Adroddiad Blynyddol ar y Gymraeg yn Estyn 2023-2024
Mae’r deuddegfed adroddiad blynyddol hwn yn cynnwys crynodeb o gynnydd a wnaed rhwng Mawrth 2023 ac Ebrill 2024 yn erbyn y blaenoriaethau a nodwyd yn adroddiad y llynedd.
Blaenoriaethau ar gyfer 2023-2024
- Defnyddio llais staff mewn modd cynhwysol a rhagweithiol wrth ddatblygu ein gwasanaethau a’n harlwy Cymraeg yn fewnol ac yn allanol, fel ei gilydd.
- Parhau i fireinio ein hymagwedd at fesur cymwyseddau aelodau staff yn y Gymraeg i lywio gofynion datblygiad proffesiynol yn y dyfodol yn fwy effeithlon.
- Datblygu rhaglen hyfforddi gynhwysfawr sy’n cyd-fynd yn dda ag anghenion ieithyddol a phroffesiynol unigolion a’r sefydliad.
- Gweithredu pecyn cymorth ARFer o 2023 ymlaen, trwy ei gynnig i’r holl gyflogeion ar draws y sefydliad, er mwyn defnyddio medrau Cymraeg siaradwyr rhugl a dysgwyr o fewn y sefydliad, a normaleiddio’r defnydd o’r Gymraeg ymhellach. (Gweler Atodiad 7 am ddiffiniad o brosiect ARFer).
- Hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg gyda’r rhai rydym ni’n gweithio gyda nhw, e.e. darparwyr rydym yn eu harolygu, ein hadborth i ymgynghoriadau cyhoeddus ac wrth gontractio ag asiantaethau trydydd parti.