Adroddiad thematig |

Ysgolion Ffederal - Nodweddion cyffredin ffedereiddio effeithiol

Share this page

Adroddiad thematig | 02/07/2019

pdf, 693.38 KB Added 02/07/2019

Mae’r adroddiad yn archwilio nodweddion ffedereiddio effeithiol. Mae’n nodi’r amodau, y prosesau a’r trefniadau sy’n arwain at ffederasiynau effeithiol, ac yn eu cynnal. Mae hefyd yn ystyried yr anawsterau posibl i ffederasiynau ac yn archwilio’r rhesymau pam nad yw ffederasiynau bob amser yn llwyddiannus. Mae’n nodi enghreifftiau o arfer effeithiol lle mae cyrff llywodraethol ac awdurdodau lleol wedi ffedereiddio’n llwyddiannus.

Argymhellion

Dylai ysgolion ffederal:

  • A1 Weithio gyda rhanddeiliaid o’r cychwyn i sefydlu gweledigaeth glir ar gyfer y ffederasiwn, sy’n canolbwyntio ar wella deilliannau ar gyfer disgyblion
  • A2 Datblygu strwythurau arwain ar gyfer y ffederasiwn, gan gynnwys rhywfaint o amser heb addysgu ar gyfer uwch arweinydd ar bob safle, i gefnogi gweithredu effeithiol o ddydd i ddydd a chyfathrebu da o fewn ysgolion, a rhyngddynt
  • A3 Defnyddio prosesau hunanwerthuso i nodi sut gellir defnyddio medrau ac arbenigedd staff i wella profiadau dysgu ar gyfer disgyblion ar draws y ffederasiwn
  • A4 Datblygu’r defnydd o TGCh i gefnogi cydweithio gan staff a disgyblion

Dylai ysgolion sy’n ystyried ffedereiddio hefyd:

  • A5 Werthuso effaith bosibl ffedereiddio ar safonau a lles disgyblion
  • A6 Nodi graddau ac effeithiolrwydd unrhyw gydweithio sy’n bodoli’n barod
  • A7 Nodi a gwerthuso effaith bosibl unrhyw rwystrau rhag ffedereiddio effeithiol, fel pellter daearyddol

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  • A8 Ddarparu cyfleoedd dysgu proffesiynol perthnasol ar gyfer uwch arweinwyr ysgolion ffederal
  • A9 Adolygu eu trefniadau cyllid er mwyn rhoi’r hyblygrwydd i ysgolion ffederal gydgyfrannu eu hadnoddau’n haws
  • A10 Rhannu arfer dda o ran ffedereiddio effeithiol gydag ysgolion wrth iddynt ystyried ymgymryd â’r broses ffedereiddio
  • A11 Sicrhau cymorth cyson ar gyfer yr holl ysgolion o fewn ffederasiwn, trwy ddefnyddio’r un ymgynghorydd her ar gyfer pob ysgol, er enghraifft

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A12 Archwilio trefniadau i helpu ysgolion ffederal i gydgyfrannu eu hadnoddau