Mae’r profiad dysgu yma yn y Nant yn dechrau ar fore dydd Llun wrth i ddysgwyr gyrraedd y safle. Cynhelir cyfarfod Croeso i egluro trefn yr wythnos. Rhan bwysig o’r Cyfarfod Croeso yw gosod disgwyliadau’r staff o’r dysgwyr. Rydym yn eu hannog i berchnogi’r safle fel man diogel i hawlio’r iaith gan wneud defnydd cynyddol ohoni wrthi i’r wythnos fynd yn ei blaen.
Mae pob aelod o staff Nant Gwrtheyrn yn siarad Cymraeg ac wedi eu hyfforddi ar sut i gefnogi dysgwyr. Maent yn ymwybodol o’r lefelau a phatrymau addas i’w defnyddio ac yn annog y dysgwyr i gyfathrebu yn Gymraeg ar bob cyfle. Mae hyn yn cynnwys staff Caffi Meinir, gofalwyr y safle, staff y dderbynfa, swyddogion llety ac uwch swyddogion. Maent yn modelu ymddygiad cadarn yn ieithyddol.
Yn y dosbarth mae’r dysgu yn canolbwyntio ar iaith darged sy’n annog defnydd iaith yn ystod wythnos yr ymweliad. Golyga hyn fod y dysgwyr wedi eu harfogi i ymdopi gyda’r sefyllfaoedd y maent yn debygol o’u profi. Mae hyn yn bwysig iawn o ran gosod y Gymraeg mewn cyd-destun, perchnogi’r iaith, codi hyder a chreu defnydd iaith.
Yn ogystal, mae tiwtoriaid profiadol yn darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith mewn ffordd gynnil a sensitif. Dyma gyfle pwysig i’r dysgwyr archwilio eu perthynas gyda’r iaith, cael y cyfle i drafod heriau personol a chefnogi ei gilydd o safbwynt yr heriau rheiny. Mae pob wythnos yn gorffen gyda sesiwn ‘Beth Nesa’ gyda’r dysgwyr yn derbyn gwybodaeth am bosibiliadau dysgu pellach, ond hefyd yn llunio cynllun gweithredu personol. Mae’r dysgwyr felly yn gadael y safle gyda’r bwriad o wneud defnydd ymarferol, cadarn a defnyddiol o’r Gymraeg. Mae cyfuno’r elfennau ymwybyddiaeth a chadernid yma yn arwain at newid ymddygiad ac yn y cyd-destun hwn, i gynyddu defnydd o’r Gymraeg.
Mae’r adnoddau ar safle’r Nant yn bwysig o ran y profiad trochi hefyd. Mae’r Capel, Y Syrjeri a’r Tŷ Cyfnod yn cynnwys arddangosfeydd treftadaeth i gyfoethogi profiad y dysgwyr. Maent yn rhannu gwybodaeth am hanes y safle a’r ardal ond hefyd am hanes y Gymraeg. Gwneir defnydd llawn o’r adnoddau hyn gan y tiwtoriaid drwy holiaduron, helfeydd trysor, cyfle i’r dysgwyr ymateb yn ysgrifenedig, cyflwyniadau ac ati.
Y tu hwnt i’r dysgu mwy ffurfiol, mae pob elfen o ddysgu anffurfiol wedi ei deilwra yn ofalus i sicrhau fod y dysgwyr yn parhau i gael eu trochi, nid yn unig yn yr iaith ond mewn negeseuon cadarnhaol am ddefnydd iaith. Enghraifft o hyn yw ymweld â Thafarn y Fic a chael clywed côr o fechgyn ifanc lleol yn ymarfer - profiad hollol Gymraeg a Chymreig.
Yn yr un modd, dewisir unigolion neu grwpiau sy’n darparu adloniant i’r dysgwyr yn ofalus. Y bwriad yw agor y drws i fyd a diwylliant y Gymraeg mewn amgylchedd ddiogel. Gall hyn olygu taith gerdded gydag unigolyn sydd wedi dysgu Cymraeg er mwyn casglu geirfa byd natur sydd wedi ei wreiddio yn ardal y Nant, gwrando ar unigolyn yn canu caneuon poblogaidd Cymraeg a chael y cyfle i gyd-ganu, neu gael sgwrs gan unigolion a fu’n rhan o sefydlu’r Nant er mwyn dysgu mwy am daith y Gymraeg.