Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Estyn 2024-2025
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi prif waith Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Estyn yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025. Prif rôl y Pwyllgor yw darparu cyngor annibynnol i Brif Arolygydd EF a Swyddog Cyfrifyddu Estyn. Felly, yn ystod y flwyddyn, mae’r Pwyllgor wedi delio â’r prosesau strategol ar gyfer risg, rheoli a llywodraethu trwy ganlyniadau’r archwiliadau mewnol ac allanol yn ogystal â’r broses hunanwerthuso a phrosesau eraill. Mae gan y Pwyllgor rôl allweddol mewn diffinio agweddau ar y gwaith archwilio a monitro ymatebion rheolwyr i’r materion a godwyd.
Mae’r adroddiad yn disgrifio’r modd y bu i’r Pwyllgor gyflawni’r cyfrifoldebau hyn yn ystod 2024-2025 a chanlyniad y gwaith mewn perthynas â gwelliannau pellach wrth lywodraethu a rheoli’r sefydliad. Mae’r adroddiad wedi ei fwriadu i lywio Datganiad Llywodraethu’r Swyddog Cyfrifyddu a fydd yn cael ei gynnwys yn Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol Estyn ar gyfer 2024-2025.