Adroddiad thematig |

Cyngor ac arweiniad diduedd ar yrfaoedd i bobl ifanc 14-16 oed a ddarperir gan gynghorwyr Gyrfa Cymru

Share this page

Mae Gyrfa Cymru yn targedu’r bobl ifanc 14-16 mlwydd oed sydd fwyaf angen cyngor ac arweiniad annibynnol ar gyfer eu llwybrau gyrfa. Mae’r rhan fwyaf o gynghorwyr gyrfaoedd wedi paratoi’n dda ar gyfer y sesiwn arweiniad yn yr ysgolion a’r lleoliadau yr ymwelwyd â nhw, yn enwedig ble mae perthnasoedd ag ysgolion yn dda. Maent yn rhoi cyngor clir, ac yn aml yn herio syniadau peryglus neu afrealistig trwy holi mewn modd sensitif.

Mae’r rhan fwyaf o’r bobl ifanc sy’n gymwys i gael sesiwn arweiniad yn ymateb yn dda i’w cynghorydd. Maent yn ystyried cwestiynau o amgylch eu syniadau a’u cynlluniau cychwynnol, ac yn fodlon gweithio tuag at y cynllun gweithredu y maent yn ei greu gyda chymorth. Fodd bynnag, mae mannau cychwyn pobl ifanc yn amrywio’n eang, yn aml o ganlyniad i ansawdd cymorth gyrfaoedd gan eu hysgolion y maent wedi’i gael cyn y sesiwn.

Mae Estyn wedi darganfod nad yw Gyrfa Cymru bob amser yn glir ynghylch mesur effaith ac effeithiolrwydd eu gwasanaethau a’u strategaeth gyffredinol. At ei gilydd, nid yw prosesau’r cwmni ar gyfer gwerthuso effaith ei wasanaethau wedi’u datblygu’n ddigonol, gyda gormod o ffocws ar foddhad cleientiaid, a dim digon o ddadansoddi o ran pa effaith a gaiff y gwasanaeth ar wella ansawdd cynlluniau a phenderfyniadau cleientiaid. Mae hyn yn cyfyngu ar allu’r cwmni i seilio ei gynllunio gwelliant ar ddadansoddiad dibynadwy neu drylwyr o gryfderau’r gwasanaeth a’r meysydd i’w gwella.

Argymhellion

Dylai Gyrfa Cymru:

  • Ddatblygu systemau a meini prawf priodol i werthuso’r effaith a gaiff gwasanaethau ar effeithiolrwydd a gwydnwch pobl ifanc wrth iddynt gynllunio gyrfa a gwneud penderfyniadau
  • Sicrhau bod gwerthuso effeithiol, wedi’i seilio ar dystiolaeth gywir, gynhwysfawr a pherthnasol, yn llywio cynllunio strategol a gwella ansawdd
  • Cryfhau cysylltiadau gyda chwmnïau gyrfaoedd eraill i wella cyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol a datblygu arfer dda
  • Parhau i sicrhau bod dadansoddi o weithgareddau sicrhau ansawdd yn cael ei fwydo’n ôl i ysgolion unigol i gryfhau addysg gyrfaoedd ac addysg yn gysylltiedig â gwaith
  • Sicrhau bod pob un o’r staff yn hyrwyddo ymwybyddiaeth pobl ifanc o werth y Gymraeg fel medr cyflogaeth
  • Sicrhau bod pob un o’r staff yn deall trefniadau a gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer diogelu pobl ifanc

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol