disgyblion yng nghyfnod allweddol 5. Yn fwy diweddar, gwahoddwyd yr ysgol i rannu ei thaith er wefan TIS UK.
 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol