Ar lefel strategol mae datblygu’r medrau yn flaenoriaeth yn y cynllun gwella ysgol ac yn flaenoriaeth yng nghynlluniau gwella arweinwyr y meysydd dysgu a phrofiad. Mae cynlluniau gwella’r medrau wedi eu halinio'n ofalus â chynlluniau eraill er mwyn sicrhau bod cysondeb yn y modd mae arweinwyr yn gweithredu wrth ddarparu ac asesu’r medrau a bod llinellau atebolrwydd eglur. Mae’r cynlluniau yn cynnwys meini prawf llwyddiant a chyfleoedd cyson i werthuso cynnydd ac effaith. Cydweithia arweinwyr y medrau yn fwriadus â’r athrawon a’r staff cymorth er mwyn cyd gynllunio strategaethau a fydd yn datblygu’r medrau mewn modd cydlynol.
Mae’r model ar gyfer sut mae’r cymunedau dysgu proffesiynol yn yr ysgol yn gweithredu wedi cael eu strwythuro’n ofalus. Mae’n caniatáu i athrawon a staff cymorth o’r cynradd a’r uwchradd gyd-weithio i ddatblygu dealltwriaeth gadarn a chytûn o’r ffordd mae disgyblion yn datblygu eu hyfedredd yn y medrau o’r meithrin i fyny. Fel rhan o gylch gorchwyl y cymunedau dysgu proffesiynol, mae’n ofynnol i’r staff gwblhau ymchwil gweithredol yn seiliedig ar sut i ddatblygu’r medrau yn effeithiol. Maent hefyd yn cwblhau teithiau dysgu a phrosesau craffu ar y cyd er mwyn deall y daith ddysgu mewn cyd destun ysgol pob oed. Yn ogystal, er mwyn sicrhau cysondeb, mae athrawon a staff cymorth ar draws y camau cynnydd yn cael eu hysgogi i ystyried yn ofalus sut mae’r addysgeg a’r tasgau dysgu sydd yn cael eu cymhwyso yn y dosbarth yn caniatáu i bob disgybl i wneud cynnydd yn y medrau.
Rhennir tystiolaeth ac enghreifftiau o waith disgyblion ar wefan arbennig sydd wedi ei chreu yn benodol ar gyfer y medrau. Mae’r adnodd hwn yn caniatáu i athrawon i werthuso’r ddarpariaeth, i rannu arfer dda a hefyd i ddatblygu dealltwriaeth o ddatblygiad a chynnydd y dysgwr modd soffistigedig. Mae’r wefan hefyd yn caniatáu i’r athrawon i gael mwy o ymreolaeth i asesu cynnydd disgyblion. Cynigia’r polisi marcio ac adborth ysgol gyfan arweiniad i’r athrawon ynglŷn â sut i gyflwyno sylwadau sydd yn annog disgyblion i fyfyrio ar eu medrau a sut i wneud cynnydd pellach. Mae rhannu enghreifftiau o adborth effeithiol yn elfen allweddol o’r polisi.
Defnyddir ystod eang o ddata ansoddol a meintiol mewn modd deallus er mwyn llunio rhaglenni ymyrraeth pwrpasol i gynnig cefnogaeth bellach i unigolion neu grwpiau o ddisgyblion. Mae athrawon a staff cymorth yn dilyn amserlen sydd wedi’i llunio’n ofalus er mwyn darparu sesiynau mewn modd hylaw ac effeithiol. Mae disgyblion hŷn yr ysgol yn cynorthwyo’r disgyblion iau yn ystod sesiynau mentora strwythuredig.
Mae athrawon wedi canolbwyntio ar greu amgylchedd ddysgu ar draws yr ysgol sydd yn sicrhau bod disgyblion yn gwerthuso eu cynnydd yn y medrau yn hyderus ac yn llwyddiannus. Mae’r athrawon yn cynorthwyo’r broses o wneud hyn trwy sicrhau bod ieithwedd a chanllawiau sydd yn gysylltiedig â hunan werthuso pwrpasol yn weladwy ym mhob ystafell ddysgu. Mae ardaloedd dysgu megis Lloches Llythrennedd, Den Digidol a Rhanbarth Rhifedd yn sbarduno diddordeb a chwilfrydedd y dysgwyr. Cynigir amryw o glybiau allgyrsiol megis Clwb Codio, Clwb Darllen, Clwb Rhifedd sydd yn cynnig cyfleoedd i’r dysgwyr i fireinio a chymhwyso eu medrau mewn cyd destun anffurfiol.