Ynganu a thafodiaith
Rhaid wrth sicrhau bod hyder y dysgwyr yn eu gallu ieithyddol yn caniatáu iddynt ddeall yr hyn mae trigolion y gogledd-orllewin yn ei ddweud yn y Gymraeg, ac i efelychu’r dafodiaith honno.
Ceisir cyflwyno’r dafodiaith yn bennaf trwy sicrhau bod yr ynganiad a ddefnyddir gan y tiwtor wrth gyflwyno geirfa yn gyson ag yr hyn a glywir yn y cymunedau lleol. Gwelir hyn yn bennaf trwy ynganu nifer o ddeuseiniaid yn unsain er enghraifft – gwybod – gwbod, chwarae – chwara
Cyflwynir geirfa leol yn ogystal megis ‘hercan’ am ‘doriad gwallt’.
Mae’r dysgwyr yn canmol bod yr iaith gymunedol yn cael ei chyflwyno iddynt.
Sesiynau allgyrsiol
Mae defnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r dosbarth yn gam allweddol er mwyn i’r dysgwyr fagu’r hyder i’w defnyddio yn y gymuned. Roedd y cyfnod clo yn her o ran gallu cynnig cyfleodd i’r dysgwyr fentro gyda’u hiaith yn allgyrsiol.
Er mwyn rhoi elfen o normalrwydd i’r dysgwyr darparwyd nifer o sesiynau ar-lein i’r dysgwyr gan gynnwys nifer o sesiynau llesol e.e.
- Paned/llymed a sgwrs
- Clwb Darllen
- Clwb Garddio
- Cwis
- Gŵyl Haf Dysgwyr Dwyfor (efo cystadlaethau ‘sgwennu ayb)
Hefyd yn ystod Gwanwyn a Haf 2021, llwyddwyd i gynnal rhai digwyddiadau cefnogi dysgwyr wyneb yn wyneb e.e.
- Teithiau Cerdded
- Paned a sgwrs mewn caffi
Clybiau darllen
Mae darllen Cymraeg yn atgyfnerthu datblygiad yr iaith lafar. Mae’r dysgwyr yn dod ar draws geirfa newydd, ei gweld mewn cyd-destun ac yn dod yn fwy cyfarwydd â chystrawen y Gymraeg. Wrth gynllunio’r rhaglen ar gyfer 2020-21, gwelwyd yr angen i gynnig rhagor o gyswllt i’r dysgwyr â’r Gymraeg. Cynlluniwyd cyfres o glybiau rhithiol ar bob lefel, i redeg am gyfnodau byrion.
Cynigwyd 9 clwb darllen yn nhymor yr hydref, a llenwyd pob un bron yn syth. Gwelwyd yr angen i gynyddu’r ddarpariaeth, a chynigwyd 14 clwb ym mis Ionawr. Yn 2020-21, ymrestrodd 346 i fynychu’r clybiau darllen.
Bellach, mae tîm penodol o diwtoriaid yn gyfrifol am gynnal y clybiau darllen, ac am rannu adnoddau electronig a syniadau ar gyfer cynnal clwb darllen effeithiol ymhlith y staff.
Rhannu arferion da
Mae’r tiwtoriaid yn rhannu arferion da o ran dysgu ac addysgu mewn fforymau ardal sy’n cael eu cynnal yn dymhorol, yn ogystal â thrwy gyfrwng cyfarfodydd ar-lein ble mae grwpiau trafod ar gyfer pob lefel.