Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Estyn 2023-2024 - Estyn

Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Estyn 2023-2024


Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi prif waith Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Estyn yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024. Prif rôl y Pwyllgor yw darparu cyngor annibynnol i Brif Arolygydd EF a Swyddog Cyfrifyddu Estyn. Felly, yn ystod y flwyddyn, mae’r Pwyllgor wedi delio â’r prosesau strategol ar gyfer risg, rheoli a llywodraethu trwy ganlyniadau’r archwiliadau mewnol ac allanol yn ogystal â’r broses hunanwerthuso a phrosesau eraill. Mae gan y Pwyllgor rôl allweddol mewn diffinio agweddau ar y gwaith archwilio a monitro ymatebion rheolwyr i’r materion a godwyd.