Er mwyn i bolisi iaith yr Awdurdod fod yn gynhwysol, darperir gwasanaeth arbenigol o fewn y sir, sef Y Gyfundrefn Addysg Drochi. Ers ei sefydlu ar ei newydd wedd ym mis Ionawr 2023 ceir chwe lleoliad strategol ar draws y sir sy’n darparu gwasanaeth i hwyrddyfodiaid i gaffael y Gymraeg.
Er mwyn sicrhau cyfleoedd modern a chyfoes i’r dysgwyr ymarfer geirfa a phatrymau iaith yn y canolfannau trochi mae staff y Gyfundrefn Addysg Drochi wedi cydweithio gydag unigolion a chwmni allanol i greu pentref rhithwir arloesol. Mae’r prosiect hwn wedi ei ddatblygu gydag arian grant refeniw Llywodraeth Cymru. Mae’r cynllun newydd hwn yn seiliedig ar bentref dychmygol o’r enw Aberwla ac mae’n ymgorffori patrymau iaith penodol o fewn y continwwm iaith yng Nghwricwlwm i Gymru. Mae’n gynllun perthnasol i’r unfed ganrif ar hugain ac yn adlewyrchu’r Gymru gyfoes. Dyma brosiect sy’n galluogi hwyrddyfodiaid i gamu i Aberwla ar blatfform rhithwir i ymarfer patrymau iaith mewn amrywiol leoliadau yn y pentref. Ar y platfform digidol hwn caiff y dysgwyr gyfle i chwarae gemau gyda’i gilydd, e.e. wrth lenwi eu basged yn yr archfarchnad neu trwy ddarllen cyfarwyddiadau a dilyn rhestr siopa. Cânt hefyd gyfarfod cymeriadau a chreaduriaid gwahanol i’r arfer ar Fferm Tyddyn Swnllyd ac aros am noson neu ddwy yn y Cae Glampio. Yn ogystal cânt dreulio amser yn y ganolfan hamdden, yr amgueddfa neu helpu Ceri’r mecanic yn y Garej. Hefyd mae’n bosib benthyg drôn o’r siop gajets i hedfan uwchben y pentref i ymarfer patrymau gorchmynnol a chyfeiriadau, e.e. de a chwith, ymlaen ac yn ôl.
Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i Wynedd rannu’r adnodd hwn yn genedlaethol ac wedi rhyddhau cyllid i hwyluso hyn. Mae’r awdurdod yn falch o’r cyfle i’w rannu er budd dysgwyr a chefnogi nod y Llywodraeth yn Cymraeg 2050 ar hyd a lled Cymru. Mae croeso i bob awdurdod yng Nghymru i ddefnyddio’r adnodd hwn trwy gysylltu â [email protected]
Mae adnoddau amlgyfrwng i atgyfnerthu patrymau iaith a geirfa yn werthfawr, yn enwedig adnoddau digidol rhithwir sy’n apelio i blant a phobl ifanc. Mae’r adnodd hwn yn gyfrwng i atgyfnerthu’r medrau angenrheidiol i alluogi dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd destunau ffurfiol ac anffurfiol.
Yr hyn sy’n dod yn amlwg yw’r diddordeb sydd gan y dysgwyr yn yr adnodd. Mae’n apelio’n fawr at hwyrddyfodiaid o’r cynradd i’r uwchradd. Mae’r elfen rithwir yn fodd i alluogi’r dysgwyr i ymgolli yn y gweithgaredd ac wrth gamu ar y platfform maent yn hapus i roi cynnig arni i gyfathrebu trwy’r Gymraeg. Mae’r elfen o hwyl a’r pleser sydd ynghlwm â’r adnodd yn sicr yn dylanwadu’n gadarnhaol ar eu datblygiad ac yn gyfrwng i normaleiddio’r Gymraeg a’i gwneud yn gyfoes yn y maes rhithwir a digidol.
Adnodd blaengar arall gwerth ei rannu yn genedlaethol yng nghyd destun addysg Gymraeg yw’r podlediad ‘Am filiwn’, sydd yn trin a thrafod agweddau ar fyd athro sy’n arwain at gynyddu a datblygu disgyblion i fod yn siaradwyr Cymraeg ac anelu at greu miliwn o siaradwyr. Mae’r podlediad hwn yn mynd o dan groen addysg drochi a’r hyn sydd yn digwydd yn y canolfannau iaith o fewn y Gyfundrefn Addysg Drochi. Yn y podlediad mae rhai o’r dysgwyr a’u rhieni yn rhannu eu profiadau wrth iddynt fynychu’r unedau trochi iaith yng Ngwynedd i ddysgu Cymraeg. Yn ogystal mae athro profiadol yn sgwrsio am y prif egwyddorion trochi sydd wedi profi’n llwyddiannus o fewn Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd. Dyma adnodd gwerthfawr i fyfyrwyr sy’n dilyn cwrs hyfforddi athrawon, i athrawon newydd gymhwyso neu i athrawon ar ddechrau eu gyrfa i godi ymwybyddiaeth ac i ddysgu am egwyddorion a strategaethau trochi effeithiol. Datblygwyd y Podlediad Am Filiwn (ypod.cymru) mewn cyfres o bodlediadau ar gyfer AGA, Prifysgol Bangor mewn cydweithrediad gyda sefydliadau Addysg Gychwynnol Athrawon Cymru trwy nawdd Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.