Cydnabu’r ysgol fod angen gwneud newidiadau sylweddol i’w darpariaeth i gynorthwyo dysgwyr i ymgysylltu â llwybrau ysgol ac ôl-16. Dadansoddodd arweinwyr y systemau presennol, ailddehongli’r cymorth oedd ei angen, a chreu timau newydd o fewn yr ysgol, gydag un amcan, sef dileu rhwystrau rhag dysgu. O hyn, fe wnaethant nodi tri phrif faes angen a datblygu a mireinio rhaglen ymyrraeth deilwredig ar gyfer pob maes:
- Hafan – Mae’r rhaglen ymyrraeth hon yn cynorthwyo disgyblion y mae eu hymddygiad yn eu rhwystro rhag ymgysylltu.
- Cyflawni – Mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio i gynorthwyo disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
- Lles – Mae’r rhaglen hon yn cynorthwyo disgyblion y mae eu hiechyd meddwl ac anghenion iechyd emosiynol ehangach yn eu rhwystro rhag dysgu.
O fewn pob un o’r tair rhaglen, cynigir cwricwlwm teilwredig ac unigol i ddisgyblion sy’n sicrhau cydbwysedd rhwng yr amser a dreulir yn yr ardal gymorth â’r amser a dreulir mewn gwersi prif ffrwd. Mae cwricwlwm unigol pob disgybl yn mynd i’r afael â’i angen ac fe gaiff ei greu mewn cydweithrediad â’r disgybl. Er enghraifft, yn Hafan, mae disgyblion yn derbyn ymyrraeth uniongyrchol ar gyfer ymddygiad, yn ogystal â chyfleoedd i feithrin perthnasoedd dwfn a chadarnhaol. Mae’r ymyrraeth hon yn dylanwadu ar newidiadau ymddygiadol hirdymor ac yn cynorthwyo disgyblion i ymgysylltu â’u dysgu yn llwyddiannus.
Gydag arbenigedd staff ymroddgar, mae’r rhaglenni hyn yn cynorthwyo’r disgyblion mwyaf bregus i fynd i’r afael â’u rhwystrau rhag dysgu ac integreiddio’n llawn mewn gwersi prif ffrwd. Mae arweinwyr yn sicrhau bod y drefn staffio yn briodol ym mhob ardal fel bod y staff yn adnabod y disgyblion yn dda, a bod ganddynt yr amser a’r capasiti i gynorthwyo’r disgyblion a’u herio i fod yn fersiwn well ohonyn nhw eu hunain.
Yn ogystal â’r cwricwlwm teilwredig ym mhob un o’r tri phrif faes angen, mae’r ysgol yn cynnig cyfleoedd i bob un o’r disgyblion ar gyfer darpariaeth gwricwlaidd unigoledig. Er enghraifft, mae’n cynnig cyfleoedd cwricwlwm a gynhelir trwy chwaraeon, adeiladu, gwallt a harddwch trwy salon yr ysgol, a thechnoleg. Mae’r cyfleoedd hyn nid yn unig yn annog ac yn ennyn brwdfrydedd disgyblion tuag at eu llwybrau yn y dyfodol, ond hefyd yn datblygu medrau cymdeithasol, fel sut i siarad yn gwrtais a chreu perthnasoedd cadarnhaol â chwsmeriaid. Caiff hyn ei gyfleu wedyn yn y ffordd y maent yn rhyngweithio â’u hathrawon a’u cyfoedion.
Mae’r ysgol wedi datblygu tîm ymddygiad hefyd. Mae’r tîm hwn ar gael trwy gydol y dydd ac yn delio’n gyflym ag achosion o ymddygiad gwael neu aflonyddgar mewn gwersi, ac yn sicrhau bod disgyblion yn dychwelyd i ddysgu yn gyflym ac yn effeithiol.
I gryfhau’r cwricwlwm ymhellach, mae’r ysgol yn darparu rhaglen gynhwysfawr o weithgareddau i gynorthwyo’r holl ddisgyblion â’u hanghenion cymdeithasol ac emosiynol. Mae’r ddarpariaeth hon yn amrywio’n eang ac yn cynnwys gweithwyr ieuenctid yn yr ysgol, er enghraifft, a’r tîm lles sy’n cyflwyno gweithgareddau lles rheolaidd i ddatblygu gwydnwch disgyblion. Yn ychwanegol, cynigir rhaglenni teilwredig, er enghraifft ar gyfer cymorth mewn profedigaeth, rheoli dicter ac i gynorthwyo disgyblion i ryngweithio a chyfathrebu â phobl eraill yn effeithiol