Arfer Effeithiol |

Rhagweld datblygiadau’r farchnad lafur a diwallu anghenion gweithlu prosiectau rhanbarthol

Share this page

Nifer y disgyblion
2800

Gwybodaeth am y lleoliad

Sefydlwyd Academi Sgiliau Cymru yn bartneriaeth dysgu yn y gwaith yn 2009. Caiff ei harwain gan Grŵp Colegau NPTC, ac mae pum partner sy’n is-gontractwyr yn gweithio gyda naw sefydliad ychwanegol sy’n is-gontractwyr i ddarparu ar gyfer tua 2,800 o ddysgwyr prentisiaeth yng Nghymru. Mae’r bartneriaeth yn gweithredu ledled de ddwyrain, de orllewin a Chanolbarth Cymru ac mae ganddi ddarpariaeth fach yng ngogledd Cymru. Mae’n gweithio mewn partneriaeth â mwy na 1,000 o gyflogwyr, gan gynnwys cwmnïau angor, cwmnïau rhyngwladol, busnesau bach a chanolig a microfusnesau. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Mae gan Fwrdd Gweithredol Academi Sgiliau Cymru weledigaeth glir ar gyfer y bartneriaeth ac mae’n gosod y cyfeiriad strategol ar gyfer ei darpariaeth dysgu yn y gwaith, gan roi ystyriaeth dda i flaenoriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae wedi bod yn hynod effeithiol yn meithrin ac yn symud capasiti o fewn y bartneriaeth i gychwyn ac ymateb i anghenion hyfforddi busnesau nawr ac yn y dyfodol o fewn yr ardal ddaearyddol fawr y mae’n ei gwasanaethu. 

Mae uwch arweinwyr o fewn Academi Sgiliau Cymru yn ymgymryd yn rheolaidd â phrosiectau ag iddynt bwysigrwydd rhanbarthol, gan gynnwys y rhai o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Twf Canolbarth Cymru a Bargeinion Dinesig Bae Abertawe, gan gyfrannu at gynlluniau yn ymwneud â gofynion datblygu’r gweithlu nawr ac yn y dyfodol. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Un o nodweddion cryf iawn Academi Sgiliau Cymru yw ei hymgysylltiad rhagweithiol â phrosiectau rhanbarthol i ragweld a chefnogi datblygiad ac adfywiad. Mae’n defnyddio deallusrwydd y farchnad lafur yn dda i gynllunio a ffurfio’i darpariaeth i ddiwallu anghenion busnesau lleol o ran gweithlu, a datblygiadau arfaethedig. Mae’r bartneriaeth yn gweithio’n effeithiol iawn gydag amrywiaeth eang o gyflogwyr. Mae’n llwyddo i sefydlu a chynnal perthnasoedd â chwmnïau angor a busnesau mawr, gan hefyd ddarparu ar gyfer anghenion y nifer sylweddol o fusnesau bach a chanolig a micro sefydliadau sy’n un o nodweddion craidd economi Cymru. Mae’r ymgysylltu rhagweithiol hwn yn helpu lliniaru’r pwysau sylweddol ar y gweithlu sydd wedi bod yn cronni ar draws sawl sector allweddol, fel gofal cymdeithasol, gofal plant, adeiladu, peirianneg, logisteg a rheilffyrdd. 

Mae Academi Sgiliau Cymru yn rhoi ystyriaeth dda iawn i flaenoriaethau economaidd a chymdeithasol ac wedi sefydlu perthnasoedd cydweithredol effeithiol â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys fforymau lleol a rhanbarthol, i nodi ac ymateb i anghenion medrau nawr ac yn y dyfodol. Er enghraifft, trefnodd darparwr arweiniol y bartneriaeth, sef Grŵp Colegau NPTC, gyfarfod gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i drafod eu hymagwedd strategol at ddatblygu’r gweithlu ac archwilio sut gallai’r bartneriaeth helpu eu cynorthwyo i fynd i’r afael â phrinderau o ran medrau. O ganlyniad, cytunwyd y byddai academi prentisiaethau yn cael ei sefydlu i hyrwyddo a hwyluso darpariaeth prentisiaethau ar draws y bwrdd iechyd. Ei nod fyddai recriwtio, hyfforddi ac uwchsgilio staff newydd neu staff presennol mewn rolau clinigol ac anghlinigol. Darparodd Grŵp Colegau NPTC arbenigedd a buddsoddiad ariannol i gefnogi sefydlu’r academi prentisiaethau. Ers ei sefydlu, mae’r academi wedi hyfforddi dros 500 o brentisiaid y GIG, gan wneud cyfraniad allweddol at ymateb y bwrdd iechyd i’w hanghenion brys o ran recriwtio a hyfforddi. Ers hynny, mae’r model arloesol hwn wedi cael ei gopïo gan fyrddau iechyd eraill ledled Cymru. 

Mae partneriaid sefydlu eraill Academi Sgiliau Cymru hefyd yn gweithio’n rhagweithiol yn y modd hwn. Ymgysylltodd Coleg y Cymoedd â Trafnidiaeth Cymru i adolygu eu hanghenion datblygu’r gweithlu ac archwilio sut gallai darpariaeth partneriaethau nawr ac yn y dyfodol gefnogi eu heriau recriwtio a’u twf sefydliadol. Arweiniodd y trafodaethau cychwynnol hyn at ffurfio gweithgor a chynllun datblygu i fynd i’r afael ag anghenion Trafnidiaeth Cymru o ran recriwtio a datblygu’r gweithlu. Ar ôl hynny, cymerodd Coleg y Cymoedd yr awenau o ran datblygu fframwaith prentisiaeth Gyrwyr Trên Lefel 3. Cyflawnwyd hyn mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys cynrychiolwyr, sefydliadau cyrff dyfarnu, undebau perthnasol a Llywodraeth Cymru. Sefydlwyd y rhaglen prentisiaethau yn llwyddiannus mewn cyfnod cymharol fyr, ac ers ei lansio yn 2019, mae wedi cyfrannu’n sylweddol tuag at ddiwallu’r angen am yrwyr trên cymwys trwy hyfforddi dros 300 o brentisiaid.   

Er mwyn ymateb ymhellach i anghenion gweithlu’r diwydiant rheilffyrdd, mae Coleg y Cymoedd wedi gweithio mewn cydweithrediad â Phrifysgol De Cymru i ddatblygu rhaglen prentisiaeth gradd Lefel 6 mewn peirianneg rheilffyrdd. Mae’r ddarpariaeth hon yn cyd-fynd yn agos â sefydlu’r Ganolfan Fyd-eang er Rhagoriaeth Rheilffyrdd a fydd wedi’i lleoli yng Nghwm Nedd.   

Mae’r model llwyddiannus hwn o gydweithio rhwng Academi Sgiliau Cymru a diwydiant, wedi cael ei ddefnyddio’n effeithiol hefyd i ymateb i’r anghenion recriwtio a medrau mewn meysydd blaenoriaeth allweddol eraill. Er enghraifft, sefydlwyd trefniadau strategol effeithiol gydag ystod eang o gyflogwyr o fewn y sector trafnidiaeth a logisteg, gan gynnwys Y Gymdeithas Cludo Llwythi, Y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd a’r Academi Logisteg Genedlaethol. Mae’r bartneriaeth yn defnyddio’r perthnasoedd hyn yn dda i lywio a chyflwyno hyfforddiant prentisiaethau ychwanegol i ymateb i’r prinder sylweddol o yrwyr cerbydau LGV sy’n parhau i effeithio ar y sector. 

At y dyfodol, mae’r darparwyr partner sy’n ffurfio Academi Sgiliau Cymru yn parhau i ymgysylltu’n effeithiol â rhanddeiliaid allweddol a phartneriaethau strategol i ragweld a mynd i’r afael ag anghenion datblygu’r gweithlu yn y dyfodol. Er enghraifft, mae un partner wrthi’n gweithio gyda Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’r colegau AB sydd wedi’u lleoli yn ne ddwyrain Cymru i gefnogi trawsnewidiad arfaethedig Gorsaf Bŵer Aberddawan. Y nod yw datblygu gweithlu sy’n gallu cynhyrchu atebion cynaliadwy ac ynni gwyrdd sy’n bwysig ac arloesol. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r arfer gydweithredol gref rhwng Academi Sgiliau Cymru a rhanddeiliaid allanol wedi arwain at ystod o ddarpariaeth prentisiaethau sydd mewn sefyllfa dda i ddiwallu anghenion dysgwyr, cyflogwyr penodol a’r farchnad lafur ehangach. Mae darparwyr o fewn y bartneriaeth wedi llwyddo i ymgymryd â gwaith, a’i ysgogi, i ddatblygu darpariaeth bwysig sy’n paratoi ac yn datblygu medrau dysgwyr i’w helpu i gynnal cyflogaeth a chyfrannu at dwf economaidd. Mae gwaith y darparwr wedi helpu cyflogeion presennol a dysgwyr prentisiaethau newydd i ddatblygu’n llwyddiannus y wybodaeth, y medrau a’r profiad y mae galw amdanynt ar hyn o bryd, a hefyd y rhai y rhagwelir y bydd galw amdanynt yn y dyfodol agos. Mae hyn yn helpu cefnogi economi Cymru yn unol ag uchelgais Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.  

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Caiff arfer dda ei rhannu’n rheolaidd o fewn partneriaeth Academi Sgiliau Cymru a’i dathlu mewn Nosweithiau Gwobrau a digwyddiadau rhwydweithio addysg a hyfforddiant eraill.  

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol