Arfer Effeithiol |

Taith tuag at Gwricwlwm Gwrth-hiliol

Share this page

Yn ei hadroddiad i Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2021, amlygodd yr Athro Charlotte Williams yr angen i ysgolion ymgysylltu â modelau arfer wrth-hiliol. Mae hyn wedi ffurfio rhan o Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, i gyflawni Cymru wrth-hiliol erbyn 2030. Yn unol â’r cynllun hwn, mae Ysgol Gynradd Parc Jiwbilî wedi arloesi ymagwedd ysgol gyfan tuag at fynd i’r afael â hiliaeth.

Dechreuodd taith yr ysgol i ddod yn ysgol wrth-hiliol trwy i aelodau staff unigol fyfyrio ar eu profiadau personol, gan nodi eu rhagfarn ddiarwybod ac ymwybodol a rhannu eu mewnwelediadau â chydweithwyr. Helpodd darllen am y pwnc hwn i’r staff ddeall prosesau a damcaniaethau rhagfarn a gwahaniaethu yn well.

Wrth ddatblygu cynnwys a chyflwyno’r cwricwlwm, mae athrawon bellach yn ystyried yn ofalus a ydynt yn cyflwyno safbwynt ystrydebol o draddodiadau diwylliannol ethnig a chenedlaethol. Mae hyn yn helpu i greu darlun dilys o bobl fel y maent mewn gwirionedd ac yn osgoi atgyfnerthu neu greu rhagfarn hiliol.

Cyd-destun

Mae cymuned yr ysgol wedi tyfu’n gyflym ers iddi agor ym mis Medi 2017, gan gynyddu o 116 o ddisgyblion ac 16 o staff i 374 o ddisgyblion a thros 50 o staff.

Yn yr ysgol, mae 78% o’r disgyblion yn wyn Prydeinig. Mae 25 categori ethnig yn cael eu cynrychioli yng nghymuned yr ysgol. Mae 80 o ddisgyblion nad ydynt yn wyn Prydeinig, sy’n gyfwerth â bron i dri dosbarth. Mae 28 o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Mae’r staff yn Ysgol Gynradd Parc Jiwbilî yn wyn Prydeinig yn bennaf.

Darparwyd y deunydd ysgrifenedig a’r fideo gan yr ysgol.

Taith tuag at Gwricwlwm Gwrth-hilio

Taith tuag at Gwricwlwm Gwrth-hilio

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol