Adroddiad Blynyddol ar y Gymraeg yn Estyn 2024-2025
Mae’r trydydd adroddiad blynyddol ar ddeg hwn yn cynnwys crynodeb o gynnydd a wnaed rhwng Mawrth 2024 ac Ebrill 2025 yn erbyn y blaenoriaethau a nodwyd yn adroddiad y llynedd.
Blaenoriaethau ar gyfer 2024-2025
- Datblygu rhaglen hyfforddi gynhwysfawr sy’n cyd-fynd yn dda ag anghenion ieithyddol a phroffesiynol unigolion a’r sefydliad.
- Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws y sefydliad, trwy ddefnyddio medrau iaith cyflogeion, ble bynnag y maent ar y continwwm iaith.
- Hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg gyda’r rhai rydym ni’n gweithio gyda nhw, e.e. darparwyr rydym yn eu harolygu, ein hadborth i ymgynghoriadau cyhoeddus ac wrth gontractio ag asiantaethau trydydd parti.