Arfer Effeithiol |

Defnyddio arweinyddiaeth wasgaredig i yrru gwelliant

Share this page

Nifer y disgyblion
210
Ystod oedran
4-11
Dyddiad arolygiad

 

Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Mae Glasllwch Primary School mewn ardal breswyl ar ochr ogleddol dinas Casnewydd. Mae 210 o ddisgyblion 4 – 11 oed yn yr ysgol, sy’n cael eu haddysgu mewn saith dosbarth un oedran.

Ar hyn o bryd, mae gan 1% o ddisgyblion hawl i gael prydau ysgol am ddim. Mae gan 16% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol. Daw’r rhan fwyaf o ddisgyblion o gartrefi Saesneg. Nid oes unrhyw ddisgyblion yn siarad Cymraeg fel eu mamiaith ac mae ychydig iawn ohonynt o gefndir ethnig lleiafrifol neu’n dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol.

Mae arweinyddiaeth ar bob lefel yn rhan annatod o’r safonau cyson uchel a gyflawnir ar draws yr ysgol. Mae’r Pennaeth wedi cyfleu gweledigaeth glir i staff, llywodraethwyr a rhieni am ddisgwyliadau uchel. Mae hyn yn sicrhau ymdrech ddygn i wella sy’n ganolog i fywyd yr ysgol. O ganlyniad, mae llawer o ddisgyblion yn cyflawni uwchlaw lefelau disgwyliedig yn asesiadau athrawon y Cwricwlwm Cenedlaethol, mae safonau lles yn rhagorol a gweithdrefnau ar gyfer hunanarfarnu a chynllunio ar gyfer gwella yn rhagorol.

Mae’r ysgol yn rhoi pwyslais cryf ar arweinyddiaeth ddosbarthedig effeithiol. Mae hyn yn hyrwyddo diwylliant dysgu proffesiynol cryf ar draws yr ysgol. Mae gan bob un o’r staff rolau a disgrifiadau swydd diffiniedig sy’n cael eu hadolygu’n rheolaidd trwy drefniadau rheoli perfformiad ac sydd wedi’u teilwra i yrru blaenoriaethau’r cynllun datblygu ysgol yn eu blaen.

Natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Mae’r strwythur staffio presennol wedi cael ei ad-drefnu i feithrin gallu arwain ar draws yr ysgol a bodloni anghenion yr ysgol yn fwy effeithiol. Mae gan bob aelod o’r tîm arweinyddiaeth ddisgrifiadau swydd wedi’u diffinio’n glir a dealltwriaeth dda o’u cyfrifoldebau strategol a’u hatebolrwydd, gan gynnwys rheoli perfformiad, monitro, arfarnu ac adolygu. Caiff staff ddatblygiad proffesiynol defnyddiol i’w cynorthwyo â’u rolau arwain yn eu meysydd cyfrifoldeb. Mae cyfarfodydd rheoli wythnosol yn canolbwyntio ar wella’r ysgol a chodi safonau yn unol â blaenoriaethau’r cynllun datblygu ysgol.

Caiff pynciau’r cwricwlwm eu grwpio gyda’i gilydd o dan y meysydd dysgu canlynol: cyfathrebu a diwylliant, arloesedd a datrys problemau, ac archwilio ac ymholi.

Caiff pob un o’r staff a’r llywodraethwyr eu neilltuo i’r timau hyn yn unol â’u harbenigedd neu feysydd diddordeb. Mae staff unigol yn arwain ar bynciau penodol ym mhob maes. Caiff rolau a chyfrifoldebau o fewn timau eu nodi gan arweinwyr tîm yn unol â’r agwedd ar hunanarfarnu yr ymgymerir â hi. Caiff amserlenni hunanarfarnu eu llunio ochr yn ochr â chynlluniau gweithredu blaenoriaethol sy’n cael eu nodi o ganlyniad i hunanarfarnu ysgol gyfan.

Mae amserlen ffocysedig ar gyfer cyfarfodydd a hyfforddiant staff yn sicrhau bod pob un o’r staff yn wybodus am faterion ysgol (blaenoriaethau) a’u bod yn cael datblygiad proffesiynol effeithiol yn unol ag anghenion yr ysgol. Mae arweinwyr y Cyfnod Sylfaen a chyfnod allweddol 2 yn cyfarfod yn rheolaidd â staff hefyd i sicrhau bod mentrau’n cael eu rhoi ar waith yn effeithiol gyda deilliannau cadarnhaol. Mae timau’n gweithio gyda’i gilydd i fyfyrio ar arfer bresennol ac yn ei diwygio neu’n ei gwella er mwyn cyflawni safonau uchel o ran addysgu a dysgu.

Caiff myfyrio parhaus ei annog a’i harfer gan bob un o’r staff. Mae rhannu arfer orau trwy arsylwadau ystafell ddosbarth, deialog broffesiynol a gwaith tîm yn creu hinsawdd gefnogol sydd wedi’i seilio ar ddidwylledd a gonestrwydd.

Mae’r strwythur staffio yn cynnwys tîm o gynorthwywyr addysgu cymwys a phrofiadol. Mae tri chynorthwyydd addysgu lefel uwch a dau gynorthwyydd addysgu lefel tri yn cyflenwi’n rhagorol ar gyfer cynllunio, paratoi ac asesu, rhyddhau rheolwyr, datblygiad proffesiynol parhaus a salwch. Mae hyn yn sicrhau parhad o ran y dull addysgu a dysgu ac fe gaiff effaith gadarnhaol ar les a safonau disgyblion. Nid yw’r ysgol wedi cael unrhyw gyllideb cyflenwi am y chwe blynedd diwethaf gan fod yr holl waith cyflenwi’n cael ei wneud yn yr ysgol. Mae gan y cynorthwywyr addysgu lefel uwch gyfrifoldebau arwain ar gyfer Cymraeg ail iaith, rhaglenni ymyrraeth a phrofion ar gyfer disgyblion ag ADY.

Mae diwrnod HMS blynyddol dynodedig ym mis Mai bob blwyddyn yn cynnwys pob un o’r staff a’r llywodraethwyr yn gweithio gyda’i gilydd i arfarnu cynlluniau gweithredu’r flwyddyn flaenorol i nodi cryfderau a meysydd i’w datblygu ar draws yr ysgol. O ganlyniad, caiff blaenoriaethau eu nodi ar gyfer y flwyddyn ganlynol ac fe gaiff cynlluniau gweithredu eu llunio.

Mae cynnwys pob un o’r staff a’r llywodraethwyr yn gweithio gyda’i gilydd yn galluogi proses effeithiol a thryloyw.

Mae’r corff llywodraethol yn gweithio’n agos iawn gyda’r tîm arweinyddiaeth ac mae’n dwyn yr ysgol i gyfrif yn drylwyr. Mae gan lywodraethwyr ddealltwriaeth ragorol o ddarpariaeth ar draws yr ysgol ac maent yn ceisio sicrhau gwelliannau mewn safonau ac ansawdd yn barhaus. Maent wedi datblygu system rheoli dogfennau a gwybodaeth ar-lein arloesol er mwyn iddynt allu mynd yn gyflym at yr holl ddeunydd perthnasol. Mae’r system hon yn galluogi cydweithio olrheiniadwy ar ddogfennau’r corff llywodraethol sy’n hyrwyddo cyfranogiad ehangach ac yn cynyddu effeithlonrwydd.

Rhoddir cyfleoedd rheolaidd i ddisgyblion ymgymryd â rolau arwain yn yr ystafell ddosbarth ac ar draws yr ysgol. Caiff gweithgareddau rheolaidd llais y disgybl eu cynllunio yn y cwricwlwm. Caiff disgyblion ddweud eu barn ynglŷn â’r hyn y mae arnynt eisiau ei ddysgu, sut maent am ddysgu a sut maent am gofnodi eu canfyddiadau. Caiff hyn effaith gadarnhaol ar les a safonau disgyblion.

Mae gan grwpiau cyfranogiad disgyblion ran weithredol mewn cyfleu prosiectau ymchwil a’u canfyddiadau i arweinwyr, staff a rhieni’r ysgol ac ysgolion eraill. Cânt eu cynnwys yn effeithiol mewn gwneud penderfyniadau am yr amgylchedd dysgu, sut mae disgyblion yn dysgu orau, iechyd a hylendid, gwella darllen, ymddygiad ysgol ac effaith brecwast ar ddisgyblion yn canolbwyntio yn y dosbarth.

Effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Mae arfer yr ysgol o ran arweinyddiaeth ddosbarthedig wedi cael effaith gadarnhaol ar y canlynol:

  • Safonau cyson uchel, sydd gryn dipyn uwchlaw safonau lleol a chenedlaethol
  • Cysondeb mewn cynllunio, addysgu, dysgu ac asesu
  • Diwylliant dysgu proffesiynol ar y cyd
  • Hinsawdd yn seiliedig ar barch, didwylledd ac ymddiriedaeth ar y ddwy ochr

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Arfer Effeithiol |

Ymchwil dargedig yn helpu i ddatblygu aferion addysgu arloesol

Gofynnwyd i staff yn Ysgol Gynradd Glasllwch amlygu cryfderau a meysydd ymarfer addysgu presennol y gellid eu gwella. ...Read more
Adroddiad thematig |

Arweinyddiaeth a gwella ysgolion cynradd

pdf, 621.61 KB Added 15/09/2016

Mae Rhan Un yr adroddiad hwn yn amlinellu nodweddion cyffredinol y gwahanol gamau ar daith wella ysgolion cynradd, ac yn amlygu pwysigrwydd arweinyddiaeth effeithiol a datblygu arweinyddiaeth ar y ...Read more