Cafodd lefel y cydweithio a’r cyfrifoldeb ar y cyd am waith yr ysgol effaith sylweddol ar ddealltwriaeth staff o sut i greu cwricwlwm sy’n ysbrydoli, yn cymell ac ysgogi’r holl ddysgwyr. Llwyddodd arferion a ddatblygwyd trwy’r ymgysylltiad â dysgu proffesiynol i feithrin model atebolrwydd iach. Roedd dosbarthu arweinyddiaeth yn cael ei ffafrio’n glir gan athrawon dros y model mwy traddodiadol o arweinyddiaeth hierarchaidd sy’n aml yn nodweddu ysgolion. Roedd athrawon yn deall ac yn arddel eu cyfrifoldeb ar y cyd, a’u hawl i gyfrannu at gynllunio a datblygu’r cwricwlwm. O’r herwydd, mae ystod helaeth o fedrau ac arbenigedd yn llywio darpariaeth y cwricwlwm ac roedd brwdfrydedd disgyblion am ddysgu yn effeithio ar gynnydd, agweddau at ddysgu, medrau a datblygiad cymdeithasol. Roedd dawn greadigol athrawon yn ffactor arwyddocaol o ran arloesi’r cwricwlwm. Roedd meddylfryd cyfrifoldeb ar y cyd hefyd yn cefnogi gweledigaeth yr ysgol i fod yn sefydliad dysgu dilys, lle mae cydweithio ac arloesi yn allweddol i welliant parhaus, ac mae’r capasiti ar gyfer twf, arweinyddiaeth a chynaliadwyedd yn ymestyn ar draws yr ysgol, a phawb yn elwa arno.
Yn 2021, adolygodd yr ysgol ei hymagwedd at Reoli Perfformiad ar sail effaith datblygiad proffesiynol ar ansawdd yr addysgu a’r dysgu. Erbyn hyn, mae gan athrawon un ffocws ymholi yn yr ystafell ddosbarth sy’n destun trafod a myfyrio parhaus trwy gydol y flwyddyn, yn lle tri ‘tharged’ traddodiadol yr ailedrychir arnynt unwaith yn ystod y flwyddyn. Bydd staff yn rhannu eu gwaith, gan gynnwys yr agweddau profi a methu sydd o fudd i ddysgu athrawon. Ar ddiwedd y cylch, bydd nifer o ymagweddau yn seiliedig ar dystiolaeth o ansawdd uchel sy’n effeithio orau ar ddysgu a dysgwyr yn cael eu rhannu. Mae’r ymagwedd ddiwygiedig hon at Reoli Perfformiad yn cyd-fynd â’r Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol, lle mae staff yn glir, yn ogystal â disgwyliad ar gyfer dysgu proffesiynol, fod ganddynt hawl i daith dysgu proffesiynol hefyd, a rhaglen o ymagweddau a chyfleoedd ar gyfer myfyrio, ymholi a chydweithio.
Mae dysgu proffesiynol wedi esblygu o ymagwedd draddodiadol wedi’i harwain gan arweinyddiaeth, a ddarperir fel arfer gan uwch staff ac a gynhelir ar ôl yr ysgol ar amseroedd penodol wedi’u pennu gan galendr yr ysgol. Cânt eu cyflwyno trwy sesiynau wyneb yn wyneb. Yn hytrach, mae hyblygrwydd yn allweddol i gynnal y diwylliant dysgu proffesiynol a chydweithio. Dewislen o sesiynau ar-lein wedi’i pharatoi gan athrawon, ac sy’n cael ei chyflwyno ganddynt, yw’r arfer sy’n cael ei ffafrio ar gyfer dysgu proffesiynol o hyd. Erbyn hyn, gall staff ddewis mynd at y sesiynau yn fyw o gartref neu fynd at recordiadau i weddu i’r ffordd o weithio maen nhw’n ei ffafrio. Mae hyn wedi dod yn llyfrgell dysgu proffesiynol ac mae athrawon yn ailymweld â hi’n rheolaidd yn ystod y flwyddyn i gefnogi ymholi ac ymchwil yn yr ystafell ddosbarth, arloesi ac archwilio agweddau ar addysgu a dysgu. Er bod y pennaeth yn nodi pum sesiwn orfodol y flwyddyn o hyd fel gweithgareddau amser cyfeiriedig, mae pob un o’r athrawon yn dewis mynychu llawer mwy o’r sesiynau a ddarperir, ac o ddewislen sy’n cynnwys bron i dri deg o sesiynau, mae bron pob un o’r staff yn mynychu pob sesiwn. Mae gwerthusiad presennol o sesiynau dysgu proffesiynol yn dangos bod 56% wedi eu graddio’n rhagorol, a 44% yn cael eu graddio’n dda. Defnyddir sylwadau ac adborth gan athrawon ar gyfer blaengynllunio.
Mae dysgu proffesiynol yn Ysgol Lewis i Ferched yn gryfder, yn cefnogi gwelliant parhaus yn ansawdd yr addysgu a’r dysgu, datblygu cwricwlwm cryf a modelu a thwf arweinyddiaeth. Ceir diwylliant o bartneriaeth, cydweithio, didwylledd ac ymddiriedaeth, sy’n cydnabod cryfderau ac yn defnyddio arbenigedd i rannu o fewn yr ysgol, a thu hwnt. Mae’n sefydliad dysgu gyda diwylliant o gyfrifoldeb ar y cyd a chyfrifoldeb unigol ar gyfer datblygiad personol a dysgu proffesiynol parhaus. Mae’r diwylliant hwn yn effeithio’n gynyddol ar waith yr ysgol. Er enghraifft, cynllunio a gweithredu cwricwlwm cyffrous sy’n cynnig profiadau dysgu perthnasol i ddisgyblion.
Mae arfer ar y cyd wedi arwain at gynllunio arloesol sy’n elwa ar ddisgyblaethau pwnc ac yn caniatáu i wybodaeth, medrau a dealltwriaeth gael eu trosglwyddo o fewn ac ar draws Meysydd Profiadau Dysgu. Mae hyn wedi arwain at ymgysylltiad disgyblion a mwynhad mewn dysgu. Mae rhannu arfer ystafell ddosbarth yn rhan annatod o waith yr ysgol ac wedi effeithio ar ddatblygu medrau darllen, ysgrifennu a chreadigol disgyblion ar draws y cwricwlwm. Mae cymorth rhwng cymheiriaid wedi bod yn hanfodol i ddatblygu staff sy’n ddigidol fedrus, yn hyderus mewn rhoi cyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio amrywiaeth o gymwysiadau meddalwedd ar draws holl feysydd y cwricwlwm. Mae’r diwylliant o gydweithio wedi rhoi’r hyder a’r capasiti i weithlu’r ysgol ymestyn y tu hwnt i’r ysgol, ac mae athrawon, yn enwedig arweinwyr canol, yn ymgymryd ag ystod eang o waith partneriaeth allanol i wella a rhannu eu harfer. Mae’r ysgol yn ysgol Arweiniol Broffesiynol gysylltiol ac yn Ysgol Rhwydwaith Dysgu hefyd, sy’n arwain mewn STEM, Ieithoedd Rhyngwladol a Lles. Mae hyn yn cefnogi twf arweinyddiaeth ac yn ymestyn capasiti’r ysgol ar gyfer gwella ymhellach.