Arfer Effeithiol |

Interniaethau a phrofiad gwaith a gefnogir, sy’n arwain at gyflogaeth â thâl ar gyfer pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau.

Share this page

Nifer y disgyblion
7000
Ystod oedran
16+
Dyddiad arolygiad

 

Mae dysgwyr yn elwa o raglen interniaeth gynhwysol, gyda chefnogaeth, trwy leihau rhwystrau a datblygu’u medrau a’u hyder i’w helpu i gael gwaith ystyrlon â thâl.

Gwybodaeth am y coleg

Mae Coleg Pen-y-bont yn goleg addysg bellach sydd â thua 7,000 o ddysgwyr wedi cofrestru. 

Mae’r coleg yn cynnig cyfleoedd dilyniant i’r lefel nesaf mewn llawer o gyrsiau. Mae ganddo ryw 1,864 o ddysgwyr amser llawn, a 652 o ddysgwyr rhan-amser, yn ogystal â 545 o ddysgwyr sy’n mynychu gyda’r nos neu ar adegau eraill. Mae’r coleg yn cyflogi tua 800 o staff ac yn gweithredu ar draws pedwar campws, gyda dau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Pen-coed a Maesteg. Mae hefyd yn gweithredu cyfleuster preswyl ar gyfer dysgwyr ag anableddau ac anawsterau dysgu difrifol, sef Weston House, sydd wedi’i leoli ar dir ei gampws ym Mhen-y-bont ar Ogwr. 

Ar draws y coleg, nodwyd bod 6.4% o ddysgwyr amser llawn yn meddu ar fedrau Cymraeg rhugl. Daw tua hanner dysgwyr y coleg o Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n ymestyn 20km yn fras o’r gorllewin i’r dwyrain, yn cynnwys cymoedd Llynfi, Garw ac Ogwr. Amcangyfrifir mai cyfanswm poblogaeth y sir yw tua 135,000. Mae’r coleg wedi’i leoli’n ganolog rhwng Abertawe a Chaerdydd. Mae’r coleg yn gwasanaethu rhanbarth sydd â llecynnau o amddifadedd cymdeithasol uchel gyda chyfraddau anweithgarwch economaidd uwchlaw cyfartaledd Cymru. 

Mae tua 148,000 o bobl yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn ôl data sydd ar gael, tyfodd poblogaeth Pen-y-bont ar Ogwr 8% rhwng cyfrifiadau 2001 a 2011. O’r boblogaeth bresennol, mae tua 26,000 (18%) o dan 16 oed, a thua 30,000 (20%) yn 65 oed ac yn hŷn. 

Ym mis Medi 2021, y gyfradd cyflogaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr oedd 72.9%, sydd ychydig yn is na ffigur Cymru, sef 73.1%. Yn 2021, yr enillion wythnosol cyfartalog gros (canolrif) ym Mhen-y-bont ar Ogwr oedd £608. Hon oedd y gyfradd uchaf ymhlith y 22 awdurdod lleol. Mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019 yn dangos bod 40% o ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr o fewn y 30% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. 

Mae bron holl drigolion Pen-y-bont ar Ogwr o gefndir ethnig gwyn. Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn 2021 yn dangos mai canran y bobl sy’n dair oed ac yn hŷn sy’n siarad Cymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr yw 17%, sef cynnydd o 3 phwynt canran mewn 10 mlynedd. 
 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae gan y coleg strategaeth uchelgeisiol ar gyfer trawsnewid ADY, sy’n cyd-fynd â’r blaenoriaethau a’r agenda a amlinellir gan Lywodraeth Cymru, ar ôl cyflwyno Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) a’r Cod Ymarfer ADY yn 2018.

Mae’r coleg wedi parhau i ymateb i anghenion esblygol dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, gan greu amgylchedd cynhwysol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn ffocysu ar ddatblygiad personol, annibyniaeth a chynnydd.

Er y cydnabyddir na fydd pob un o’r dysgwyr yn mynd ymlaen i gyflogaeth â thâl, rhaid mai ein dyhead yw cefnogi ac ymestyn yn briodol ddatblygiad yr holl fedrau byw a bywyd craidd, gan adeiladu ar lwybr personoledig ar gyfer pob dysgwr.

I’r perwyl hwnnw, mae’r coleg wedi datblygu nifer o lwybrau i gynorthwyo dysgwyr o fewn y maes cwricwlwm medrau byw yn annibynnol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Yn 2019, lansiodd y coleg raglen interniaeth a gefnogir, sef cyfle gwaith estynedig ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, a fyddai, gyda’r gefnogaeth gywir, yn gallu sicrhau cyflogaeth â thâl fel canlyniad tymor canolig i’r tymor hir.

Gweithiodd y coleg gyda busnes lleol mawr, asiantaeth gyflogaeth a gefnogir a phartneriaid eraill i lansio’r rhaglen interniaeth a gefnogir. Mae dysgwyr yn ymgymryd â phroffilio swyddi i nodi eu diddordebau a’u meysydd cryfder cyn ymgymryd â thri chylchdro interniaeth ar draws y flwyddyn academaidd. Mae pob intern yn mynychu’r gweithle o ddydd Llun i ddydd Gwener, gyda thiwtor coleg a hyfforddwr swyddi wedi’i leoli ar y safle yn y busnes lletyol bob amser, gydag ystafell ddosbarth ar gael ar safle’r cyflogwr.

Caiff interniaid ac adrannau ar draws y busnes lletyol eu cefnogi gyda chymorth gan diwtor y coleg a hyfforddwr swyddi hyfforddedig, gan sicrhau bod pob lleoliad yn cael y cyfle gorau i fod yn effeithiol a llwyddiannus, heb greu baich gwaith ychwanegol i staff yn y busnes lletyol. Caiff interniaid eu cynorthwyo ymhellach i ddatblygu’r medrau a’r hyder sydd eu hangen i deithio i’r gwaith ac oddi yno, trwy hyfforddiant teithio’n annibynnol – mae hon yn elfen allweddol o lwyddiant y rhaglen.

Mae’r interniaeth yn gwasanaethu fel cyfweliad blwyddyn, lle mae interniaid yn datblygu, yn dangos ac yn cymhwyso eu medrau a’u dysgu o fewn gwahanol gyd-destunau, gan ddarparu ystod eang o brofiad i fyfyrio arno yn y broses recriwtio. Hefyd, mae interniaid yn cwblhau’r cyfnod sefydlu llawn yn eu cyflogwyr lletyol, sy’n golygu eu bod mewn sefyllfa dda i wneud cais am gyfleoedd swydd o fewn y busnes lletyol neu’r farchnad swyddi. Ers lansio’r rhaglen yn 2019, mae’r coleg bellach yn cynnal dwy raglen interniaeth a gefnogir ar wahân. 

Nododd y coleg nad oedd dysgwyr yn y maes cwricwlwm medrau byw yn annibynnol bob amser yn barod i symud ymlaen i raglen gyflogaeth lawn oddi ar y campws, a bod angen mwy o gyfle arnynt i ddatblygu eu hyder, eu medrau cyfathrebu a’u medrau craidd ehangach cyn symud ymlaen i’r rhaglen interniaeth a gefnogir.

Yn 2021, lansiodd y coleg siop goffi weithredol ar y campws, sy’n cael ei staffio a’i reoli’n llawn gan ddysgwyr medrau byw yn annibynnol. Mae’r siop goffi ar agor i’r cyhoedd a staff y coleg o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac yn darparu profiad diogel a chefnogol ar y campws ar gyfer dysgwyr. Mae model cyffredinol y siop goffi wedi alinio â’r rhaglen interniaeth a gefnogir, gyda thiwtor a hyfforddwr swyddi wedi eu dynodi i’r rhaglen. Mae dysgwyr ar y rhaglen yn cwblhau cymwysterau a hyfforddiant perthnasol, gan gynnwys eu tystysgrif hylendid bwyd a hyfforddiant Barista. Mae’r rhaglen yn gwasanaethu fel platfform i ddysgwyr symud ymlaen yn llawn i’r rhaglen interniaeth a gefnogir yn y flwyddyn academaidd ddilynol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol wedi gwella llwybrau cynhwysol i gefnogi eu deilliannau tymor hir, gan helpu lleihau a dileu rhwystrau rhag datblygu’r medrau a’r hyder sydd eu hangen i gael cyflogaeth ystyrlon â thâl.

Mae ymagwedd raddedig tuag at annibyniaeth a chyflogadwyedd yn galluogi dysgwyr o’r maes cwricwlwm medrau byw yn annibynnol i ddilyn cymwysterau achrededig a heb eu hachredu, gan gefnogi eu datblygiad cyfannol a’r cymorth personoledig sydd ar gael iddynt ymhellach. Yn bwysig, mae’r rhaglenni hyn hefyd yn gyfrwng pontio pwysig o’r coleg i addysg ar gyfer pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

Ar draws cyfnod o dair blynedd o gynnal y rhaglen interniaeth a gefnogir, sicrhaodd mwy na 70% o ddysgwyr gyflogaeth â thâl ar ddiwedd eu hinterniaeth.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae arfer wedi cael ei lledaenu trwy wahoddiadau i gyflwyno mewn cynadleddau cenedlaethol, yn ogystal â chefnogi a dysgu ffrydiau gwaith ar gyfer Llywodraeth Cymru ar y llwybr hwn o ddarpariaeth medrau byw yn annibynnol yng Nghymru.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Arfer Effeithiol |

Prentisiaid Iau yng Ngholeg Pen-y-bont

Adroddiad thematig |

Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles emosiynol dysgwyr

Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles emosiynol dysgwyr - Gwaith darparwyr addysg bellach, dysgu yn y gwaith a dysgu oedolion yn y gymuned yn ystod y pandemig COVID-19 ...Read more
Adroddiad thematig |

Partneriaethau ôl-16 - Cynllunio a darpariaeth ar y cyd rhwng ysgolion, a rhwng ysgolion a cholegau

Mae'r adroddiad hwn yn adrodd ar gynllunio a gwaith partneriaeth strategol ar gyfer addysg dysgwyr rhwng 16 ac 19 mlwydd oed mewn chweched dosbarth ysgolion a cholegau addysg bellach. ...Read more
Arfer Effeithiol |

Gwella deilliannau dysgu trwy arweinyddiaeth ysbrydoledig

Yng Ngholeg Penybont, mae arweinyddiaeth ysbrydoledig wedi cael effaith gadarnhaol ar bob rhan o’r coleg. ...Read more
Arfer Effeithiol |

Dull cyfannol o gefnogi dysgwyr coleg

Yng Ngholeg Penybont, mae swyddogion lles, anogwyr dysgu ac anogwyr medrau yn cefnogi myfyrwyr yn gyfannol ym mhob agwedd ar eu bywyd yn y coleg. ...Read more