Crynodeb gweithredol
Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar feysydd i’w gwella a nodwyd yn adroddiad ymweliad monitro cyntaf Estyn (Estyn, 2023) ac yng ngwerthusiad ffurfiannol Llywodraeth Cymru o Twf Swyddi Cymru + (Llywodraeth Cymru, 2024). Gwerthusom:
- y broses atgyfeirio a phrofiadau cyfranogwyr yn ystod y cyfnod hwn
- pa mor dda y mae cyflwyno’r cwricwlwm yn bodloni anghenion amrywiol cyfranogwyr ac yn eu paratoi i symud ymlaen i ddysgu pellach neu gyflogaeth
I gasglu tystiolaeth ar gyfer yr adroddiad hwn, ymwelom â phob un o’r pum contractwr arweiniol, gan gynnwys 21 o bartneriaid sy’n isgontractwyr, ar draws cyfanswm o 49 o ganolfannau cyflwyno Twf Swyddi Cymru+ (TSC+) ledled Cymru. Fe wnaethom arsylwi sesiynau; siarad â chyfranogwyr; cynnal ymchwil wrth y ddesg i adolygu prosesau atgyfeirio; dadansoddi gwybodaeth perfformiad allweddol ar draws y contract a chyfarfod â chyflogwyr a rhanddeiliaid eraill.
Ers yr ymweliadau monitro cychwynnol, mae’r broses atgyfeirio wedi cael ei chryfhau’n sylweddol trwy gydweithio effeithiol rhwng contractwyr arweiniol, Cymru’n Gweithio a Llywodraeth Cymru. Mae dogfennau atgyfeirio diwygiedig wedi gwella’r broses o gasglu manylion angenrheidiol am anghenion unigol cyfranogwyr ac wedi helpu i leoli cyfranogwyr yn fwy cywir ar yr elfen gymorth orau. Fodd bynnag, mae’r broses ar gyfer rhannu gwybodaeth am gyfranogwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) wedi dod yn llai effeithlon, gan fod Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (Llywodraeth Cymru, 2021) yn atal Cymru’n Gweithio rhag rhannu Cynlluniau Datblygu Unigol (CDUau) yn uniongyrchol â chontractwyr wrth atgyfeirio i’r rhaglen.
Mae’r defnydd cynyddol o atgyfeiriadau uniongyrchol wedi caniatáu i ddarparwyr nodi’r galw am y rhaglen a dechrau cyfranogwyr ynghynt. Fodd bynnag, mae’r galw cynyddol am leoedd a chyfranogwyr yn aros ar raglenni am gyfnodau hwy wedi arwain at restrau aros mewn rhai rhanbarthau, gan greu oedi yn nyddiadau dechrau cyfranogwyr a chynyddu’r risg o ymddieithrio.
Roedd mwyafrif y cyfranogwyr ar raglen TSC+ ar yr elfen ymgysylltu, gyda llawer ohonynt yn dangos rhwystrau sylweddol rhag symud ymlaen ymhellach, fel pryderon iechyd meddwl a phroblemau â’u hyder. Roedd darparwyr yn cynnig cymorth lles cryf, gan gynnwys sesiynau a oedd yn canolbwyntio ar reoli gorbryder, ffyrdd iach o fyw a datblygiad personol. Roedd y rhan fwyaf o ddarparwyr yn cyflogi gwasanaethau cymorth, fel anogwyr gwydnwch a chwnsleriaid, yr oedd cyfranogwyr yn eu gwerthfawrogi ac yn manteisio arnynt yn rheolaidd.
Yn gyffredinol, roedd darparwyr yn annog dilyniant cyfranogwyr trwy elfennau’r rhaglen ac i gyflogaeth neu addysg bellach a hyfforddiant, gyda llwybrau dilyniant ac amserlenni disgwyliedig wedi’u nodi. Fodd bynnag, nid oedd ychydig o gyfranogwyr ar yr elfen ymgysylltu yn gwneud y cynnydd roeddent yn gallu ei wneud oherwydd amharodrwydd i symud ymlaen i gyfleoedd lleoliadau gwaith, ac roedd yn well ganddynt aros yn y ganolfan lle’r oeddent yn teimlo’n fwy diogel o gwmpas eu ffrindiau, eu tiwtoriaid a’u hanogwyr.
Ar yr elfen Datblygu, roedd argaeledd darpariaeth sy’n benodol i’r sector yn rhy amrywiol ar draws gwahanol rannau o Gymru. Mewn rhai ardaloedd, roedd gan gyfranogwyr ystod eang o ddewis o ddarpariaeth mewn sectorau fel adeiladu, gofal a manwerthu; fodd bynnag, mewn ardaloedd eraill, roedd rhaglenni’n canolbwyntio ar gymwysterau cyflogadwyedd cyffredinol. O ganlyniad, ni all bob unigolyn ifanc fanteisio ar ddarpariaeth sydd wedi’i theilwra i’w dewisiadau unigol. Mewn ychydig o achosion, nid oedd gwahaniaeth rhwng yr hyn o gyflwynwyd yn yr elfennau ymgysylltu a datblygu, a oedd yn golygu nad oedd ychydig o gyfranogwyr yn glir ynghylch eu cyfleoedd dilyniant. Roedd llawer o gyfranogwyr ar yr elfen datblygu yn manteisio ar gyfleoedd lleoliad gwaith yn gyflym; fodd bynnag, roedd rhaid i ychydig ohonynt aros am leoliadau oherwydd yr heriau yr oedd darparwyr yn eu hwynebu o ran cael digon o gyfleoedd lleoliad gwaith ar draws meysydd galwedigaethol.
Roedd yr elfen gyflogaeth yn parhau i gael ei danddefnyddio, a nododd darparwyr fod gofynion cyllido rhy fiwrocrataidd a’u bod yn gallu dod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth eraill i’r rhai sy’n barod i symud ymlaen i waith. O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr yn blaenoriaethu eu dyraniad adnoddau i fodloni’r galw am elfennau eraill y rhaglen.
Mynegodd y rhan fwyaf o gyfranogwyr brofiadau cadarnhaol o’r rhaglen, gan werthfawrogi’r amgylcheddau dysgu cefnogol a’r sylw personol gan staff. Sonion nhw am lefelau uchel o gymorth bugeiliol ac roeddent yn gwerthfawrogi’r ystod o weithgareddau cyfoethogi y mae darparwyr yn eu cynnig, gan ddweud eu bod yn eu helpu i fagu hyder, medrau cymdeithasol a medrau gweithio mewn tîm.