Adroddiad thematig |

Codi cyrhaeddiad, cyflawniad a dyheadau plant sy'n derbyn gofal: adroddiad arfer orau

Share this page

Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar yr arfer dda sy’n bodoli mewn ysgolion, awdurdodau lleol a’r consortia rhanbarthol. Mae’r adroddiad yn cynnwys astudiaethau achos arfer orau. Mae wedi ei fwriadu ar gyfer Llywodraeth Cymru, llywodraethwyr, penaethiaid, uwch arweinwyr a staff mewn ysgolion, awdurdodau lleol a’r consortia rhanbarthol.

Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • A1 Adeiladu ar arfer orau yn unol â nodweddion ysgolion effeithiol a nodwyd yn yr adroddiad hwn

Dylai awdurdodau lleol:

  • A2 Adeiladu ar arfer orau yn unol â nodweddion awdurdodau lleol effeithiol a nodwyd yn yr adroddiad hwn

Dylai’r consortia rhanbarthol:

  • A3 Wella’r modd y maent yn cynllunio’r Grant Amddifadedd Disgyblion ar gyfer plant sy’n derbyn gofal i wneud yn siŵr bod ysgolion yn glir ynglŷn â’r blaenoriaethau ar gyfer defnyddio’r grant a bod eu cynlluniau’n rhoi digon o ystyriaeth i anghenion cymhleth plant sy’n derbyn gofal

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A4 Ystyried ehangu mesurau perfformiad i gynnwys cynnydd o gymharu â man cychwyn y plant ac yn ymestyn y tu hwnt i oedran ysgol statudol

  • A5 Gwneud yn siŵr bod cynlluniau gwariant y consortia rhanbarthol yn briodol i angen lleol ac wedi eu seilio ar ddadansoddiad cadarn o anghenion plant sy’n derbyn gofal

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol