Mae Ysgol Gyfun Mynwy (MCS) yn ysgol cyfrwng Saesneg 11-18 oed a gynhelir gan Awdurdod Lleol Sir Fynwy. Mae’n gwasanaethu tref Mynwy ac ardaloedd gwledig Cross Ash, Llandogo, Rhaglan, Trellech ac Wysg, gydag oddeutu 27% o’r myfyrwyr yn teithio o siroedd y ffin, sef Swydd Gaerloyw a Swydd Henffordd. Mae 1,693 o ddisgyblion ar y gofrestr, y mae 316 ohonynt yn y chweched dosbarth. Mae tua 15% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Saesneg yw iaith gyntaf bron bob un o’r disgyblion ac maent yn dod o gefndir gwyn, Prydeinig. Ychydig bach iawn o ddisgyblion sy’n rhugl yn y Gymraeg.
Mae canran y disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, y mae angen o leiaf addasiadau rhesymol arnynt, yn rhyw 19% o boblogaeth gyfan yr ysgol, gan gynnwys y ganolfan adnoddau arbenigol (y Ganolfan). Cyfran y disgyblion sydd â chynllun anghenion dysgu ychwanegol statudol (Datganiad / EHCP / Cynllun Dysgu Unigol (CDU)) yw 3.9% (gan gynnwys y Ganolfan).
Mae’r uwch dîm arwain yn cynnwys y pennaeth, dirprwy bennaeth a 5 pennaeth cynorthwyol.
Mae 48 o ddisgyblion o flynyddoedd 7 i 13 wedi’u gosod yn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol. Mae’r Ganolfan yn ddarpariaeth dysgu ychwanegol yr awdurdod lleol sy’n darparu ar gyfer disgyblion â Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistig, anawsterau iaith, lleferydd a chyfathrebu, anawsterau dysgu difrifol ac anawsterau corfforol a meddygol. Mae’r Ganolfan wedi'i hintegreiddio’n llawn yng nghymuned yr ysgol, o ran ei hamgylchedd a’i strwythur staffio.
Mae’r Ganolfan yn darparu profiad addysgol cynhwysol i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol cymhleth yn eu cymuned leol, gan roi cyfleoedd i ddysgu gyda’u cymheiriaid a chanddynt. Mae ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn sicrhau bod bron yr holl ddisgyblion a osodir yn y Ganolfan yn cael darpariaeth briodol, yn cyflawni’r tu hwnt i ddisgwyliadau rhagdybiedig ac yn symud ymlaen i leoliadau ôl-16/18 priodol.