Arfer Effeithiol |

Prawfesur Polisïau ar Dlodi yn ystod y Diwrnod Ysgol

Share this page

Nifer y disgyblion
125
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Llwydcoed yn ysgol gynradd cyfrwng Saesneg wedi’i lleoli ym mhentref  Llwydcoed, ger Aberdâr, yn awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf. Mae gan yr ysgol 125 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed, wedi eu trefnu’n bum dosbarth oedran cymysg. Mae’r ysgol yn cynnig darpariaeth feithrin amser llawn o’r mis Medi ar ôl trydydd pen-blwydd y plentyn. Nodwyd bod gan ryw 3% o’r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol, ac mae bron pob un ohonynt yn defnyddio Saesneg fel eu hiaith gyntaf. Mae 29% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae’r ffigur hwn wedi cynyddu’n sylweddol ers y pandemig. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar les a chyllid teuluoedd yr ysgol. Bu cynnydd sydyn yn nifer y disgyblion yn yr ysgol sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. O’r herwydd, mae’r ysgol wedi gweithio gyda’r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant (CPAG) i geisio lleihau’r rhwystrau ariannol a oedd yn atal disgyblion rhag cymryd rhan yn llawn yn y diwrnod ysgol. Roedd yr ymagwedd ‘Cost y Diwrnod Ysgol’ yn cynnwys gweithio gyda chymuned yr ysgol gyfan, gan gynnwys disgyblion, rhieni, athrawon a staff yr ysgol, i werthuso ymagwedd yr ysgol at nodi a lleihau’r rhwystrau ariannol a oedd yn wynebu disgyblion o gefndiroedd incwm isel. Defnyddiodd yr ysgol y data o arolygon a chyfweliadau i bennu beth oedd yr ysgol yn ei wneud yn dda, a beth y gellid ei wella. Lluniodd adroddiad manwl yn amlinellu ymagwedd bresennol yr ysgol, a datblygodd gynllun gweithredu yn amlinellu ffyrdd ymlaen. Lluniodd yr ysgol astudiaeth achos, yn amlinellu’r camau yr oedd wedi’u cymryd, a’r gwelliannau a oedd wedi deillio o hynny. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Nododd yr ysgol ‘Ymarferwyr Cost y Diwrnod Ysgol’ penodol i arwain y gwaith ar leihau’r rhwystrau ariannol sy’n atal disgyblion o gefndiroedd incwm isel rhag ymgysylltu’n llawn â bywyd ysgol. Am dair wythnos yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd 2021, siaradodd yr ymarferwyr â disgyblion o Flynyddoedd 1 i 6, rhieni, aelodau staff a llywodraethwyr. Hefyd, casglon nhw farn trwy arolygon ar-lein. Trefnodd yr arweinydd iechyd a lles gyfweliadau a chynorthwyo yn y broses werthuso. Cyflwynodd yr ymarferwyr y data a ddadansoddwyd i staff yr ysgol trwy sesiwn adborth ac adroddiad ysgrifenedig terfynol. 

Ar ôl cyflwyno’r adroddiad a’r canfyddiadau i staff, cymerodd Bob un ohonynt ran mewn datblygu cynllun gweithredu. Canolbwyntiodd hyn ar y canlynol:

  • Cost tripiau ysgol. Roedd yr ysgol eisoes yn defnyddio’r Grant Datblygu Disgyblion (GDD) a chyllid y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon i roi cymorthdaliadau helaeth ar gyfer tripiau, gan felly leihau’r gost i deuluoedd targedig yn sylweddol. Fodd bynnag, amlygodd adroddiad yr ysgol fod llawer o rieni sydd â mwy nag un plentyn, neu’r rhai ar aelwydydd rhiant sengl, yn cael trafferthion talu am gostau gweithgareddau ychwanegol o hyd, yn enwedig tripiau ysgol. O ganlyniad, penderfynodd yr ysgol sicrhau bod mwy o rybudd yn cael ei roi i rieni am ymweliadau addysgol, a rhoddodd system cynlluniau talu hyblyg ar waith i alluogi rhieni i dalu am ymweliadau dros gyfnod.
  • Diwrnodau dim gwisg ysgol. Mae yna lawer o adegau lle rhoddwyd cyfle i’r plant wisgo i fyny neu beidio â gwisgo gwisg ysgol fel rhan o ddigwyddiadau arbennig neu ddiwrnodau elusennol. O ganlyniad i adroddiad yr ysgol, mabwysiadodd y staff ddulliau arloesol i ddathlu’r rhain, er enghraifft gwisgo pyjamas yn hytrach na gofyn i’r rhieni brynu gwisgoedd ar gyfer Diwrnod y Llyfr.
  • Gwisg ysgol. Mabwysiadodd yr ysgol ymagwedd sensitif a chynhwysol at wisg ysgol, gan gael gwared â’r pwysau i brynu gwisg ysgol â brand. Mae’r ysgol wedi prynu sied ac wedi’i gwneud yn ‘Siop Rannu’ yn llawn gwisgoedd, gwisg ysgol a siwmperi Nadolig wedi’u cyfrannu, y gall rhieni eu cymryd yn rhad ac am ddim.
  • Tripiau ysgol. Mae’r ysgol yn cyfyngu ar swm yr arian gwario y caniateir i blant fynd gyda nhw ar dripiau, fel nad yw rhieni o aelwydydd llai cefnog yn teimlo dan bwysau i roi gormod o arian i’w plentyn.
  • Digwyddiadau ysgol. Datgelodd arolwg yr ysgol fod cost ymgymryd â digwyddiadau, fel disgos a ffeiriau ysgol, yn aml yn rhoi baich ariannol afrealistig ar deuluoedd. Aeth yr ysgol i’r afael â hyn trwy drefnu tocynnau pris teulu ar gyfer disgos, er enghraifft, yn hytrach na phrisiau unigol fesul plentyn. Sicrhaodd hefyd fod cynifer o stondinau gweithgareddau am ddim â gweithgareddau y telir amdanynt mewn ffeiriau Nadolig a ffeiriau haf, fel bod pob plentyn yn gallu cymryd rhan. Yn ychwanegol, nid yw’r ysgol yn gofyn am arian parod mwyach; yn hytrach, mae’n anfon dolen yn uniongyrchol at rieni sy’n gallu dewis p’un a ydynt am gyfrannu ai peidio.
  • Adnoddau dysgu ar gyfer y cartref. Sefydlodd yr ysgol ‘orsafoedd creadigol’ yn llawn adnoddau y gall disgyblion fynd â nhw adref neu’u defnyddio yn ystod amser cinio ar gyfer cwblhau tasgau gwaith cartref.
  • Amser cinio. Amlygodd adborth yr adroddiad fod disgyblion yn cael eu gwahanu yn ystod amser cinio yn ôl p’un a oeddent yn cael cinio ysgol neu becyn bwyd. Roedd hyn yn golygu nad oedd ffrindiau’n gallu eistedd gyda’i gilydd os oeddent yn cael math gwahanol o bryd bwyd. O ganlyniad, roedd plant sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim weithiau’n gofyn i’w rhieni a allent newid i gael pecyn bwyd er mwyn eistedd gyda’u ffrindiau. Newidiodd yr ysgol y trefniadau hyn i ganiatáu i’r disgyblion eistedd yn unrhyw le.

Ym mis Mehefin 2022, ymwelodd ymchwilydd o Brifysgol Newcastle â’r ysgol fel rhan o werthusiad o brosiect ‘Cost y Diwrnod Ysgol’. Nod yr ymweliad hwn oedd dilyn trywydd yr archwiliad a oedd wedi cael ei gynnal saith mis ynghynt ac archwilio pa effaith, os o gwbl, a gafodd y cyfranogiad ar y disgyblion, y rhieni a’r staff. Daeth yr archwiliad i’r casgliad fod prosiect ‘Cost y Diwrnod Ysgol’ wedi cael effaith hynod gadarnhaol ar gynyddu ymgysylltiad disgyblion o deuluoedd ag incymau isel. 
 

What impact has this work had on provision and learners’ standardsPa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

  • Mae perthnasoedd cryfach wedi cael eu meithrin rhwng teuluoedd a’r ysgol, yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch ar y ddwy ochr.
  • Mae strategaeth ysgol gyfan ar waith i ddileu cost guddiedig y diwrnod ysgol.
  • Mae goresgyn tlodi wedi rhoi’r gallu i bob plentyn o aelwyd incwm isel wneud y gorau o’r diwrnod ysgol.
  • Bu ymgysylltiad cynyddol â dysgu, gan felly gynyddu safonau cyffredinol ar gyfer disgyblion o aelwydydd incwm is.
     

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

  • Rhannwyd yr arfer â’r corff llywodraethol trwy gyflwyniadau disgyblion a staff. 
  • Mae’r ysgol wedi rhannu’r model a’r strategaeth gyda chonsortia rhanbarthol a’r awdurdod lleol. 
  • Mae’r model wedi cael ei rannu mewn sesiynau dysgu proffesiynol gydag ysgolion y clwstwr.
     

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol