Ymagwedd ysgol gyfan at ddatblygu creadigrwydd - Estyn

Ymagwedd ysgol gyfan at ddatblygu creadigrwydd

Arfer effeithiol

Bishopston Comprehensive School

Athro yn rhyngweithio â myfyrwyr mewn lleoliad ystafell ddosbarth llachar.

Gwybodaeth am yr ysgol / y darparwr  

Mae Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt yn ysgol gyfun gymysg cyfrwng Saesneg 11 i 16 sydd wedi’i lleoli ym Mro Gŵyr ger Abertawe. Mae 1128 o ddisgyblion ar y gofrestr, ac mae 6.12% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yr ysgol yn siarad Saesneg fel eu hiaith gyntaf, a daw’r rhan fwyaf ohonynt o gefndir gwyn Prydeinig. Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg fel eu hiaith gyntaf. Canran y disgyblion ag anghenion addysgol arbennig yw 19.5%. Mae cyfleuster addysgu arbenigol (CAA) Llandeilo Ferwallt yn cefnogi disgyblion ag anawsterau lleferydd, cyfathrebu ac iaith. Yn ychwanegol, mae mwyafrif y disgyblion sy’n mynychu’r CAA wedi cael diagnosis o awtistiaeth.  

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol 

Ar ôl COVID, gwelodd yr ysgol, ar draws y cwricwlwm, fod angen i ddisgyblion ddatblygu gwydnwch ac nad oedd ganddynt y medrau angenrheidiol i weithio’n annibynnol. Daeth hyn yn amlwg trwy ystod o ddangosyddion, gan gynnwys arolwg Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion a barn staff, disgyblion a rhieni. Daeth monitro a datblygu medrau ar draws y cwricwlwm yn ffocws ysgol gyfan. Ochr yn ochr â medrau llythrennedd, rhifedd, cymhwysedd digidol a medrau corfforol, sefydlwyd ymagwedd at ddatblygu a monitro creadigrwydd disgyblion. 

Tyfodd arwyddocâd creadigrwydd mewn datblygu’r rhaglen medrau, oherwydd nodwyd bod creadigrwydd yn effeithio ar holl fedrau a holl feysydd y cwricwlwm. Yn y byd heddiw sy’n newid yn gyflym, mae arweinwyr yn teimlo nad yw creadigrwydd yn ychwanegiad opsiynol sydd wedi’i gyfyngu i’r Celfyddydau Mynegiannol mwyach. Yn hytrach, mae’n fedr hanfodol i’w archwilio a’i ddatblygu ym mhob disgybl ar draws y cwricwlwm cyfan.  

Mae ymagwedd yr ysgol at fonitro a datblygu creadigrwydd yn cysylltu â’r ymagwedd ysgol gyfan at fetawybyddiaeth a hunanreoleiddio, gan feithrin creadigrwydd mewn disgyblion ar draws yr holl bynciau a’r meysydd dysgu a phrofiad, gan eu helpu i ‘ddysgu sut i ddysgu’. Mae llawer o’r ymagwedd hon o ganlyniad i daith yr ysgol fel Ysgol Greadigol Arweiniol trwy raglen Cyngor Celfyddydau Cymru. Er mwyn ymdrin â beth yw creadigrwydd a meddwl creadigol, mewn gwirionedd, gyda staff a disgyblion, canolbwyntion nhw ar ddefnyddio ymchwil ynghylch datblygu arferion creadigol y meddwl. Darparodd hyn fframwaith sy’n rhannu creadigrwydd yn bum arfer allweddol, sef: bod yn ddychmygus, yn ymholgar, yn ddyfal, yn gydweithredol ac yn ddisgybledig. Mae’r arferion hyn wedi darparu iaith gyffredin ar gyfer athrawon a disgyblion ac wedi cynnig strwythur y gellir ei ddefnyddio i addysgu, monitro a datblygu creadigrwydd ar draws y cwricwlwm. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch  

Er mwyn ymgorffori eu hymagwedd ysgol gyfan at greadigrwydd, roedd dysgu proffesiynol yn allweddol. Roedd HMS ysgol gyfan yn cynnwys sesiynau ‘chwalu’r chwedlau’ ynglŷn â beth yw creadigrwydd, ac i’r gwrthwyneb. Arweiniodd nodi creadigrwydd trwy’r 5 arfer greadigol at ddealltwriaeth a gwerthfawrogiad gwell o lawer o greadigrwydd ar draws y cwricwlwm. Caiff creadigrwydd ei werthfawrogi a’i ddatblygu ym mhob maes pwnc, ac nid yw’n cael ei weld mwyach yn rhywbeth sy’n digwydd yn y Celfyddydau Mynegiannol yn unig.  

Sefydlwyd rôl ddatblygu i arweinydd canol arwain ar greadigrwydd ysgol gyfan, gan weithio’n agos gyda’r arweinydd canol medrau sy’n arwain ar fetawybyddiaeth a hunanreoleiddio. Arweiniodd y bartneriaeth hon at ymagwedd greadigol ar y cyd at hunanreoleiddio. Sefydlwyd y 5 arfer greadigol yn sbardunau i gynorthwyo disgyblion wrth hunanreoleiddio ac addasu eu hymagwedd at dasg. Yn sgil yr ymagwedd hon ar y cyd, sy’n cysylltu metawybyddiaeth, hunanreoleiddio a chreadigrwydd, cryfhawyd eu gwerth a chyfranogiad cynyddol gan staff.  

Yn ogystal â dysgu proffesiynol, cyflwynwyd sesiynau ‘hyfforddi’ disgyblion i bob un o ddisgyblion cyfnod allweddol 3 yn rhan o’r ddarpariaeth Iechyd a Lles. Roeddent yn defnyddio metawybyddiaeth, hunanreoleiddio a chreadigrwydd i wella’u deilliannau wrth gydweithio i ddatrys problem aerodynamig, gan ymchwilio a dod o hyd i wybodaeth i gefnogi a sgaffaldio eu dysgu eu hunain.   

Gan fod yr ymagwedd at greadigrwydd a dealltwriaeth ohono ar draws y cwricwlwm wedi’u gwreiddio’n gadarn, datblygwyd rhaglen hunanwerthuso / cynllunio gwelliant. Edrychodd hyn ar addysgu a dysgu trwy fwrw golwg ar lyfrau a theithiau dysgu wedi’u harwain gan gymheiriaid, gan nodi’r arferion creadigol a sut maent yn cael eu datblygu ymhlith y disgyblion. Roedd arsylwadau o’r fath yn cynnwys ystyried defnyddio cwestiynau penagored (ymholgar), archwilio rhagdybiaethau amgen (dychmygus), dyfalbarhau trwy ymchwilio heriol (dyfal), gofyn i ddisgyblion ddod o hyd i ddulliau lluosog i ddatrys problem (disgybledig a dychmygus), neu weithio mewn timau i ddylunio cynnyrch i ddatrys problem (cydweithredol). 

Fe wnaeth y data ansoddol a gafwyd o’r gweithgareddau hyn lywio adroddiad a adroddwyd yn ôl i staff trwy gyfleoedd dysgu proffesiynol dilynol, yn cynnig enghreifftiau o arfer effeithiol mewn ystafelloedd dosbarth ac yn awgrymu meysydd i’w datblygu yn y dyfodol. Mae’r cylch myfyriol hwn o arsylwi, dathlu llwyddiant a nodi meysydd i’w gwella wedi sicrhau, trwy amlygu creadigrwydd mewn addysgegau, ei fod yn fedr sy’n cael ei ddatblygu yn y disgyblion ac nad yw’n cael ei adael i ffawd yn unig.  

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr? 

Caiff monitro’r effaith y mae’r ymagwedd hon yn ei chael ar safonau disgyblion ei llywio gan ddata meintiol ac ansoddol, fel ei gilydd. Mae’r enghreifftiau hyn o Gelf, Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Astudiaethau Busnes yn cynnig mewnwelediad i’r effaith y mae’r ymagwedd hon at ddatblygu creadigrwydd ar draws y cwricwlwm yn ei chael ar ddisgyblion: 

  • Celf: Er ein bod wedi canolbwyntio ar yr arferion creadigol ar draws y cwricwlwm cyfan, rydym wedi canfod, trwy godi ymwybyddiaeth yn CA3 o beth yw creadigrwydd a’i bwysigrwydd fel medr trosglwyddadwy, fod hyn wedi effeithio ar niferoedd yr opsiynau mewn pynciau creadigol penodol yn CA4. Yn 2024, roedd 64 o ddisgyblion a ddewisodd astudio celf. Yn 2025, dewisodd 72 o ddisgyblion astudio celf ar gyfer TGAU.   
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Casglwyd barn disgyblion ar effeithiolrwydd ein hymagwedd at fetawybyddiaeth ac arferion creadigol y meddwl. O arolwg a gynhaliwyd yn 2024, gwelodd 94.4% o ddisgyblion fod y fframwaith hwn yn fuddiol wrth ateb cwestiynau arddull arholiad, gweithio allan a chynllunio ateb cyn ei ysgrifennu. Llwyddodd 43.8% o ddisgyblion i gyflawni gradd A*/A. Mae hyn yn gynnydd sylweddol o flynyddoedd academaidd blaenorol, ac yn sylweddol uwchlaw cyfartaledd yr ALl, sef 25.6%. 
  • Astudiaethau Busnes: Trwy fabwysiadu’r ymagwedd hon at fetawybyddiaeth a meddwl creadigol, llwyddodd dysgwyr i gyflawni cynnydd o 20-30% mewn marciau mewn cwestiynau 10 marc estynedig. Cyflawnwyd hyn trwy ddefnyddio’r fframwaith hwn i gael eu hymatebion, eu cynllunio a dod i gasgliad. 

Wrth i’r ysgol baratoi ei disgyblion i fod yn ‘gyfranwyr mentrus, creadigol, sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith’, mae arweinwyr o’r farn nad yw ymrwymiad ar draws yr ysgol i ddatblygu creadigrwydd fel medr yn ddymunol yn unig; mae’n hanfodol. Trwy ymgorffori arferion creadigol y meddwl ar draws y cwricwlwm ac olrhain eu defnydd a’u heffaith, mae arweinwyr yn Llandeilo Ferwallt o’r farn eu bod yn sicrhau bod eu disgyblion yn deall beth yw meddwl creadigol ac yn cael y cyfle i ddatblygu eu creadigrwydd, sy’n fedr hanfodol am oes.  

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu arfer dda â’r awdurdod lleol, consortia ac ysgolion eraill trwy gyfarfodydd rhwydwaith a thrafodaethau proffesiynol. Canolbwyntiodd HMS ar y cyd ag ysgol gynradd leol ar sut i ddefnyddio arferion creadigol y meddwl i gefnogi metawybyddiaeth a hunanreoleiddio. Yn ystod y sesiwn hyfforddi hon, gweithiodd ysgolion gyda’i gilydd i ddatblygu dealltwriaeth ar y cyd o iaith ac enghreifftiau o arfer effeithiol ym mhob cam cynnydd. 

 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn